Taf-Od

Y Gynghanedd ar Gynnydd

Tarddiad: Srividya Balayogi (drwy flickr)
Tarddiad: Srividya Balayogi (drwy flickr)
Mae niferoedd yn cynyddu wrth i fwy o bobl ifanc ddysgu’r sgil o gynganeddu. Ond, oni ddylai dysgu’r grefft fod yn rhan o gwrs yr ysgol?

Gan Nel Richards | Golygydd Taf-od

Wrth i fwy o bobl ifanc ddysgu am eu treftadaeth Gymreig yma yng Nghymru, tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, cwestiwn sy’n codi’n aml yw ‘pam nad yw cynganeddu’n cael ei ddysgu i ddisgyblion yn yr ysgol?’ Wrth i’r cyfnod clo fod yn gatalydd i fwyfwy o bobl ddysgu sgiliau newydd, mi ddewisodd nifer o bobl cynganeddu fel eu sgil newydd nhw.

Ysgol Farddol Caerfyrddin ar y brîg

Cynhelir Ysgol Farddol Caerfyrddin gwersi cynganeddu ers 1992. Fel arfer, mi fydd dosbarthiadau’n cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Cwins Caerfyrddin, ond yn sgîl cyfyngiadau’r pandemig, mae sawl dosbarth yn cael eu cynnal yn wythnosol ar zoom, lle mae degau o bobl yn mynychu. Yn y dosbarthiadau, ceir gyfle i weithio gyda llenorion uchel eu parch, megis Mererid Hopwood, Tudur Dylan Jones a Geraint Roberts, ond yn bwysicach, ceir gyfle i greu yn y sesiynau yma. Yn ystod y cyfnod clo, bu trigolion ar draws Cymru, o Lundain ac o ochr arall y byd, ym Mhatagonia yn dysgu’r grefft.

Un aelod o’r Ysgol Farddol hon yw Annell Dyfri, sydd hefyd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd. Dros y cyfnod clo, buodd yn dysgu sut i fynd ati i ysgrifennu englynion;

“Mae’r awydd i ddysgu’r grefft o gynganeddu wedi bod ynddai ers cryn dipyn o amser, ac er imi gael ambell wers gan fy mrawd yn y gorffennol, bûm yn ffodus iawn i allu ymuno ag Ysgol Farddol Caerfyrddin yn rithiol yn ystod y cyfnod clo. Roedd yn braf iawn gallu dysgu elfen newydd a phwysig o’r Gymraeg yn ystod y cyfnod  ac rwyf wedi parhau fel aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin ers hynny er fy mod bellach yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Dw i’n mwynhau mynychu’r sesiynau er mwyn parhau i ddatblygu fy nealltwriaeth o’r gynghanedd.”

Y beirdd yn dysgu

Dros y cyfnod clo, fe gynhaliodd yr Eisteddfod Genedlaethol (AmGen) gyfres o wersi ar y gynghanedd, yn rhithiol. Roedd yr athrawon hyn yn cynnwys, Aneurin Karadog, Karen Owen a Robat Powell; prifeirdd sy’n arbenigo yn y maes. Mae rhai o’r farn y dylai’r unigolion yma fynd i mewn i wersi a dysgu’r sgil, yn uniongyrchol i’r bobl ifanc, megis Owain Ap Myrddin, sydd yn fyfyriwr yn y drydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd;

“Dwi’n meddwl fod angen dysgu pobol i ddeall beth ydi cynghanedd yn iawn i dechrau a’r ffordd orau i wneud hynny yn fy marn i ydy trwy gael pobol i sgwennu cynghaneddion eu hunain. Mi fyddai’n anodd iawn i wneud hyn yn amlwg gan nad ydi’r mwyafrif o athrawon Cymraeg yn medru cynghaneddu beth bynnag, ond dyma’r ffordd orau i annog diddordeb ac i werthfawrogi’r grefft.”

Er bod gweithdai yn cael eu cynnal mewn rhai ysgolion yn barod, cred rhai y dylid dysgu’r grefft o greu, gan bwysleisio ar y gynghanedd ym myd ysgrifennu creadigol, fod yn rhan o gwrs Gymraeg yr ysgol, o oed ifanc.

A yw gormod o bwysais ar ddysgu’r rheolau, ond yn llacio o ran cael y cyfle i gyfansoddi? Neu a yw bobl ifanc Cymru yn astudio manylion iaith cymaint, tan eu bod ddim yn mwynhau bellach? Er ellir hyn fod yn wir, pwysig cofio bod mwy o drigolion ifanc, sydd yn ein hysgolion â’r angerdd i ddefnyddio un o elfennau mwyaf unigryw Cymru.

Add Comment

Click here to post a comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *

css.php