Taf-Od

Cronfa iaith Gymraeg: ┬ú1 miliwn i hybuÔÇÖr Gymraeg

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddioÔÇÖr gronfa newydd hon i hybuÔÇÖr Gymraeg yng Nghymru

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

Ar y 19eg o Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ┬ú1 miliwn ar gyfer prosiectau newydd dros hyd a lled y wlad er mwyn hybuÔÇÖr defnydd oÔÇÖr Gymraeg a Chymreictod. Dywedodd Jeremy Miles, gweinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg ac Addysg, bod y Llywodraeth yn gobeithio y bydd yr arian yn eu ÔÇ£helpu i ddybluÔÇÖr defnydd dyddiolÔÇØ [oÔÇÖr Gymraeg] a chyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

MaeÔÇÖr gweinidog yn awyddus i annog holl drigolion Cymru i ddysgu, siarad a defnyddioÔÇÖr Gymraeg, dywedodd, ÔÇ£maeÔÇÖr Gymraeg yn perthyn i ni gyd, pÔÇÖun ai bod niÔÇÖn siarad Cymraeg ai peidio.ÔÇØ Gobeithiai y bydd yr arian ymaÔÇÖn creu cyfleoedd i bobl o bob cefndir ddysguÔÇÖr iaith pa bynnag eu lefel o Gymraeg ar hyn o bryd.

HybuÔÇÖr Gymraeg ledled Cymru

Caiff cyllid ei ddarparu iÔÇÖr Ganolfan Addysg Genedlaethol ar gyfer prosiectau i gynyddu hygyrchedd ac addysg y Gymraeg. Fe fydd hyn yn cynnwys darpariaeth o gyrsiau i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru wrth iddynt weithio mewn partneriaeth ├ó ÔÇÿSay Something in Welsh.ÔÇÖ Ni fydd yn rhaid iÔÇÖr mynychwyr allu siarad Cymraeg yn rhugl gan fydd y cyrsiau ar gael yn yr ieithoedd a siaredir fwyaf gan ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru.

Yn ogystal, fe fydd arian yn cael ei rhoi iÔÇÖr mudiad ÔÇÿRhieni dros Addysg GymraegÔÇÖ (RhAG) gydaÔÇÖr nod o ddatblygu gwybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg mewn ieithoedd lleiafrifol. Dywed Llywodraeth Cymru maiÔÇÖr ÔÇ£nod yw cefnogi teuluoedd y mae eu plant yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, ond nid Cymraeg na Saesneg ywÔÇÖr prif ieithoedd syÔÇÖn cael eu siarad gartref. Yn ogystal ├ó hyn, y nod yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ymysg cymunedau ethnig lleiafrifol.ÔÇØ Dywedodd Wyn Williams, cadeirydd cenedlaethol RhAG, wrth BBC Cymru Fyw y byddaiÔÇÖr nawdd yn mynd at brosiect syÔÇÖn “torri tir newydd o ran cyflwyno’r iaith i gymunedau newydd.ÔÇØ Bwriad RhAG aÔÇÖu prosiectau fydd ÔÇ£rhannu neges gadarnhaol am yr iaith fel pont i gysylltu diwylliannau a chreu’r teimlad o berthyn.ÔÇØ

Buddsoddiad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Fel rhan oÔÇÖr cyllid sydd ar gael, maeÔÇÖr Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd ┬ú600,000 yn cael ei roi iÔÇÖr Eisteddfod Genedlaethol a fydd yn Nhregaron eleni. Yn ├┤l y Llywodraeth-

ÔÇ£Bydd y cyllid yn cefnogiÔÇÖr sefydliad i baratoi r gyfer y digwyddiad eleni, sydd am gael ei gynnal rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst. Bydd yn helpu i gyflawni ei nodau o wneud yr Eisteddfod yn agored i gynulleidfa ehangach.ÔÇØ

Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, wrth Newyddion S4C ei bod hiÔÇÖn ÔÇ£ddiolchgar iawn iÔÇÖr Gweinidog aÔÇÖr Llywodraeth am eu cefnogaeth, aÔÇÖu hawydd i weithio gyda ni i sicrhau llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni. Wrth ddychwelyd at gynnal Eisteddfod ar faes, ryÔÇÖn ni wedi gweld ein costau niÔÇÖn cynydduÔÇÖn aruthrol ers 2019, gyda chwyddiant, effaith y pandemig a phris yswiriant ymysg y costau sydd wedi codiÔÇÖn arw… Ond yr hyn sy’n bwysig yw boÔÇÖ ni wedi cymryd rhai elfennau a weithiodd yn ystod Covid a’i ymgorffori nhw fewn i’r Eisteddfod fodern ‘ma.ÔÇØ

Dywedodd Jeremy Miles, syÔÇÖn cynrychioli rhanbarth Castell-nedd, mai-

“Diben y cyhoeddiad heddiw yw ei gwneud hi’n haws nag erioed defnyddio ein hiaith a’n diwylliant.ÔÇØ

ÔÇ£Rydyn ni wrth ein boddau i weithio gyda’n partneriaid ar brosiectau mor amrywiol, sydd i gyd yn cefnogi ein nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’n hiaith erbyn 2050.ÔÇØ

[mks_button size=”small” title=”Nansi Eccott” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/nansi-eccott/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á[mks_button size=”small” title=”Taf-od” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/taf-od/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á