Taf-Od

Gwaith celf yn y brifddinas i ddathluÔÇÖr gymuned LHDTC+┬á

Mae gwaith celf newydd wedi cael ei ddadorchuddio ar Stryd y Castell er mwyn dathlu a chodi proffil Mis Hanes LHDTC+ sydd yn digwydd yn flynyddol ym mis Chwefror.

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

Mae eleni yn flwyddyn arbennig gan ei bod yn nodi hanner canrif ers gorymdaith Pride cyntaf y Deyrnas Unedig a ddigwyddodd yn Llundain ar y 1af o Orffennaf 1972. 

Cychwynnwyd Mis Hanes LHDTC+ yn y DU gan Sue Saunders, Paul Patrick a mudiad Schools Out UK ac feÔÇÖi lansiwyd am y tro cyntaf ym mis Chwefror 2005.

Mae Mis Hanes LHDTC+ yn gyfle pwysig i ddangos cefnogaeth iÔÇÖr gymuned a dathlu poblogaeth LHDTC+ ein gwlad gan sicrhau tegwch a llais iddynt yn y gymuned ehangach.

Eleni, y thema yw celf aÔÇÖr slogan ÔÇÿThe Arc is LongÔÇÖ gydag ysbrydoliaeth o ddywediad gan Dr Martin Luther King Jr. sef ÔÇ£The Art of the moral universe is long but it bends toward justice.ÔÇØ Defnyddiwyd dywediad gan Keith Haring sef ÔÇ£Art should be something that liberates your soul, provokes the imagination and encourages people to go furtherÔÇØ fel sail briodol iÔÇÖr thema yma gan fod celf yn weithgarwch syÔÇÖn hybu creadigrwydd ac unigoliaeth. Defnyddiwyd y thema i archwilioÔÇÖr syniadaeth o sut y mae mynegiad creadigol yn bwydo cynnydd gwleidyddol.

Peintiwyd pedair baner ÔÇÿProgress PrideÔÇÖ o flaen castell y brifddinas i ddathluÔÇÖr gymuned LHDTC+. Maent yn faneri cyfoes sydd wedi ychwanegu at y faner chwe lliw traddodiadol i gynnwys y lliwiau pinc, gwyn a glas i gynrychioliÔÇÖr gymuned drawsrywiol aÔÇÖr lliwiau du a brown i gynrychioliÔÇÖr cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.┬á

Yn ├┤l gwefan ÔÇÿLGBT Plus History Month,ÔÇÖ maeÔÇÖr faner lliw enfys yn cael ei defnyddio yn draddodiadol fel ÔÇ£arwydd o oes newydd, gobaith neu newid cymdeithasol.ÔÇØ Pethau y mae Cyngor Caerdydd eisiau cyfleu, yn ogystal ├ó chefnogaeth, iÔÇÖr gymuned.

MaeÔÇÖr castell hefyd wediÔÇÖi oleuo gyda lliwiauÔÇÖr enfys yn ddyddiol ers Chwefror 1af fel rhan oÔÇÖr dathliadau.

Cyhoeddodd Pride Cymru ar Twitter eu bod yn hynod o falch ÔÇ£i weld Cyngor Caerdydd yn ymuno ├ó dinasoedd eraill ledled y DU i ddathlu amrywiaeth ein cymunedau a chydnabod pa mor bwysig yw gwelededd ein cymuned LGBTQ+ wrth herio casineb a gwahaniaethu.ÔÇØ

Dywedodd Chris Weaver, Cynghorydd ac Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, wrth Newyddion S4C y “”bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda’r gymuned ac eraill i wneud Caerdydd mor ddiogel a chynhwysol ├ó phosibl.”

ÔÇ£Oherwydd taw celf ywÔÇÖr thema, roeddwn am sicrhau bod y dyluniadau ÔÇÿPrideÔÇÖ blaengar mor weladwy ├ó phosibl iÔÇÖr cyhoedd, felly dyma pam y peintiwyd nhw ar Stryd y Castell, y brif ffordd syÔÇÖn pasio trwy ganol y ddinas.ÔÇØ

“Waeth beth fo’ch hil, credoau crefyddol, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, neu rywedd, mae ein gwasanaethau a’n cefnogaeth ar agor i bawb ac fel cymdeithas mae’n rhaid i ni gofleidio gwahaniaeth a phwysleisio pwysigrwydd cydraddoldeb a chynhwysiant i bawb.ÔÇØ

[mks_button size=”small” title=”Nansi Eccott” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/nansi-eccott/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á[mks_button size=”small” title=”Taf-od” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/taf-od/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á