Pryd o Daf-od

Pryd o Daf-od: Annell Dyfri

Riffiau cwrel ywÔÇÖr ecosystemau morwrol mwyaf amrywiol ar y ddaear ac yn ddiweddar wrth i'r moroedd gynhesu, maent o dan fygythiad.

Pryd o Daf-od: Gan Annell Dyfri

ÔÇÿMae hi yr un mor lliwgar o dan y d┼Ár ac ydyw uwchbenÔÇÖ. Cofiaf yn dda y sylwadau hynny gan aelod oÔÇÖr teulu traÔÇÖn deifio a snorclo yn y m├┤r oddi ar ynys fechan yn y Caribi rai blynyddoedd yn ├┤l. Y darlun ystrydebol hwnnw sydd wedi meddiannuÔÇÖr meddwl wrth ystyried bywyd o dan y don ers ein bod yn blant bach. Y bywyd rhamantus, y bywyd hudol llawn pysgod amryliw a phlanhigion lliwgar. Ond maeÔÇÖr darlun traddodiadol hwnnwÔÇÖn prysur ddiflannu wrth inni droiÔÇÖn golygon iÔÇÖr hyn sydd wirioneddol yn byw a bod o dan y d┼Ár.

Riffiau cwrel ywÔÇÖr ecosystemau morwrol mwyaf amrywiol ar y ddaear ac maent yn gweithredu fel cartref i lwyth o anifeiliaid a rhywogaethau. Hebddynt byddaiÔÇÖr ecosystemau yn dadelfennu gan beryglu bodolaeth dwsinau lawer o anifeiliaid gan arwain, yn y pen draw, at ddiflaniad rhywogaethau amrywiol. Am byth.

Pwy sydd ar fai?

Gyda llygaid y byd ar gynhadledd COP26 yn Glasgow ar hyn o bryd, effaith newid hinsawdd sydd wrth wraidd y dinistr eang syÔÇÖn digwydd yn ein moroedd led-led y byd. Mae hyn yn digwydd law yn llaw ├ó llygredd di-ben-draw, gor-bysgota a chynnydd yn lefel a thymheredd y m├┤r. MaeÔÇÖr cyfan yn cyfuno i dagu bywyd o dan y don. ┬áAÔÇÖr hyn syÔÇÖn gyffredin iÔÇÖr prosesau hyn i gyd? Wel, y sawl syÔÇÖn gyfrifol amdanynt, wrth gwrs. Ni! Chi a fi!

Y sawl syÔÇÖn byw ar y blaned. Y sawl sydd wedi meddiannu ei thiroedd aÔÇÖi moroedd. Ni. Pob un ohonom ni. Ni syÔÇÖn dinistrioÔÇÖr blaned. Ni syÔÇÖn gyfrifol bod y cwreliÔÇÖn diflannu o flaen ein llygaid. Yn ddyddiol. Os na newidiwn ein ffordd o fyw bydd yr ecosystemau hyn wedi llwyr ddiflannu ymhen rhai blynyddoedd. Ac wrth ddiflannu, fydd dim modd eu hadfer. Byth.

Ymchwil

Fel arfer, gall gwaith ymchwil ein helpu i ddatrys sefyllfaoedd heriol fel hyn. Ond, yn yr achos hwn, does dim digon o ymchwil wedi digwydd hyd yn hyn a all gynnig ffyrdd posibl o wrthdroiÔÇÖr difrod a wnaed iÔÇÖr cwreli led-led y byd. Teg nodi ein bod wedi aros iÔÇÖr difrod ddigwydd o flaen ein llygaid, gan arwain at ddiflaniad rhywogaethau ÔÇô yn bysgod, planhigion a chwrel – cyn i ni ystyried gweithredu.

Fel ymateb iÔÇÖr difrod, mae gwyddonwyr wedi mynd ati i geisio ail-greu modelau oÔÇÖr cwrel mewn labordai ac yna eu trosglwyddo o dan y d┼Ár i weld os byddent yn cael effaith gadarnhaol ar yr ecosystem. Er bod rhai achosion wedi bod yn llwyddiannus, mae cryn dipyn o waith i ddigwydd eto er mwyn sicrhau adfywiad ar raddfa eang.

Beth y gallwn ni wneud?

Fel un sydd wedi bod yn ddigon ffodus o snorclo mewn sawl cefnfor, maeÔÇÖr sefyllfa yn un syÔÇÖn fy mhryderuÔÇÖn fawr. Rwyf innau wedi cael y fraint o gydnofio ├ó physgod o bob si├óp a maint yn eu cynefin aÔÇÖm dymuniad fyddai i genedlaethauÔÇÖr dyfodol gael yr un wefr ymhen blynyddoedd eto. Ond, er mwyn i hynny ddigwydd, bydd angen iÔÇÖm cenhedlaeth innau newid ei ffordd o fyw a newid ei hagwedd at ei hamgylchfyd. Bydd angen i ni gyd fod yn llawer mwy gofalus wrth i ni fwynhau rhyfeddodauÔÇÖr m├┤r gan sicrhau bod yr eli haul a ddefnyddiwn yn un syÔÇÖn garedig iÔÇÖr amgylchedd aÔÇÖn bod yn ailgylchuÔÇÖn bwrpasol a thaflu sbwriel iÔÇÖr biniau priodol. Ac, yn bennaf oll, mae angen ein haddysgu ni i gyd am yr hyn sydd o dan fygythiad aÔÇÖr ffaith y gall y byd rhyfeddol hwnnw o dan y don ddiflannu o flaen ein llygaid yn sgil ein difaterwch aÔÇÖn diofalwch ni. RwyÔÇÖn mawr obeithio y bydd y gynhadledd syÔÇÖn digwydd yn Glasgow ar hyn o bryd yn fan cychwyn ar y broses honno.

About the author

Tafod