Taf-Od

Rali: Nid yw Cymru ar werth

Ar ddydd Sadwrn y 13eg o Dachwedd, cynhaliwyd rali ÔÇÿNid yw Cymru ar werthÔÇÖ ar risiauÔÇÖr Senedd er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng tai syÔÇÖn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gan Nansi Eccott | Golygydd Taf-od

MaeÔÇÖr cynnydd yn niferoedd y tai haf ac ail dai yng Nghymru ac ardaloedd eraill oÔÇÖr DU wedi achosi pryder i nifer dros hyd a lled y wlad wrth iÔÇÖr farchnad tai droiÔÇÖn gystadleuaeth gyflog. Yn sgil y pandemig aÔÇÖr cynnydd ym mhrisiau tai yn ddiweddar, golyga ei bod hi bron yn amhosib iÔÇÖr genhedlaeth ifanc neuÔÇÖr rheiny sydd yn ennill cyflogau is gallu fforddio prynu t┼À yn eu cymunedau genedigol. Yn ├┤l Stats Cymru Gwynedd ywÔÇÖr Sir gydaÔÇÖr nifer fwyaf o ail dai yng Nghymru (8.15%) gyda Sir Benfro yn ail (6.45%) ac Ynys M├┤n yn drydydd ar y rhestr (6.11%.) Golyga hyn felly bod 1 o bob 10 t┼À ar draws y tair sir yma yn ail gartref. Dengys ffigyrau bod prisiau 95% o dai ar draws Cymru gyfan yn uwch na lefelau lwfans tai lleol sydd syÔÇÖn golygu eu bod yn anfforddiadwy iÔÇÖr rhai syÔÇÖn derbyn credyd cynhwysol.

Yr ymgyrchu

Cafodd y rali yn y brifddinas ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith ÔÇô ÔÇ£Cymdeithas o bobl syÔÇÖn gweithreduÔÇÖn ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan oÔÇÖr chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.ÔÇØ Bwriad y rali oedd sicrhau gweithredu brys gan Lywodraeth Cymru i dacloÔÇÖr problemau anghyfiawnder tai sydd yn wynebu pobl Cymru a thrwy hyn sicrhau cartref i bobl y wlad er mwyn i gymunedau Cymraeg allu ffynnu ledled Cymru.

Cafodd y gynulleidfa o dros fil o bobl eu hannerch gan Rhys Tudur oÔÇÖr ymgyrch Hawl i Fyw Adra, Ali Yassine, a Chadeirydd Cymdeithas yr Iaith- Mabli Siriol Jones. Roedd yr ymgyrchwyr yn galw am Ddeddf Eiddo fydd, yn ├┤l Cymdeithas yr Iaith, yn cynnwys:

ÔÇ£Rheoli prisiau tai a rhent a newid y diffiniad o d┼À fforddiadwy; Rhoi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad; Dod ├ó thai gwag ac ail dai i mewn i ddwylo cyhoeddus; Gosod cap ar nifer yr ail dai a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned; A democrateiddioÔÇÖr system gynllunio.ÔÇØ

Mynychodd Gwion Llwyd, Cadeirydd Plaid Ifanc Caerdydd, y rali gydaÔÇÖi ffrindiau er mwyn codi ymwybyddiaeth dros y sefyllfa ÔÇ£annhegÔÇØ sydd yn eu gwynebu fel pobl ifanc yng Nghymru. Dywedodd Gwion ei fod yn pryderu am y dyfodol ÔÇ£gan fy mod yn ansicr os gaf iÔÇÖr un cyfleoedd a fy rhieni, aÔÇÖu rhieni nhw i brynu t┼À, nid yn unig yn fy nghymuned leol, ond yng Nghymru o gwbl.ÔÇØ Yn ├┤l y myfyriwr ÔÇ£y cam nesaf buasai i Lywodraeth Cymru gyfarfod gydag aelodau oÔÇÖr mudiad sydd yn cefnogi deddfwriaethau llymach ar ail dai/tai haf, er mwyn cyd-weithio i ddatrys yr argyfwng hwn.ÔÇØ Awgryma Gwion y bydd modd cyflwyno ÔÇ£trethi uwch ar ail dai, neu wahardd tai newydd gael eu defnyddio fel ail daiÔÇØ er mwyn sicrhau tegwch i bobl leol Cymru.

[mks_button size=”small” title=”Nansi Eccott” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/nansi-eccott/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″]┬á[mks_button size=”small” title=”Taf-od” style=”squared” url=”https://cardiffstudentmedia.co.uk/gairrhydd/taf-od/” target=”_self” bg_color=”#FF0000″ txt_color=”#FFFFFF” icon=”” icon_type=”” nofollow=”0″] ┬á