Taf-Od

Ymgyrch ‘Free Britney’ yn ennill

Ar ├┤l bron i 14 mlynedd o dan geidwadaeth, maeÔÇÖr gantores Britney Spears wediÔÇÖi rhyddhau o freichiau ei thad.

Gan Nel Richards | Pennaeth Taf-od

Fel mae llawer yn gwybod, cantores byd enwog yw Britney Spears sydd wedi cyrraedd y siartiau sawl gwaith – gyda phum sengl rhif 1, chwe albwm rhif 1, a 150 miliwn o recordiau wediÔÇÖu gwerthu ledled y byd. Mae Britney yn cael ei hystyried gan Billboard fel yr wythfed artist mwyaf 2000-2010.

Wrth iddi fod o dan geiwadaeth am bron i 14 mlynedd, dechreuodd ÔÇÿFree BritneyÔÇÖ i ymgyrchu ar lawr gwlad i frwydro iÔÇÖw rhyddhau.

Beth ydy ceidwadaeth (conservatorship)?

Statws cyfreithiol ble maeÔÇÖr llys yn penodi person i reoli materion ariannol unigolyn neu berson o dan oed neu anghymwys yw ceidwadaeth. Gall person o’r fath hefyd wasanaethu fel gwarcheidwad syÔÇÖn gyfrifol am fonitro gofal corfforol a threfniadau byw’r unigolyn.

Wrth i Spears wrthsefyll cyfranogiad ei thad yn y geidwadaeth breifat, defnyddiodd ei harian i ymladd yn ├┤l. Mae dogfennau llys diweddar yn dangos bod cyfreithwyr Jamie wedi bilio bron i $900,000 am bedwar mis o waith, rhwng mis Hydref, 2020, a mis Chwefror, 2021.

Ymgyrchu

Daeth rhyddhad ddydd Gwener 12fed o Dachwedd i Britney Spears wrth iÔÇÖw cheidwadaeth o bron i 14 mlynedd ddod i ben. Roedd hefyd yn fuddugoliaeth iÔÇÖr mudiad #FreeBritney, yr ymgyrch dan arweiniad cefnogwyr.

Mae cefnogwyr Britney wedi bod yn wyliadwrus ers amser maith o’r telerau ceidwadaeth ac yn aml wedi cwestiynu aÔÇÖi dymaÔÇÖr peth gorau iddi. Ysgrifennodd FreeBritney.net, a lansiwyd yn 2009, ddatganiad cyffredinol ynghylch pam eu bod yn credu nad oes angen cadwraethau llym ar ei bywyd aÔÇÖi gyrfa.

Cyflwynwyd swyddi amser llawn a th├«m trefnu proffesiynol, i ymchwilio iÔÇÖr trefniant a oedd yn rheoli bywyd Spears, gan gadw llygaid ar ei chyfryngau cymdeithasol ar gyfer cliwiau, archwilio dogfennau llys, trefnu digwyddiadau ar-lein a chynnal gwrthdystiadau y tu allan i wrandawiadau llys a chyngherddau i godi ymwybyddiaeth o’r hyn oedd yn digwydd.

Effeithiau tymor hir y mudiad

Dywedodd Jasmine E Harris, athro cyfraith ym Mhrifysgol Pennsylvania ac arbenigwr mewn ceidwadaeth, fod achos Spears wedi dangos p┼Áer pwysau cyhoeddus, ac y byddai Spears yn debygol o fod yn sownd yn y trefniant pe na bai wedi cael y cyfle i siarad yn y llys.

Tynnodd y mudiad #FreeBritney sylw at fater hawliau pobl anabl, meddai Harris, gan nodi bod llawer o bobl ag anableddau yn parhau i fod yn gaeth yn y trefniadau hyn: ÔÇ£Bydd yn parhau i fod yn anhygoel o anodd i bobl sydd mewn ceidwadaeth i adfer eu gallu cyfreithiol.ÔÇØ

Dywedodd fod angen buddsoddi mwy mewn dewisiadau amgen i geidwadaeth sy’n caniat├íu i bobl gael cefnogaeth wrth gynnal eu hymreolaeth: ÔÇ£Mae hyn yn effeithio ar bobl ifanc ag anableddau ledled y wlad. Ac felly mae hyn yn haeddu ein sylw parhaus. ÔÇØ

Nid yw ymdrechion y mudiad wedi gorffen gyda Spears. Mae eiriolwyr wedi troi eu sylw at y system geidwadaeth yn ehangach, gan frwydro dros ddiwygio neu ddiwedduÔÇÖr system warcheidwaeth yn llwyr, gan weithio gyda grwpiau hawliau anabledd yng Nghaliffornia i noddi deddfwriaeth.

Beth nesaf i Britney?

Bydd y seren yn cychwyn pennod newydd oÔÇÖi bywyd, gan gynnwys priodi ├óÔÇÖi dyweddi Sam Asghari heb fod angen cymeradwyaeth ei chadwraethwyr. Mae’r anghydfod cyfreithiol gyda’i thad yn debygol o barhau ar ├┤l i’r geidwadaeth ddod i ben, fodd bynnag.

Ym mis Gorffennaf, dywedodd Spears ei bod yn barod i “bwyso cyhuddiadau” yn erbyn ei thad. “Rhaid i mi gael gwared ar fy nhad a’i gyhuddo o gam-drin ceidwadaeth,” meddai.

Gall cam-drin cadwraeth gynnwys manteisio’n ariannol neu osod cyfyngiadau personol gormodol ar rywun yn eich gofal.

Felly, yn wir, maeÔÇÖr ymgyrch #FreeBritney wedi rhyddhau Britney Spears o flynyddoedd o geidwadaeth – ac mae hiÔÇÖn blasu rhyddid yn fwy na dim byd.