Clebar

Pam ddylen ni siarad y Gymraeg?

Alexa Price

Yn anffodus maeÔÇÖr canrifoedd diwethaf wedi gweld lleihad sylweddol yn y nifer o siaradwyr yr iaith Cymraeg yng Nghymru. Esblygodd yr iaith Cymraeg oÔÇÖr ieithoedd Llydewig a Chernyweg, sydd yn dyddio yn ├┤l i ddiwrnodau’r Celtiaid. Cymraeg felly yw un o ieithoedd henaf Ewrop. MaeÔÇÖr iaith wedi chwarae rhan fawr yn helpu siapio ein hanes a diwylliant cyfoethog, felly i weld yr iaith yn dioddef yng ngwlad ei hun yn broblem fawr. Does dim mwy na 30% o bobl Cymru ar hyn o bryd yn siarad yr iaith Cymraeg, sydd yn fy nigalonni yn fawr. O ganlyniad iÔÇÖr ystadegau hynny, dadl fawr sydd yn cael ei hystyried yn aml yw os ydyÔÇÖr iaith dal yn berthnasol yma yng Nghymru, yn nodedig yn y De lle mae llai o bobl eto yn siarad yr iaith. Teimlaf yn gryf bod hanes ac iaith Cymru yn cael eu hedrych trwyddo, yn lle uno ni fel gwlad, ac mae oÔÇÖn bryd i hynny newid!

Yn dilyn llofruddied ein tywysog Llywelyn ap Gruffydd gan y Saeson yn 1282, mae o wedi bod yn broblem gynyddol o weld Cymru fel rhan o Loegr oherwydd y dylanwad Saesneg gwelwn yn hanes Cymru. Er enghraifft, yn yr 19eg ganrif gwelwn gynnydd yn athrawon yn defnyddio tactegau fel yr ÔÇÿWelsh NotÔÇÖ i geisio cosbi plant Cymraeg a chodi cywilydd am siarad eu hiaith. Er mae hanes hir yn ├┤l ywÔÇÖr esiamplau yma, maent dal yn cael effaith ar hanes a pherthnasau Cymru heddiw gyda gwledydd fel Lloegr.

Er fy mod i ond yn 19 mlwydd oed, maeÔÇÖr sgil yna o allu siarad yn y Gymraeg wedi elwa iÔÇÖn fawr. Cefais fy magu yn nheulu a bu ond yn siarad trwy gyfrwng y Saesneg, ac felly dewis mawr gan Fam a Dad oedd danfon eu plant i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg. Roedd dewis i fynd iÔÇÖr Brifysgol i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn addasiad mawr i mi ar ├┤l gwneud 15 mlynedd o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn sydyn cefais fy nhaflu i mewn i fyd lle dydy pawb ddim yn gallu siarad yn yr iaith, lle ond addysg Saesneg roeddwn i yn cael. Er hyn, teimlaf fy mod Prifysgol Caerdydd yn annog eu myfyrwyr Cymraeg i gymryd yr holl gyfleoedd sydd ganddynt i siarad yr iaith. Mae gen i diwtor personol efo pwy ddwiÔÇÖn cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal ├ó ffrindiau agos sydd i gyd yn siarad yn y Gymraeg.

Mae bod yn ddwyieithog ond wedi sicrhau fy mod i yn hyderus efo fy sgiliau gramadeg a chyfathrebu, sydd wedi fy elwa i yn fawr yn ystod fy mhrofiadau yn y Brifysgol ac yn y byd gwaith. Yn ogystal ├ó bod yn fyfyrwyr llenyddiaeth lawn-amser, dwi hefyd yn gweithio yn rhan-amser yng nghanol y ddinas fel gweinyddes. Er bod yr oriau yn gallu bod yn hir, mae oÔÇÖn swydd wobrwyol iawn. Mae gwybod fy mod i yn gallu cyfathrebu efo cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn deimlad cynnes, ac yn rhywbeth dwi wedi neud ar sawl achlysur. RwyÔÇÖn gwybod wrth wneud hyn fy mod i yn sicrhau bod cwsmeriaid yn teimlo yn gyfforddus ac fel bod dewis ganddynt i allu defnyddioÔÇÖr iaith. Er bod y niferoedd yn brin, maeÔÇÖr gallu i siarad yn y Gymraeg yng nghanol-ddinas y wlad yn mor bwysig!

About the author

Contributing Writer