Clebar

Trysorau Cudd Caerdydd

Geiriau gan Catrin Lewis

OÔÇÖr castell iÔÇÖr afon Taf, mae digonedd o fannau unigryw mae pawb yn eu hadnabod aÔÇÖu caru yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, mae Caerdydd hefyd yn gartref i amrywiaeth o drysorau cudd o gaffis i barciau a siopau annibynnol. Darllenwch ymlaen i ddarganfod mwy am rhai oÔÇÖn hoff drysorau cudd yn y brifddinas a ble gallwch ddod o hyd iddyn nhw.

Eartha

Caffi llysieuol a siop planhigion mewn un yw Eartha sydd wedi ei lleoli yn City Road. Eu nod yw creu ardal wyrdd yn y ddinas syÔÇÖn hybu cynaliadwyedd a chefnogi busnesau lleol. MaeÔÇÖr holl elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol trwy gyfrwng gweithdai, comisiynau a buddsoddiad mewn mentrau. Maent wedi gwneud eu diddordeb mewn cefnogi pobl greadigol y gymuned yn amlwg ac mae amryw o gynnyrch megis ffa coffi, printiau a nwyddau ymolchi ar gael yn eu siop. Yn ogystal, mae ffocws cryf ar ddefnyddio cynnyrch Cymraeg yn eu bwydlen ac maeÔÇÖr holl wirodydd y tu ├┤l iÔÇÖw bar wedi eu cyflenwi gan ddistyllfeydd Cymreig. Felly, mae cefnogi busnesau bach ar draws Cymru yn chwarae r├┤l flaenllaw yn Eartha.

Marchnad Caerdydd

Er maeÔÇÖn debyg bod pawb sydd wedi byw yng Nghaerdydd yn ymwybodol o fodolaeth y farchnad yng nghanol y ddinas, nid yw bawb yn ymwybodol cymaint o fusnesau gwreiddiol sydd iÔÇÖw cael yno. MaeÔÇÖn gartref iÔÇÖr siop recordiau KellyÔÇÖs Records syÔÇÖn arbenigo mewn cerddoriaeth brin, y gellir ei chasglu a cherddoriaeth wedi ei ddileu ac felly mae siawns y gallech ddod o hyd i recordiau sydd ddim ar gael yn unman arall yno. Yn ogystal, mae FrankÔÇÖs Hotdogs yn stondin fwyd unigryw gan eu bod yn arbenigo mewn c┼Án poeth tra bod becws feganaidd hefyd ar gael yno sef The Naked Vegan. IÔÇÖr rheiny syÔÇÖn ffafrio llyfrau dros recordiau, mae The Bear Island Book Exchange yn gwerthu llyfrau syÔÇÖn brin neu anodd i gael gafael arnynt. Maent hefyd yn gwerthu teitlau Cymraeg yn ogystal ├ó Saesneg. FellyÔÇÖn sicr, mae rhywbeth i bawb ym Marchnad Caerdydd ac maeÔÇÖn safle perffaith i gychwyn ar eich siopa Nadolig.

Motel Nights

IÔÇÖr rheiny sydd wedi cael digon ar fynd iÔÇÖr run bariau a thafarndai pob wythnos, maeÔÇÖn debyg y byddaidyluniad retro a gwreiddiol Motel Nights yn llwyddo iÔÇÖch denu i mewn. Mae gan y lleoliad, sydd iÔÇÖw ganfod yng Nghanton, ddigon iÔÇÖw gynnig megis eu cocktails, bwyd stryd ac ambell i ddigwyddiad gan gynnwys noson gomedi a chwis. Yn ogystal, maent wedi cydweithio gyda Disco Motel, Tramshed Caerdydd a Clwb Ifor Bach i drefnu nosweithiau clwb yn ystod mis Rhagfyr aÔÇÖr flwyddyn newydd. Fel Eartha, mae Motel Nights hefyd yn gefnogwyr mawr o fusnesau lleol, Cymreig ac maent yn cynnal marchnadoedd ar eu tudalen Instagram ble maent yn rhoi llwyfan i grefftwyr lleol rannu a hybu eu cynhyrchion. Does dim amheuaeth bod Motel Nights yn llwyddo i sefyll allan ymysg bariau a thafarndai eraill Caerdydd ac mae eu cynllun lliw llachar ac addurniadau bywiog yn creu atmosffer unigryw i unman arall.

Gardd Do Castell Caerdydd

Er bod Castell Caerdydd yn un o ardaloedd fwyaf adnabyddus y ddinas, does dim llawer yn ymwybodol bod gardd do ar gael yno. MaeÔÇÖr ffynhonnau d┼Ár a murluniau wedi eu peintio yn gwneud yr ardd do yn ardal wahanol iawn i unman arall yng Nghaerdydd. Cafodd ei adeiladu ac addurno 1873-6 yn Nh┼Ár y Biwt gan y pensaer William Burges ac maeÔÇÖr safle wedi cael ei ddisgrifio fel un eclectig a mympwyol gan feirniaid. Mae’r waliau’n darlunio stori Elias yn yr Hen Destament ac mae llys a ffynnon wedi ei osod yn y canol. Ar hyn o bryd, mae gan breswylwyr Caerdydd yr hawl i ymweld ├óÔÇÖr castell yn rhad ac am ddim neu fel arall mae tocynnau ar gael wrth y mynediad.

The Clink

Fodd bynnag, gellir dadlau maiÔÇÖr opsiwn fwyaf unigryw oÔÇÖr cwbl yw The Clink sydd wedi ei leoli yng Ngharchar Ei Mawrhydi, Knox Rd. MaeÔÇÖr holl brydau wedi eu coginio a’u gweini gan y carcharorion mewn hyfforddiant sy’n gweithio tuag at ennill eu CGCau mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod, Coginio Proffesiynol a Hylendid Bwyd. Diwygio yw brif amcan The Clink ac maeÔÇÖn gyfle iÔÇÖr carcharwyr gymryd y cam cyntaf tuag at fywyd newydd drwy ryngweithio aÔÇÖr cwsmeriaid a gweithio fel rhan o d├«m ehangach. Mae’r Bwyty Clink yn gyson iÔÇÖw ganfod ar restr y 10 bwyty gorau yng Nghaerdydd ar TripAdvisor oherwydd eu gwasanaeth a phrydau moethus. MaeÔÇÖr carcharwyr yn chwarae rhan ganolog yn y prosiect syÔÇÖn cael ei ariannu gan yr elusen The Clink ac maeÔÇÖr holl glustogwaith lledr aÔÇÖr byrddau o fewn y bwyty wedi cael eu creu gan garcharorion yng ngharchar Frankland tra bod yr holl farddoniaeth gan gyn-hyfforddeion The Clink.