Clebar

Adlewyrchu ar AddunedauÔÇÖr Flwyddyn Newydd

Gan Alexa Price

Dros y blynyddoedd, dwi wedi gosod adduned ar ├┤l adduned mewn gobaith o newid elfennau penodol fy mywyd, a dwi wastad (fel digonedd ohonom!) yn methu cadw atynt. Er fy mod i wastad yn teimlo fel bod y flwyddyn newydd yn gynfas gwag, ac yn amser i ddechrauÔÇÖn ffres, dwi wedi dod iÔÇÖr farn bod addunedau blwyddyn newydd yn wastraff amser i mi. DwiÔÇÖn si┼Ár eu bod nhw yn llesol i rai, a dwiÔÇÖn gallu gweld yr ap├¬l yn fawr! Mae gosod addunedau yn rhoi rhywbeth i bobl edrych ymlaen at yn y dyfodol, ac yn gallu eich llenwi gydag shwd cymaint o gymhelliant nes eich bod chi yn barod i neud newidiadau drastig iÔÇÖch arferion! Mae addunedauÔÇÖr flwyddyn newydd yn ein hatgoffa ni o beth rydym ni wir yn eisiau, oÔÇÖr arferion gwael y dylen ni newid, ac yn hyd yn oed yn ein hatgoffa bod newid yn gallu bod yn beth da! Ond blwyddyn yma does dim siawns y bydden i yn dewis i osod hyd yn oed un adduned.

Er y buddion sydd yn gallu dod efo addunedauÔÇÖr flwyddyn newydd, mae hiÔÇÖn mynd heb ddweud bod nhw yn gallu achosi llawer o bryder a thrallod ymhlith unigolion. Mae yna bwysau mawr amser ymaÔÇÖr flwyddyn i ddangos eich bod chi wedi newid o ganlyniad dilyn eich addunedau, yn enwedig ar broffiliau gyfryngau cymdeithasol. Dwi oÔÇÖr meddylfryd os rydych chi eisiau rhywbeth yn ddigon, pam y byddech chi yn aros tan y flwyddyn newydd? Mae yna wastad amser i newid! Does dim amser fel y presennol, dydyn ni ddim yn troiÔÇÖn ifancach! MaeÔÇÖn well gen i joio fy mywyd fel ydw i na newid er lles eraill. Yr unig berson sydd wir yn gwybod pe bai chiÔÇÖn hapus neu ddim, yw ti! Os rydych chi am osod addunedau blwyddyn newydd, cofiwch i fod yn garedig iÔÇÖch iechyd meddwl ac i joioÔÇÖr cyfnod o newid!