Hanner Myfyrwyr Cymraeg wedi Gadael y Wlad

Gan Hannah Williams (Pennaeth Taf-Od)

Yn ôl ffigurau a gasglwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae hanner y myfyrwyr Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru. Mae’r ffigyrau yn cyfeirio at y rheini fuodd yn ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Tra bod 50% wedi aros yng Nghymru i astudio, mae 49% wedi symud i Loegr, ac 1% i’r Alban. Mynegodd y sefydliad ei fod yn “destun pryder i’r Coleg bod cynifer o fyfyrwyr yn gadael Cymru i astudio mewn prifysgolion ble nad oes cyfleoedd iddyn nhw barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg”.

Mae Beca Roberts yn astudio cwrs gwisgoedd ym Mhrifysgol Guildhall yn Llundain, Meddai, “Penderfynais i symud i Lundain achos dyna ble oedd y cyrsiau gorau am y gradd o fi moen astudio”. Dywedodd ei bod wedi derbyn cyfleoedd gwaith na fyddai’n bosib iddi yng Nghymru; “Fi’n ddigon lwcus i weithio ar sioe ar y West End fel dresser sy’n rhywbeth do’n i byth yn dychmygu bydde fi’n gallu neud. Fi hefyd wedi cael gweithio ar arddangosfa sydd nawr yn y Design Museum yn Llundain”.

Dywedodd Mali Rhys, myfyrwraig y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Exeter, “O’n i’n gwybod bo fi eisiau byw tu fas i Gymru rhywbryd, ac o’n i’n gwybod tasen i’n mynd i’r brifysgol yng Nghymru mae’n debygol fydden i byth yn gadael”. Meddai, “Fi di cael lot o gyfleoedd yn y brifysgol, fel neud ‘internship’ gyda fy nghwrs, ond fi ddim yn gwybod os fi di cael unrhyw beth fydden i ddim yn gallu cael yng Nghymru”.

I fyfyrwyr eraill, roedd aros yng Nghymru yn ddewis naturiol. Meddai Ben Roberts, myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ei fod wedi dewis astudio yma gan fod “Caerdydd yn un o’r ysgolion gorau ar gyfer newyddiaduraeth”.

“Mae gwneud cwrs trwy’r Gymraeg wedi rhoi nifer o gyfleoedd i mi nad oedd yn bosib i fyfyrwyr Saesneg”. Eglurodd, “mae gwneud cwrs drwy’r Gymraeg yn golygu bod gennych ddosbarth llai, felly pan ddaeth cyfle i wneud rhywbeth fel gweithio i Cardiff City, roedd llawer llai o gystadleuaeth i gael y gwaith yma”.

Penderfynodd Lowri Jones astudio’r Gymraeg a’r Gyfraith yng Nghaerdydd, “er mwyn manteisio ar y cyfle i dderbyn addysg mwy personol, drwy gymorth seminarau bach cyfrwng Cymraeg.” Dywedodd, “Mae astudio yng Nghymru wedi cynnig cyfleoedd unigryw i mi. Cefais gyfle i deithio i’r Ariannin i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mhatagonia. Rwyf hefyd wedi gweld bywyd cymdeithasol Cymreig Caerdydd fel elfen bwysig o’m mhrofiad”.

Dywedodd Mark Drakeford, gweinidog y Gymraeg yn y Llywodraeth Lafur, “Rydyn ni eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw’r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio’r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru.”

Dywedodd Beca a Mali eu bod yn siarad Cymraeg yn y Brifysgol gyda rhai Cymry eraill maent wedi cwrdd. Pwysleisiodd y ddwy hefyd mai eu bwriad yw dychwelyd i Gymru yn y pen draw. Mae Mali yn bwriadu dychwelyd i wneud gradd feistr yng Nghaerdydd wedi iddi raddio flwyddyn nesaf. Dywedodd, “gan bo fi’n gwybod bo fi eisiau gweithio yng Nghymru byddai neud masters yn helpu fi i gael cysylltiadau yn y meysydd fi eisiau mynd mewn i”.

Dywedodd Beca ei bod yn awyddus i “fyw a gweithio yma [Llundain] am ychydig mwy o flynyddoedd” ond ei bod “bendant yn bwriadu dod nôl i Gymru ar ryw bwynt”.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *