Myfyrwyr yn Codi Arian amAmbiwlans Awyr Cymru

Gan Gwenno Davies (Golygydd Taf-Od)

Gyda’r dyddiau yn byrhau a’r tywydd yn oeri yma yng Nghaerdydd, mae myfyrwyr y Brifysgol eisoes wedi bod wrthi yn cefnogi elusennau. Dyma gip ar beth fydd timau chwaraeon y Gymgym, a Chôr Aelwyd y Waun Ddyfal yn ei wneud dros fisoedd Tachwedd a Rhagfyr er mwyn codi arian.

Timau Chwaraeon y Gymgym

Yn ystod mis Tachwedd, mae timau Chwaraeon y Gymgym wrthi’n codi arian at elusen Ambiwlans Awyr Cymru, trwy gyfuniad o gerdded a rhedeg. Maent wedi gosod her i gyrraedd cyfanswm o 1400km yn ystod y mis, sef hyd arfordir Cymru.

“Mae’n bwysig cefnogi achos mor werthfawr sy’n achub bywydau bob dydd”

Mae’r myfyrwyr yn tracio’r pellter maen nhw’n symud mewn grŵp ar ap Strava. Yn ôl Elen Evans, aelod o bwyllgor tîm pêl rwyd y Gymgym, “Mae llawer iawn wedi dangos diddordeb ac yn cymryd rhan bob dydd. Mae tua 90 o aelodau ar y grŵp erbyn hyn, sy’n grêt!”

Pwysleisiodd Elen fod yr elusen hon yn bwysig i’r Gymgym am fod yr Ambiwlans Awyr yn “helpu pawb, dim ots pwy ydyn ni neu ble rydyn ni’n byw. Does neb yn gwybod be all ddigwydd, felly mae’n bwysig cefnogi achos mor werthfawr sy’n achub bywydau bob dydd.”

Er mwyn cyfrannu, mae linc i ddolen gofundme ar instagram pêl droed y Gymgym, a phêl rwyd y Gymgym.

Côr Aelwyd y Waun Ddyfal

Bydd Côr Aelwyd y Waun Ddyfal hefyd yn codi arian, wrth gynnal raffl yn eu cyngerdd Nadolig ddechrau mis Rhagfyr. Gwnaeth aelodau’r côr bleidleisio dros roi’r elw i Ambiwlans Awyr Cymru mewn pôl ar grŵp Whatsapp.

“Mae hi yr un mor bwysig i gefnogi elusennau o Gymru ag yw e i gefnogi rhai mwy rhyngwladol”

Dywedodd Elen Williams, Cadeirydd y Côr, fod y Côr yn awyddus i gymryd unrhyw gyfle i gyfrannu at elusen oherwydd “ni’n griw mawr o bobl ifanc sy’n ddigon ffodus i allu mynd i gôr bob wythnos, a mwynhau canu.”

“Mae cefnogi elusennau, yn enwedig elusennau yng Nghymru, yn bwysig i ni fel myfyrwyr sy’n dod o bob cwr o’r wlad. Mae hi yr un mor bwysig i gefnogi elusennau o Gymru ag yw e i gefnogi rhai mwy rhyngwladol.”

“Ni byth yn gwybod pryd fyddwn ni angen yr elusennau yma yn y dyfodol.”

Beth yn union mae’r elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud?

Gyda phedair canolfan ar hyd a lled Cymru, gall criw yr Ambiwlans Awyr gynnig triniaeth feddygol fel rhoi gwaed, anesthesia, a llawdriniaethau ar safle’r digwyddiad. Mae’r elusen yn achub bywydau, gan arbed oriau i’r claf wrth dderbyn y driniaeth briodol. Mae’r elusen yn dibynnu’n llwyr ar roddion elusennol i godi’r £11.2 miliwn sydd angen arnynt bob blwyddyn i gadw eu hofrenyddion yn yr awyr.

“Rydyn ni yno i bobl Cymru, pryd bynnag a ble bynnag y bo angen.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *