Seremoni Cadeirio yr Eisteddfod Ryng-colegol

Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2026

Gan Ela Rhys

Dros benwythnos hynod gyffrous croesawyd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ôl i’r brifddinas am y tro cyntaf mewn dros ddegawd. Daeth dros 600 o fyfyrwyr o brifysgolion ledled Cymru ynghŷd i ddathlu, cymdeithasu a chystadlu mewn chwip o Eisteddfod.

Ond, dechreuodd y penwythnos ddydd Gwener yng Nghanolfan Chwaraeon Talybont ac ar gaeau chwarae Llanrymni, oedd yn gartref i’r cystadlaethau chwaraeon. Roedd cystadlu brwd rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor mewn gemau pêl droed, rygbi a phêl rhwyd llawn cynnwrf. Yn dilyn oriau o frwydro, cafwyd y canlyniad hir-ddisgwyliedig yn yr Eisteddfod fore Sadwrn mai Prifysgol Caerdydd oedd pencampwyr chwaraeon yr Eisteddfod eleni, llongyfarchiadau!

“Gweithiodd pawb yn galed iawn”

Betsan Elin yw capten tîm pêl rwyd GymGym Caerdydd ac yn gyfrifol am arwain ei thîm i fuddugoliaeth ddydd Gwener. Dywedodd:

“Dwi’n hynod falch o’r genod. Gweithiodd pawb yn galed iawn yn ystod y gemau ac wrth baratoi hefyd. Fel capten, dwi’n hapus iawn gyda perfformiad y genod drwy gydol y flwyddyn, nid yn unig yn yr Eisteddfod Ryng-gol ond ar draws y league. 

Roedd llu o adloniant i ddiddanu’r gynulleidfa gydol dydd Sadwrn gyda 24 o gystadlaethau llwyfan oedd yn amrywio o gynnwrf y perfformio, i ddawnsio hwyliog, i ganu swynol ac i lefaru angerddol gan sicrhau fod rhywbeth at ddant pob un. 

Eisteddfod Ryng-golegol

“Cafwyd chwip o benwythnos yng Nghaerdydd”

Cynwal ap Myrddin yw Is-lywydd y Gymraeg ac ef a’i undeb yma yng Nghaerdydd oedd â’r dasg uchelgeisiol o gydlynu a threfnu’r Eisteddfod. Dywedodd:

“Cafwyd chwip o benwythnos yng Nghaerdydd ddiwedd Chwefror gan groesawu’r Eisteddfod Ryng-Golegol yn ôl i Gaerdydd am y tro cyntaf ers degawd.”

“Fi oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith trefnu ond dwi’n hynod o ddiolchgar i staff yr Undeb, y Brifysgol a’r myfyrwyr am eu help ar hyd y daith ac wrth gwrs i holl noddwyr y digwyddiad.”

“Roedd hi’n wych gweld cystadlu brwd ar y llwyfan a’r chwaraeon hefo pawb yn joio ac yn dathlu.”

“Roedd y profiad yn sicr yn un arbennig”

Hefyd yn asgwrn cefn i baratoadau a threfniadau’r Eisteddfod oedd Teifi Mead, llywydd y GymGym a’i bwyllgor. Dywedodd Teifi: 

“Braint oedd cael bod yn Llywydd dros y Brifysgol yn y ‘Steddfod yn enwedig gan mai dyma oedd y ‘Steddfod cyntaf yng Nghaerdydd ers dros ddegawd. Nath dod yn drydydd hefyd wneud popeth yn well! Fel un sydd yn wreiddiol o Gaerdydd hefyd, roedd y profiad yn sicr yn un arbennig.”

“Gobeithio bod dim angen aros dros ddegawd am yr Eisteddfod nesaf yng Nghaerdydd a bod dim gormod o ddifrod yn yr undeb!”

Er gwaethaf y paratoadau ac ymdrechion myfyrwyr GymGym Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth oedd pencampwyr haeddiannol yr Eisteddfod unwaith eto eleni. Ond, er gwaethaf y canlyniad ni olyga hynny nad oedd rheswm i orfoleddu, dathlu ac ymgolli’n ein diwylliant Cymraeg ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi a ble well i wneud hynny nag yng Nghlwb Ifor Bach.

Fel yr arfer, roedd gwledd o berfformiadau gan artistiaid Cymreig dawnus ar lwyfan adnabyddus y clwb. Codwyd y to gan neb llai na Tew Tew Tennau, Buddug, Dadleoli, Dros Dro ac Yr Hunanol i goroni a chloi penwythnos penigamp. 

Nid oes dwy waith amdani bod yr Eisteddfod Ryng-golegol yng Nghaerdydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Heb os, mae’r brifddinas yn fwy na pharod i’w chroesawu yn ôl am fwy o gystadlu a dathlu yn fuan.