Gan Hannah Williams
Ar benwythnos y 6ed o Fawrth eleni, teithiodd aelodau’r GymGym (Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd) dros y môr i Ddulyn ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn Iwerddon. Bob blwyddyn, mae miloedd o gefnogwyr Cymru yn teithio i amryw o leoliadau, er mwyn cefnogi eu mamwlad yng ngemau rygbi pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ymhlith y cefnogwyr hynny, y mae aelodau’r GymGym, sy’n cynnal taith flynyddol i Ddulyn a Chaeredin am yn ail, yn ystod gemau Cymru oddi cartref.
Chwaraeodd Cymru gêm dda yn erbyn tîm Iwerddon, ond colli 27-17 oedd ei hanes yn y pendraw. Er mai gwylio’r gêm mewn tafarn leol a wnaeth y GymGym yn hytrach nag yn y stadiwm ei hun, dywedodd Teifi Mead, Llywydd y GymGym, “Odd yr awyrgylch yn class i fod yn deg. Nath y Cymry i gyd gymryd dros bar Gwesty’r Arlington a odd torf enfawr o grysau coch ar draws y dafarn, nid jyst y GymGym. Gymaint o wahanol oedrannau yna hefyd oedd yn neis i weld gyda’r Cymry i gyd yn dathlu er y gwahaniaeth mewn oed ac ardal.
“O ran yr ymateb i’r perfformiad, un eitha’ positif oedd e i ddweud y gwir, i gymharu â’r gemau eraill. Naws addawol wrth nesáu at gêm yn erbyn yr Eidal sydd yna i’w chipio.”
Disgrifiodd Teifi’r awyrgylch yn Nulyn ei hun fel “awyrgylch gwych a Chymreig iawn! Gymaint o grysau coch a’r iaith ar draws y ddinas, gyda’r Gwyddelod lleol yn groesawgar a pharchus iawn atom. Nath cwpl o ganeuon Cymraeg hyd yn oed gal eu canu mewn tafarndai gan gerddorion byw lleol!”
Mae’r daith flynyddol yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i’r GymGym. Mae’n gyfle i fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol gymdeithasu ac ymfalchïo yn eu hunaniaeth Gymreig, tra’n profi diwylliant newydd. Cafodd y myfyrwyr gyfle hefyd i grwydro strydoedd Dulyn ac ymweld â rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y ddinas yn ystod eu deuddydd yno. Ac yn wir, fe wnaeth rhai aelodau o’r GymGym ddychwelyd i Gaerdydd wedi dysgu ambell air Wyddeleg hyd yn oed!
Yn sicr roedd hi’n benwythnos i’w chofio, a dywedodd Teifi, “Mae’n daith mor bwysig rili gan taw hwn yw ‘highlight’ mawr y flwyddyn. Ma’ gymaint o waith paratoi a threfnu yn mynd i mewn i’r daith sy’ jyst yn neud i chi joio’r profiad twtsh yn fwy. Hefyd ma’r ffaith bod ni fel Cymry ifanc yn mynd i Iwerddon a’r Alban yn bwysig, gan gryfhau perthnasau diwylliannau Celtaidd Prydain.”
