Gan Mallt Ladd-Lewis (Cyfrannwr)
Wrth i fwrlwm tymor y Nadolig agosáu mae’n hawdd teimlo pwysau ariannol a phwysau i blesio. Ond, gydag ychydig o gynllunio, mae modd mwynhau paratoadau a dathliadau’r ŵyl heb ddifetha’ch cyfrif banc yn llwyr! Dyma bum ffordd syml i arbed arian cyn y Nadolig.
- Paratowch o flaen llaw
Gyda chymaint o stoc newydd yn ymddangos yn y siopau mae’n hawdd cael eich llethu, ond, cymerwch gam yn ôl a phenderfynwch i bwy sydd angen prynu a beth, yn ogystal ag uchafswm ar gyfer pob anrheg. Mae apiau megis ‘Notes app’ a ‘Microsoft To Do’ yn ffordd wych o gadw trefn ar eich rhestrau siopa gan gadw popeth mewn un man. Ffordd wych arall ydy pen a phapur! Ceisiwch ddefnyddio côd lliw i wneud y broses o baratoi yn fwy hwylus.
2. Prynwch yn gynnar
Mae’r mwyafrif o siopau bellach yn rhyddhau eu stoc Nadolig wedi Calan Gaeaf. Cymerwch fantais o hyn oherwydd yn aml iawn mae tuedd gan lawer o’r siopau i godi prisoedd tua Rhagfyr. Mae modd i chi hefyd felly osgoi torfeydd mawr o bobl sydd yn siopa funud olaf.
3. Gwnewch bethau eich hun
Os nad ydych yn hoff o siopa pam ddim ceisio gwneud anrhegion neu gardiau yng nghysur eich cartref eich hun? Gallwch ddefnyddio templedi oddi ar y we ar gyfer cardiau; gwefan ydd yn cynnig cannoedd o syniadau gwahanol ydy ‘Pinterest’. Yn hytrach na chrefft gallwch goginio hefyd. Coginiwch neu bobwch un o hoff ddanteithion aelod o deulu neu ffrind – pam lai?
4. Siopau elusen
Dyma ffordd arbennig arall a chynaliadwy i arbed arian cyn y Nadolig. Cymerwch eich amser i edrych a thwrio – synnech chi faint o bethau da mae modd dod o hyd iddynt mewn siopau elusen e.e. gemau bwrdd, ffilmiau a nofelau, dillad newydd sbon a llawer mwy. Os ydych chi eisiau prynu addurniadau Nadolig newydd, gallwch hefyd ddod o hyd i rai rhad yn y siopau hyn yn hytrach na’u prynu am bris llawn. Mae ‘na ddigonedd o siopau elusen yng Nghaerdydd felly os gewch chi’r cyfle, cyfrannwch at achos da wrth wneud eich siopa Nadolig.
5. Apiau disgownt
Yn olaf, gwnewch y mwyaf o apiau disgownt, yn enwedig os ydych chi’n fyfyrwraig neu fyfyriwr. Mae modd derbyn disgownts ar gyfer siopau a bwytai o bob math gyda’r apiau ‘Unidays’ a ‘Student Beans’. Defnyddiwch ‘Tesco Clubcard’ a ‘Lidl plus’ (yn enwedig os rydych chi’n byw yng Nghathays) i arbed arian ar eich siopa bwyd adeg y Nadolig.
Y peth pwysicaf yw i fwynhau y dathliadau sy’n arwain at y Nadolig a pheidiwch â mynd dros ben llestri!
