Gan Hanna Morgans
Gyda’r etholiad Undeb Myfyrwyr ar y gweill, mae’n bryd i fyfyrwyr bleidleisio am y pwyllgor newydd. Eleni un ymgeisydd sy’n mentro am rôl Is-lywydd y Gymraeg yw Owain Siôn, myfyriwr yn ei flwyddyn olaf yn astudio Gwleidyddiaeth.
Mae Owain yn wyneb cyfarwydd i fyfyrwyr Cymraeg ac wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau myfyrwyr Cymraeg a’r Iaith Gymraeg drwy gydol ei gyfnod yn y brifysgol. O fod ar y Pwyllgor Gweithredol, Pwyllgor Y GymGym ac UMCC. Teimlai ef taw pen y daith yw symud ymlaen at rôl Is-Lywydd y Gymraeg ac arwain UMCC i mewn i’w flwyddyn nesaf.
Mae ei faniffesto yn cynnwys tair blaenoriaeth:
- Strategaeth hir-dymor i’r Gymraeg
- Undeb Ddwyieithog, Gymreig
- Iaith fyw
Yn siarad gyda CUTV Cymraeg, dywedodd nad yw’r brifysgol yn gwneud digon i’r Gymraeg a myfyrwyr Cymraeg.
“Dwi’n meddwl dani di dod yn bell iawn. Mae hyna’n wir ers i rôl Is-lywydd y Gymraeg gael ei sefydlu, ac efo’r newidiadau sydd di dod i Senghennydd. Ond gyda’r Brifysgol, mae ‘na lot i fynd.
“Mae myfyrwyr yn cael eu gadael lawr pan mae nhw eisiau mwy o opsiynau yn y Gymraeg, mwy o addysg yn y Gymraeg. A mae na gymaint o hurdles sa ddim angen.”
“Dwi’n siarad efo myfyrwyr o’r Mynydd Bychan a ma rhaid i nhw os eu bod nhw eisiau cadw eu ysgoloriaeth, wneud un darn o waith yn Gymraeg, ond wedyn ma rhaid nhw neud e’n Saesneg fyd os ydyn nhw eisiau ei gyflwyno o flaen eu darlithwyr. Dio ddim yn neud sense, maen nhw’n gorfod neud dwbwl y gwaith, ar gyfer yr un marciau, ar gyfer yr un gefnogaeth. Er mi fyddan nhw yn bendant os ydyn nhw’n aros yng Nghymru, mi fyddan nhw’n gweithio yn Gymraeg. Mae Cymraeg yn iaith broffesiynol, ac yn iaith sy’n mynd i fynd a nhw ymlaen. Felly dwi ddim yn deall pam nad yw’r Brifysgol yn rhoi’r gefnogaeth, na’r cyfle yna i ddatblygu eich gwaith yn Gymraeg ac i ddatblygu gradd yn Gymraeg.”
Bwriad rôl Is-lywydd y Gymraeg yw cynrychioli myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, hyrwyddo’r iaith, a gwella cymuned a diwylliant o fewn yr Undeb Myfyrwyr. Sefydlwyd y rôl yn 2023, ac os yn llwyddiannus, Owain Siôn fydd y pedwerydd Is-lywydd.
