Flag of Wales

“Gwell Cymraeg slac na Saesneg slic” – Barn Arbenigwyr Iaith

Gan Gwenno Davies

Dros yr wythnosau diwethaf, mae sawl arbenigwr ar yr iaith Gymraeg wedi dadlau dros ddefnydd o “fratiaith,” gan ystyried a ddylid rhoi llai o bwyslais ar ramadeg a threiglo er mwyn annog mwy o bobl i ddefnyddio’r iaith.

Doctor Cymraeg

Un o’r arbenigwyr hyn yw Stephen Rule, athro Cymraeg yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, sy’n postio fideos hwylus ar y cyfryngau cymdeithasol dan yr enw ‘Doctor Cymraeg.’

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru, dywedodd bod angen blaenoriaethu codi’r nifer sy’n siarad Cymraeg o’r ffigwr presennol – tua 20% o’r boblogaeth – yn nes at 100%. Y ffordd orau o wneud hyn, meddai, yw newid y ffordd mae’r iaith yn cael ei dysgu, a newid agweddau tuag at safon a chywirdeb.

“Weithiau mae ‘na le i leihau’r disgwyliadau ac i lacio disgwyliadau bach, a derbyn rhywbeth fwy fel bratiaith… er mwyn rhoi ryw sylfaen i bobl gael y gallu i siarad yr iaith a’r gallu i wella yn y dyfodol.”

Peredur Glyn

Gwnaeth Peredur Glyn, un o brif lenorion Eisteddfod Genedlaethol 2025 hefyd ymdrin â’r ddadl hon wrth siarad ar rifyn o Beti a’i Phobl ar ddechrau mis Mawrth.

Mae Peredur wedi gwneud doethuriaeth ar gyfnewid cod, sef yr arfer o ddefnyddio geiriau o fwy nag un iaith mewn cymunedau dwyieithog.

Dywedodd Peredur hefyd fod angen normaleiddio’r syniad hwn o gyfnewid cod, a derbyn “bratiaith” neu “iaith anffurfiol.”

“Dyna beth ‘da ni’n defnyddio er mwyn cyfathrebu a dangos pwy ydan ni.”

“Mae unrhyw iaith sydd yn ddealladwy yn iaith iawn. Dyna ydy craidd y rhan fwyaf o farn y rhan fwyaf o ieithyddion.”

“Os ydych chi’n gallu gwneud synnwyr yna ‘da chi’n siarad iaith oce.”

Dr Jon Morris

Gwnaeth Gair Rhydd hefyd siarad â Dr Jonathan Morris, darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n arbenigo mewn sosioieithyddiaeth a dwyieithrwydd.

Dywedodd Jon fod ei waith ymchwil yn dangos fod cysylltiad clir rhwng hyder siaradwyr Cymraeg, a pha mor debygol ydynt o ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r dosbarth. Mae hyn felly’n awgrymu y gall rhagfarn ynghylch syniadau am “fratiaith” atal pobl rhag defynddio’r iaith yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

“Ers datblygiad y Gymraeg, ac fel unrhyw iaith arall, mae pobl wedi siarad mewn ffyrdd gwahanol, wedi benthyg geiriau o ieithoedd eraill, ac mae pobl yn siarad yn wahanol gan ddibynnu ar y sefyllfa, felly nid yw’r ffaith ein bod ni ddim i gyd yn siarad yn yr un ffordd yn unrhyw beth newydd.”

Dywedodd hefyd fod angen i bobl ddeall a derbyn fod nifer o wahanol ffyrdd i siarad yr iaith, ac nad oes un ffordd o’i siarad hi yn well nag unrhyw ffordd arall.

“Os yw pobl yn poeni am barhad yr iaith Gymraeg, bydd dangos cefnogaeth i bobl sy’n dysgu, derbyn pobl o gefndiroedd ieithyddol gwahanol, ac annog y defnydd o’r Gymraeg yn ffordd well na gwneud sylwadau sy’n seiliedig ar glywed sut mae rhywun yn siarad am gwpl o eiliadau.”