YSGRIFENNWYD GAN: ALED HUW RUSSELL
Yn dilyn haf hir o weithio, mynd i gigs a sesho, mae’r teimlad o fod n├┤l lawr yn y ddinas fawr i wneud union yr un peth, er ar ochr arall y wlad, yn un croesawgar. Gyda Clwb Ifor Bach yn cynnal pedwar gig Twrw dros yr un faint o wythnosau, does dim di yg cerddoriaeth i fwydo Cymry llwglyd Caerdydd. Nos Wener oedd tro Yr Oria, Y Cledrau ac Yr Eira i’n swyno. Yr Oria oedd gyntaf, band weddol newydd o Flaenau Ffestiniog yn cynnwys Gerwyn Murray, basydd un o fandiau mwyaf y s├«n, S┼Ánami. Fel rhywun sy’n anghyfarwydd gyda’u gwaith, clywais adleisiau o Yr Eira yn ogystal ├ó Calfari yn eu cerddoriaeth. Yn sicr, bydd rhaid i mi wrando arnynt ymhellach i ddatblygu barn cadarn arnynt a gobeithiaf y byddan nhw’n cynnig rhywbeth gwahanol i’r s├«n.
Y Cledrau, o’r Bala, oedd yr ail fand ymlaen. Gan ystyried pa mor fuan yn y noson oedd eu set, roedd yna dorf trawiadol wedi ymgynnull i’w gweld. Maen nhw wedi bod yn byrlymu o dan yr arwyneb am rhai blynyddoedd nawr, ac mae yna agwedd hynod adfywiol ac adloniannol am y band. Braf oedd cael clywed un o fy efrynnau, ÔÇÿAil-Ailadrodd’, yn ogystal ├ó chaneuon newydd o’u albym sydd i ddod, Peiriant Ateb. Gyda’r band yn cynnwys dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Alun ac Ifan, dwi’n edrych ymlaen yn fawr i Ifan ddod a’i glust am gerddoriaeth a’i ddawn am falu awyr i’n sioe ar Xpress Radio wyddyn yma. Ucha wynt personol (yn ogystal ├ó gweld Alun yn gwisgo trwsus PJ tartan ar y llwyfan) oedd clywed ÔÇÿCam Wrth Ddi as Gam’, un o’r caneuon gorau ar 5, albwm cydweithredol I KA CHING.
Yn cau’r noson oedd y pedwarawd o Fangor, Yr Eira. Ar ├┤l camu allan o gysgodion y s├«n i ddod yn un o’i fandiau mwyaf, mae Yr Eira wedi cael blwyddyn anferthol. Yn dilyn fy nghyfweliad gyda’r band prin wyth mis yn ├┤l yng Nghlwb Ifor Bach, maent wedi rhyddhau eu albwm cyntaf, Toddi, yn ogystal ├ó haf prysur o chwarae Gig y Pa liwn, Maes B a Llwyfan y Maes. Os dwi’n co o’n gywir – agorwyd gyda
ÔÇÿDros Y Bont’ neu ÔÇÿGadael Am Yr Haf’ (sori, dwi’n beio’r Red Stripe). Teimlais fy haf yn cael ei gladdu gan ganeuon megis ÔÇÿRings Around Your Eyes’ a ÔÇÿF niau Anweledig’ o’u halbwm newydd, trac sain fy haf i. Diddorol hefyd oedd gweld y basydd Trystan yn cyfnewid ei gitar fas hefo Ifan ar gyfer ÔÇÿGweld Y Gwir’, fy honiad i ydy mai c├ón Trystan ydy hi, ac un dda ydy hi hefyd. Gyda dim ond ychydig o anogaeth gan y dorf, ehangodd prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn eu set gyda datganiad byrfyfyr o ÔÇÿElin’, clasur o’u dyddiau cynnar sy’n sicr o yrru’r dorf yn wyllt. Caewyd y noson gyda ÔÇÿSuddo’, gan osod y bar i’r tair noson arall sydd i’w dilyn dros y mis nesaf yn Clwb.


