Tafliad n├┤l: Teledu

Wrth edrych n├┤l at ein plentyndod, un oÔÇÖr prif bethau syÔÇÖn sefyll allan yw gwylio ein hoff rhaglennu Cymraeg ar S4C yn ystod amser cinio yn yr ysgol. O Sali Mali i Sam Tan, dyma un cyfrannwr yn drafod ambell raglen fe wnaeth ef hoffi fel plentyn.

Gan Tomos Evans

Y Goeden Hud

Un oÔÇÖm hoff raglenni pan oeddwn i’n blentyn oedd y Goeden Hud, un o gonglfeini Planed Plant Bach yn fy nhyb i.┬á BuÔÇÖr gyfres yn olrhain hanes Rhacsyn aÔÇÖu griw o anifeiliaid a oedd yn byw yn y goeden hud.┬á Fel rhywun a gafodd ei fagu ar fferm, roedd gennyf gryn dipyn o ddiddordeb yn y byd natur a bywyd gwyllt felly roedd Twts y llygoden, Jac a Wil a Tylluan bob amser yn gwmni apelgar pan oeddwn yn iau.

Cymaint oedd dylanwad y rhaglen ar fy nychymyg imi benderfynu mynd ati i enwi coeden yn yr ardd ar ôl y gyfres.  Ond, yn anffodus, hyd y gwn i nid oes unrhyw anifeiliaid yn byw yn y goeden honno.

Beth oedd fwyaf cofiadwy am y gyfres hon oedd bod cerddoriaeth a chanu yn rhan greiddiol ohoni.┬á Eto, fel plentyn a oedd yn joio canu, roeddwn hefyd yn mwynhauÔÇÖr gyfres hon.

Gan fy mod yn grediniol fod y Goeden Hud yn bodoli ac yn gartref i Rhacsyn aÔÇÖr criw, wedi i Rhys Parry Jones (Rhacsyn) fynd ymlaen i chwarae rhan Dr John yn y ddrama boblogaidd, Teulu, roeddwn yn sicr wedi cael tipyn o syndod.

PentreÔÇÖ Bach

Roedd PentreÔÇÖ Bach am flynyddoedd yn fy niddanu i ynghyd ├ó miloedd o wylwyr ffyddlon Planed Plant Bach a Cyw.┬á Mewn ffordd, roedd hiÔÇÖn rhyw fath o opera sebon i blant y dilyn hynt a helynt Sali Mali a chymuned ehangach o gymeriadau megis Jac Do, Jac y Jwc, Jaci Soch, y Pry Bach Tew a Jini.

Gyda chymeriad fel Sali Mali yn brif gymeriad ar y gyfres, roedd hiÔÇÖn ddigon hawdd i weld o ble ddaeth ei phoblogrwydd.┬á Ond, roedd plant o bob cwr o GymruÔÇÖn ymddiddori yn hanesion y cymeriadau iÔÇÖr fath raddau fod y set lle cafodd PentreÔÇÖ Bach ei ffilmio wedi ei agor iÔÇÖr cyhoedd gyda chyfle iÔÇÖr teulu cyfan fwynhau paned o de a chacen yng nghaffi Sali Mali.┬á A do, fe es i yno am ddiwrnod i ymweld ├óÔÇÖr pentref fy hun.┬á Roedd hiÔÇÖn deimlad swreal iawn i gael camu i fyd a oedd fel arfer yr ochr arall iÔÇÖr sgrin deledu.

MaeÔÇÖr gyfres yn parhau i gael ei hailadrodd hyd heddiw ac maeÔÇÖr ap├¬l yr un fath ag erioed wrth i genedlaethau newydd o blant syrthio mewn cariad gyda Sali Mali aÔÇÖi ffrindiau union hanner can mlynedd ers y cr├½wyd hiÔÇÖn wreiddiol.

Uned 5

Uned 5 oedd y rhaglen yn ystod blynyddoedd olaf yn yr ysgol gynradd.┬á Roedd hiÔÇÖn ddefod wythnosol i wylio rhifyn diweddaraÔÇÖr gyfres.┬á Un oÔÇÖr pethau yr oedd y gyfres yn llwyddo iÔÇÖw wneud oedd rhoi sbin Cymreig a Chymraeg ar newyddion am dechnoleg, rhaglenni teledu, ffilmiau aÔÇÖr byd ÔÇÿshowbizÔÇÖ yn ei gyfanrwydd.

Gellid gweld tebygrwydd mawr yn y rhaglen hon oÔÇÖi chymharu ├ó Blue Peter, ac, yn wir, fe aeth un o gyflwynwyr Uned 5, Gethin Jones, ymlaen i fod yn gyflwynydd ar Blue Peter am sawl blwyddyn.

Pan gymerodd Stwnsh le Planed Plant daeth Uned 5 i ben hefyd. Ond, mae nifer o elfennau oÔÇÖr rhaglen wreiddiol yn parhau i ymddangos mewn rhaglenni eraill ar S4C, megis Stwnsh Sadwrn a, tan yn ddiweddar, Tag.

Heb os, mae Uned 5 yn un oÔÇÖr rhaglenni hynny syÔÇÖn parhau i aros yn y cof heddiw achos bod ganddo fformat ffres a chyfoes a oedd o flaen ei amser.┬á Hefyd, cafodd proffil nifer o wynebau sydd bellach yn hen gyfarwydd ei godi drwyÔÇÖr gyfres, gan gynnwys Lisa Gwilym, Mari Lovgreen, Lowri Morgan, Rhodri Owen a Rhydian Bowen Phillips.

Tecwyn y Tractor

Roedd Tecwyn y Tractor yn un oÔÇÖr rhaglenni hynny yr oeddem yn mwynhau gwylio drwyÔÇÖr amser.┬á Roedd hyd yn oed gen i rai VHS tapes oÔÇÖr gyfres yn nh┼À fy mam-gu a thad-cu iÔÇÖw gwylio ar-alw (ymhell cyn dyddiauÔÇÖr iPlayer neu Clic).

Gan fy mod yn byw ar fferm, roedd anturiaethau Tecwyn y Tractor yn rhywbeth yr oeddem yn gallu uniaethu ag e.┬á Roedd Tecwyn yn ychydig o arwr imi pan oeddwn iÔÇÖn iau gan fy mod am gyfnod eisiau bod yn Tecwyn y Tractor fel gyrfa pan oeddwn iÔÇÖn hyn.┬á O edrych yn ├┤l, dw i ddim yn si┼Ár iawn o ymarferoldeb hynny ond pan ÔÇÿych chiÔÇÖn bump oed, saiÔÇÖn si┼Ár os ydych chiÔÇÖn ystyried y pethau hyn.

Nid yn unig oedd y gyfres ei hun yn ddiddorol aÔÇÖr straeon yn rhai difyr, roeddem hefyd yn hoff iawn o ganuÔÇÖr ÔÇÿtheme tuneÔÇÖ ar ddechrau pob pennod.┬á Ac am diwn oedd honno hefyd gyda llais eiconig Bryn F├┤n yn canu am Tecwyn y tractor bach coch.┬á Canwch: *Tecwyn , b├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«p b├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«├«p, Te-ecwyn*.

Yn fy marn i, Tecwyn y Tractor yw un oÔÇÖr cyfresi Cymraeg gorau i blant a gr├½wyd erioed.┬á Mae hiÔÇÖn rhaglen addysgiadol iawn syÔÇÖn dysgu plant o bob cwr o Gymru am fywyd yng Nghefn Gwlad.