Cysur coffi: Fy hoff siopau coffi yng Nghaerdydd

Gan Llion Carbis

Mae mynd am goffi yn golygu amryw o bethau i nifer helaeth o bobl. Gall fynd am goffi fod yn gymhelliant i weithio ar asesiad hynod bwysig. Gall fynd am goffi dynodi cyfle i sgwrsio a chymdeithasu; cyfle i drafod a chraffu materion y byd dros baned hyfryd. Neu, gall e fod yn fodd o gymryd seibiant angenrheidiol; modd o anghofio ac anwybyddu pwysau bywyd am awr neu ddwy.

Beth bynnag ywÔÇÖr rheswm rydych yn dewis mynd am goffi, maeÔÇÖn hanfodol eich bod yn dewis y siop goffi gorau posib i chi. Felly, fel un syÔÇÖn enedigol o Gaerdydd ÔÇô ac un syÔÇÖn hoff iawn o goffi ÔÇô rwyf wedi rhestru rhai o fy hoff lefydd yn y Brifddinas i ymweld am baned.

Uncommon Ground Coffee – Royal Arcade

Heb os nac oni bai, fy hoff le yng Nghaerdydd am goffi. Wrth ystyried ei agosatrwydd i adeilad JOMEC, caiff ei hystyried fel man poblogaidd iawn ymysg myfyrwyr newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd. Ond, mae yna groeso i unrhyw un yna a chredwch chi fi, maeÔÇÖr coffi o ansawdd arbennig. Er ei fod ychydig yn gostus, rhaid cydnabod eich bod yn prynu coffi safonol ac yn cefnogi busnes annibynnol ÔÇô yn enwedig wrth ystyried bod mwyafrif llethol o siopau coffi yn cael eu rhedeg gan gwmn├»au amlwladol. Cwpl o frodyr a agorodd y siop ym Mawrth 2015, ac maeÔÇÖn hawdd gweld pam ei fod yn dewis poblogaidd ymysg myfyrwyr. Gydag awyrgylch ÔÇÿhipsterÔÇÖ a choffi blasus; dyma ddewis arbennig i fynd am goffi.

Hoffi Coffi ÔÇô Column Road

Rwyf o hyd yn hoff o fusnesau syÔÇÖn ymfalch├»o yn y Gymraeg ac roedd Hoffi Coffi yn lleoliad hollbwysig yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn astudio yn y Brifysgol. Fel y siop goffi sydd ar gyrion mwyafrif llethol o adeiladau’r Brifysgol, dyma ddewis poblogaidd arall ymysg myfyrwyr. Unwaith yn rhagor, ceir coffi o ansawdd da a gwasanaeth safonol a phersonol. Nid wyf yn gallu cyfriÔÇÖr nifer o weithiau rwyf wedi ymweld a Hoffi Coffi fel modd o fy nihuno yn y bore neu fel lleoliad i ymlacio ac anwybyddu pwysau bywyd. Yn ogystal, nid ywÔÇÖn bell o Cathays syÔÇÖn ddelfrydol ar gyfer mwyafrif o fyfyrwyr Caerdydd.

The Little Man Coffee Company ÔÇô Bridge Street

Dyma ddewis arbennig arall i fynd am goffi. Ond tafliad carreg o ganolfan siopa Dewi Sant 2, dyma siop finimalaidd ac annibynnol syÔÇÖn cynnig man delfrydol i weithio neu orffwyso. Mae gan y siop goffi rhyw briodwedd anghyffyrddadwy, ysbryd unigryw syÔÇÖn eich gorfodi ÔÇô bron yn naturiol ÔÇô i ymdawelu ac ymlacio. Wrth ystyried ei fod yn cystadlu a sawl bwyty syÔÇÖn rhan o gadwyni amlwladol, maeÔÇÖn hyfryd i weld busnes oÔÇÖr fath yn profiÔÇÖn man poblogaidd ymysg y boblogaeth leol. Heb anghofio, lle addas arall ydyw i weithio a chanolbwyntio ar dasgau pwysig.

Kin+Ilk ÔÇô Canolfan siopa Dewi Sant 2

Petai eich bod mas yn siopa, yn enwedig gydaÔÇÖr ÔÇÿDolig ar y gorwel, ac yn dymuno cael hoe fach o brysurdeb Dewi Sant 2; dyma ddewis delfrydol i chi. Mae gan Kin+Ilk amryw o siopau ar draws y brifddinas gan gynnwys un ym Mhontcanna ac un ar Tyndall Street, gan gynnwys (yn amlwg) Dewi Sant 2. Unwaith eto, dyma fusnes annibynnol syÔÇÖn darparu coffi safonol. Yn debyg i Little Man Coffee, arddull eithaf minimalaidd sydd gan Kin+Ilk, ond mae ganddo ymdeimlad cysurus, cyfarwydd ├ó thoreth o ddiodydd poeth da.

Gobeithiaf fod y rhestr yma wedi eich arfogi gyda dealltwriaeth well o siopau coffi annibynnol y brifddinas, ac eich bod am ystyried mentro i rai oÔÇÖr lleoliadau yma yn y dyfodol agos iawn. Yn y cyfamser, parhewch i fwynhau eich coffi ta beth ywÔÇÖr rheswm tu ├┤l iÔÇÖw brynu.