Setlo mewn I’r Brifsygol

Purple lights in a night club

Words by Catrin Edith

Mae cychwyn yn y Brifysgol yn gallu bod yn brofiad dychrynllyd iawn, ac yn codi pob mathau o deimladau. Erbyn hyn rydym hanner ffordd drwy’r semestr gyntaf ac mae llawer, mae’n debyg wedi newid yn eich bywydau, Dinas newydd, ffrindiau newydd a sawl hangover wedi bod mae’n siwr! Er y bydd rhai ohonch chi wedi setlo’n hawdd I mewn I’r bywyd yma yn y 6 wythnos diwethaf mi fydd rhai sydd yn dal I weld hi’n anodd dod I’r arfer gyda ffordd gwbl newydd o fyw. Felly dyma ychydig o dips I helpu chi I ffeindio’ch traed yma yng Nghaerdydd –

Ymuno a Chymdeithas!

Mae gan Brifysgol Caerdydd dros 200 o gymdeithasau allwch ymuno gyda nhw, mae amrywiaeth eang o gymdeithasau ar gael sydd yn cynnig rhywbeth sydd at ddant bawb. Y Gymdeithas sydd am apelio at llawer un fydd yn darllen hwn bydd y GymGym, os ÔÇÿdachi ddim yn gyfarwydd gyda’r GymGym erbyn hyn (lle ÔÇÿdachi ÔÇÿdi bod?!), Y GymGym ydi cymdeithas Gymraeg Prifysgol Caerdydd, un o’r cymdeithasau mwyaf sydd gan y Brifysgol, a mae’n debyg un. o’r cymdeithasau mwyaf gwallgo’ sydd, ond mae’r GymGym yn cynnig cymuned agos a chroesawgar iawn, felly os ÔÇÿdachi heb wneud yn barod, ymunwch gyda’r gymdeithas!

Edrychwch ar ├┤l eich arian!

Mae’n hawdd iawn i ddod I’r Brifysgol, gweld y lwmp mawr o arian y benthyciad yn cyrraedd eich cyfrif a eisiau ei wario fo i gyd, ond mae’r arian yna angen eich cynnal hyd at mis Ionawr! Felly ceisiwch wneud yn siwr eich bod yn bod yn ofalus hefo’r hyn rydych yn ei wario (haws dweud na gwneud, dwi’n gwybod!)

Gwthiwch eich hunain allan o’r ÔÇÿcomfort zone’ a cymerch bob cyfle!

Gwnewch rhywbeth newydd, ymunwch gyda t├«m chwaraeon, ewch i ddigwyddiad byddwch byth yn mynd i fel arfer, hwn yw’r amser yn eich bywydau lle gewchi byth gyfleoedd yr un fath eto! Gwnewch y mwyaf o’r hyn sydd ar gael yng Nghaerdydd, mae cymaint yma, dwy stadiwm chwaraeon, theatrau, cwmn├»oedd teledu, a llawer iawn mwy, mae gymaint o gyfleoedd ar gael yng Nghaerdydd, ewch i weld beth sydd allan yno!

Cofiwch eich bod chi ddim ar eich pen eich hun!

Mae cymaint o bobl yma i chi yn y Brifysgol, boed yn gyd-fyfyriwr, yn diwtor personol neu’n ddarlithydd, neu un o swyddogion Undeb y Myfyrwyr, mae rhywun yno i wrando arnoch chi. Mae’n hynod bwysig eich bod yn gofyn am gymorth os mae pethau ychydig yn ormod i chi, mae symud I’r Brifysgol yn step anferth yn eich bywydau, ac mae’n iawn i deimlo fel eich bod yn methu adref, yn gweld hi’n anodd i fyw ar eich pen eich hunain neu’n teimlo ychydig ar goll.

Scroll to Top