Profiad myfyrwraig ym Mhatagonia bell

Llun o Leus a’i ffrind Swyn, y ddwy wedi ymweld â Phatagonia gyda’u gilydd.

Cafodd Leus Tudor, myfyrwraig Cymraeg, gyfle unwaith mewn oes i ymweld â’r Wladfa. Roedd hi ymhlith deg o fyfyrwyr a dderbyniodd ysgoloriaeth i dreulio mis o brofiad gwaith yno dros yr haf. Dyma’i stori…

Tra’r oedd Cymru yn profi’r haf poethaf eto, yng nghanol gaeaf Yr Ariannin oeddwn i. Cychwynnais i a Swyn ar y fintai gyntaf i dreulio pedwar wythnos ym Mhatagonia. Cawsom dreulio pythefnos yn y Dyffryn, ble setlodd y Cymry cyntaf wedi iddynt lanio ar greigiau Porth Madryn 160 mlynedd yn ôl. Yna, dilynom eu hôl troed eto, dros y paith i Drefelin, yr Andes, ble symudodd nifer o Gymry 20 mlynedd yn ddiweddarach. Mi wnes i’n sicr ddotio ar Batagonia, ei harddwch a’i hanes, ond yn bennaf oll, cynhesrwydd a chroeso pobl Patagonia, oedd mor barod eu cymwynas ac mor falch o’u gwreiddiau.

Mewn cyffro a nerfusrwydd a gyda chesys llawn, gadawsom hirddyddiau mis Gorffennaf a hedfan draw am Fuenos Aires. Yn lliwiau llachar La Boca, cyfarfûm â Lois o Gaernarfon oedd yn athrawes yn Ysgol Gymraeg y Gaiman ac yn treulio ei gwyliau gaeaf yn y brifddinas. Er ein nerfusrwydd ni, mewn dinas mor fawr, mor bell o Gymru fach, roedd hi’n hudolus cael darganfod Buenos Aires. Wrth sgwrsio a chwerthin, gwelwyd blagur cyfeillgarwch tair Cymraes ym mhrif ddinas yr Ariannin. Bron i 9,000 milltir o Gymru, roedd cysur yn ein Cymreictod.

Dridiau’n ddiweddarach, glaniom yn y Dyffryn, ble’r oedd Ariela a baner Cymru fawr yn ein croesawu. Cawsom hwyl yn gweld morfilod Porth Madryn, gwledda yn y Tai Te ac ym mwyty Gwalia Lân. Ar Orffennaf yr 28ain cawsom ddathlu Gŵyl y Glaniad gyda gwledd o gacennau a brechdanau yng Nghapel Bethel. Roedd yn ddathliad a gwerthfawrogiad o ddewder y Cymry cyntaf sefydlodd y Wladfa 160 o flynyddoedd yn ôl. Heb os, roedd hi’n amlwg bod eu hetifeddiaeth yn ddiogel, yn y capeli ac yng nghanu swynol plantos yr ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg.

Dal y bws dros nos wedyn, draw am Drefelin, yno roedd croeso’r un mor gynnes yng nghysgod mynyddoedd gwynion yr Andes. Yng ngwely a brecwast Nia, Gwion a Celyn, cawsom bythefnos fythgofiadwy arall. Yno, bûm yn ymweld ag Ysgol y Cwm, ble gwelsom y Gymraeg yn cael ei dysgu ag angerdd a phenderfyniad. Cawsom brofi un o nifer o Eisteddfodau arbennig Patagonia. Heb os, un o’r profiadau mwyaf swreal oedd cael gweld traddodiad mor Gymreig yn cael ei ddathlu yn Ne America. Roedd y Gymraeg a’r Sbaeneg wedi eu plethu yn seremonïau cadeirio, dawns y blodau a chaniad y corn gwlad. Roedd symbolaeth a thraddodiad yr Eisteddfod yn annwyl iawn. Cawsom brofiad o ddawnsio gwerin, cymryd rhan mewn dosbarthiadau Cymraeg i oedolion a chlywed hanes eu taith nhw at yr iaith hefyd. Yn ein hamser hamdden cawsom brofi golygfeydd syfrdanol yr Andes ac ymweld ag ardaloedd brodorol y Tehuelche a Mapuche.

Roedd ymweld â Phatagonia yn brofiad bythgofiadwy ac rwy’n ei drysori yn fawr. Rwy’n sicr o ddychwelyd yno un dydd, os byddaf ddigon lwcus. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael y cyfle i’w gymryd, a phrofi hyd Y Wladfa.

Geiriau gan: Leus Tudor

Scroll to Top