A welsoch chi’r lliwiau llachar yn goleuo’r awyr ar Nos Fercher y 5ed o Dachwedd? Na, nid sêr oedd y rhain, ond tân gwyllt yn ffrwydro yn y nen ar draws y wlad. Traddodiad blynyddol ydy hyn i ddathlu etifeddiaeth Guto Ffowc, yr unigolyn dewr a cheisiodd ddinistrio Senedd Lloegr 420 mlynedd nol i eleni ym 1605. Bob blwyddyn ers hynny, cynnwyd coelcerth a thân gwyllt er mwyn cofio am ei Blot Powdwr Gwn. Pam geisiodd Guto Ffowc ddinistrio’r senedd? Ers i Frenin Iago’r 1af dechrau teyrnasu, roedd Catholigion Prydain yn disgwyl iddo ddangos mwy o oddefgarwch crefyddol tuag atynt, er hyn, parhaodd y Brenin i gyflwyno deddfau gwrth-gatholig, gan wylltio Catholigion y wlad. Bwriad y cynllun powdwr gwn oedd dinistrio’r senedd a llofruddio’r Brenin a’i lywodraeth, yna byddai’r Catholigion yn cymryd dros y wlad i gyflwyno deddfau tecach i Gatholigion. Er i’r holl ffrwydron cael ei roi yn y senedd, methodd y syniad, wrth i lythyr dienw cyrraedd y llywodraeth cyn y ffrwydrad. Ar y 31ain o Ionawr 1606, cafodd Guto Ffowc ei ddienyddo gan y llywodraeth am ei ran yn y Plot Powdwr Gwn. Serch hynny, mae ei etifeddiaeth yn parhau heddiw drwy Noson Tân Gwyllt; noson sy’n coffáu’r digwyddiad hanesyddol hwn. Eleni, mae nifer o ardaloedd wedi dewis defnyddio’r achlysur i fynegi eu barn am bolisïau’r llywodraeth, gan gynnwys rhai sydd wedi llosgi delwedd o Keir Starmer mewn ymateb i’r deddfau sy’n effeithio ar ffermwyr. Er mae Guto Ffowc sy’n cael ei gofio, nid ef oedd yr unig un yn rhan o’r cynllun. Robert Catesby oedd arweinydd y plot ac ymunodd nifer o’i ffrindiau i gefnogi’r ffrwydrad – Thomas Percy, John a Chrisopher Wright, Robert Keyes a llawer mwy. Roedd gan bob un o rain rhan bwysig yn y plot, boed yn smyglo’r ffrwydron mewn i’r wlad, gwneud yn siŵr fod popeth yn gyfrinachol, neu helpu plannu’r ffrwydron. Beth yw cysylltiad hyn gyda Chymru? Huw Owen ydy’r cysylltiad wrth gwrs, neu ‘the welsh spy’. Ffliodd Huw Owen i Fflandrys yn y blynyddoedd cynnar yn nheyrnasiad y Protestaniaid, ac adeiladodd nifer o gysylltiadau gyda Chatholigion ar draws Ewrop. Mae’n glir ei fod yn gynlluniwr da gan iddo helpu Sbaen yn erbyn Lloegr yn yr Armada Sbaeneg. Roedd ei ran yn y cynllun yn arwyddocaol gan mae ef oedd y cysylltiad i Guto Ffowc, yr arbenigwr ffrwydron Sbaenaidd! Heb Huw Owen, ni fyddai Guto Ffowc wedi cael unrhyw rhan yn y plot ac felly mae yna gysylltiad cryf gyda Chymru i’r traddodiad yma. Rydym yn dathlu etifeddiaeth Guto Ffowc drwy dân gwyllt i goffau’r cynllun a fethodd 420 o flynyddoedd yn ôl. A wnaethoch chi dathlu noson tân gwyllt eleni? Wel, dyma pam ein bod ni’n ei ddathlu, fel atgof cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol ac fel rhan o draddodiad sydd wedi esblygu dros ganrifoedd.
Geiriau gan: Rhodri Jenkins
Llun o thân gwyllt yn Cathays, Caerdydd
