Ac maen nhw nôl! Eleni, daeth Cabarela yn ôl ar daith gyda bang a llenwi’n hosan Nadolig unwaith eto! Erbyn hyn, mae gweld y criw yma wedi troi’n draddodiad Nadoligaidd go iawn, yn staple yn y calendr Nadoligaidd ac yn barti Dolig llawn sîcwins a sbort sy’n uno cynulleidfaoedd ledled Cymru. O’r stiwdants i’r staff dŵ’s, mae llu bob blwyddyn yn awchu i brofi hynt a helynt criw Cabarela!
Bob ‘Dolig ers cwpwl o flynyddoedd, maen nhw wedi dod â thiwns, tinsel a llwyth o ddrygioni i lwyfannau ledled y wlad. Fel Cabarelwr ffyddlon dros y dair blynedd diwethaf, eleni ‘o’n i wir yn ystyried beth arall allai’r grŵp wneud? Pa ffin oedd heb ei chroesi eto? Doedd dim angen poeni wrth gwrs, gawson ni fersiwn unigryw o un o glasuron y panto, Cinderella. Ond yn amlwg, nid stori draddodiadol mohoni! Cinderella Cabarela llawn hiwmor direidus a throadau annisgwyl oedd hon, ac fel maen nhw’n dweud eu hunain: yn hollol anaddas i blant a phobl cul! Tair chwaer Sorela oedd yn arwain y gynulleidfa drwy’r noson gyda’u harmonïau â’u hudlathau yn ein swyno a’n cyfareddu. Yna, i ddilyn, class act y ddwy “chwaer” Miriam ac Elain gyda’u perfformiad chwareus o glasur Wicked, ac i goroni’r cyfan Sinderela â’i sass yn chwilio am yr esgid goll!
Fel bob tro, roedd y gerddoriaeth yn ffantastig, o’r fersiwn amgen o ‘Ble mae’r babi?’, (siŵr ‘se Martin Geraint yn browd o’r fersiwn hon) i ‘Tonight’ o West Side Story ac wrth gwrs y bangars Nadoligaidd. Roedd bob cân yn rhoi cyffyrddiad Cabarelaidd ar diwns cyfarwydd gyda’u geiriau hileriys a’u harmonïau tynn! Heb anghofio’r lleisiau anhygoel oedd gan bob un o’r criw yn creu noson o adloniant pur (wel, dim cweit yn hollol bur…). Er bod cynulleidfa nos Lun braidd yn swil, llwyddodd Pitts a’i ganeuon bachog dwymo pawb i ysbryd y panto. A’r gwisgoedd! Ie plîs! Roedd y gwisgoedd yn llawn lliw, yn ffriliog, yn ffantastig, a hollol flamboyant! Iestyn fel sbrowt, ‘sdim angen dweud mwy. Meilirela a’i grocs, Pitts a’i balls…bythgofiadwy!
Mae Cabarela yn giamstars ar greu perthynas gyda’u cynulleidfa, cynnwys pawb yn y sbri, a chael pawb i chwerthin (p’un ai bo’ nhw eisiau neu beidio!) Mae gallu’r criw i chwerthin ar eu hunain ac arnom ni fel Cymry yn cadw’r sioe yn ffres bob blwyddyn. Dyma’r panto sy’n torri pob ffin ‘da dim ffilters o gwbl, herio ystrydebau, ac ambell sbrincl o ddweud eu dweud am bynciau gwleidyddol – grêt! Gyda bron bob noson wedi gwerthu allan, mae’n amlwg dyw ‘Dolig ddim yn ‘Ddolig mwyach heb noson yng nghwmni Cabarela. Yn dilyn rhyddhau eu sengl llynedd, ‘Dolig Drygionus, mae’r drygioni Nadoligaidd wedi parhau eleni gyda’r gân newydd sbon llawn hiwmor, Alli Di Ei Deimlo?, ychwanegiad perffaith i repertoire y panto eleni. Yr eiliad ddaeth y sengl newydd allan, ‘odd hi’n amlwg bo’ fwy o ddrygioni ar y ffordd! Ni’n dda, ni’n ddrwg, ni jyst bach yn sili ma’ nhw’n dweud a Haleliwia i hynny! O’r secsi i’r satiraidd, o’r sych i’r sili, odd rhywbeth i bawb i diclo bob picl. I’r rhai oedd yn Cabarela fyrjins, os mai eleni oedd y flwyddyn i chi weld ‘be sy’n bod ‘fo cael Nadolig Direidus’, fi’n siŵr gawsoch chi noson i’w chofio! Noswaith wyllt, tipsi a llond bol o chwerthin – Cabarela, taith arall blwyddyn nesa plîs!!
Words and image by: Elen Morlais

