Bob blwyddyn, mae Ionawr yn cyrraedd gyda’r un cwestiwn cyfarwydd: “beth wyt ti’n rhoi’r gorau iddi’r tro hwn?”
A phob blwyddyn, rwy’n addo i mi fy hun y bydda i’n meddwl o ddifri am benderfyniad Blwyddyn Newydd, cyn penderfynu, yn dawel bach, peidio â gwneud o gwbl.
Gallwn i ddweud fy mod i’n mynd heb alcohol ym mis Ionawr, ond yn ffodus i mi, dydy hynny ddim yn her enfawr pan nad ydw i yn ôl yn y brifysgol hyd ddiwedd y mis.
Gallwn i hefyd addo gwario llai. Ond yn y byd rydyn ni’n byw ynddo heddiw, lle mae prisiau’n codi’n barhaus, mae ‘gwario llai’ yn teimlo fel nod uchelgeisiol i lawer ohonom.
Efallai mai’r nod eleni yw peidio â rhoi’r gorau i bethau o gwbl, ond rhoi’r gorau i’r disgwyliadau. Y disgwyliad bod rhaid i Ionawr fod yn fis o ddisgyblaeth lwyr, trefn newydd sbon, hunanreolaeth berffaith o’r diwrnod cyntaf. Yn lle hynny, rwy’n ceisio canolbwyntio ar bethau bach sy’n gwneud i’r mis deimlo’n llai trwm, symud fy nghorff ychydig yn fwy, bod yn fwy caredig tuag at fi fy hun a chreu amser bwriadol i stopio a gorffwys.
Dydy’r rhain ddim yn nodau dramatig. Nid yw nhw chwaith yn addo fy newid yn berson newydd erbyn mis Chwefror. Maen nhw’n syml yn geisiadau bach i wneud Ionawr ychydig yn fwy ysgafn ac yn fwy cynaliadwy.
A fydda i’n cadw at hyn am y mis cyfan? Efallai.
A fydda i’n colli wythnos? Yn fwy na thebyg.
Ond am unwaith, dydw i ddim yn gweld hynny fel methiant.
Nid yw ailgychwyn yn gweithio i bawb
Yn fideo diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol, soniodd Non Williams am sut mae rhywbeth mor syml â syllu allan drwy’r ffenest yn siapio cymhelliant ym mis Ionawr. Os yw’r tywydd yn llwm ac yn dywyll, mae hi’n dewis gorffwys, lapio’i hun mewn blanced, bod yn glyd, a bod yn garedig tuag ati’i hun ar ôl cyfnod prysur y Nadolig. Ond pan fo’r awyr yn edrych ychydig yn fwy croesawgar, mae hynny’n wahoddiad i fynd allan, cael awyr iach, a symud.
Iddi hi, dydy’r syniad bod rhaid “gwthio dy hun” na dechrau popeth o’r newydd ar y cyntaf o fis Ionawr ddim yn addas i bawb, ac mae hynny’n gwbl iawn. Mae’n syniad o ail-frandio Ionawr, o ganiatáu i’r mis fod yn fwy hyblyg a heddychlon, yn rhywbeth sy’n atseinio’n gryf gyda fi. Mae’n feddylfryd bydda i’n bendant yn ei gario gyda fi drwy weddill y mis, a thu hwnt.
Os na fydd Ionawr yn mynd yn union fel y bwriadwyd, mae Chwefror yno o hyd. Ac os na, y mis ar ôl hynny. Nid ailgychwyn dramatig yw’r nod, ond camau bach, dro ar ôl tro.
Felly eleni, dydw i ddim yn rhoi’r gorau i ddim byd.
Rwy’n syml yn rhoi caniatâd i mi fy hun newid pethau’n araf bach, ar fy mhenderfyniad fy hun, heb deimlo’n euog am beidio â chadw at reolau nad oeddwn i erioed wedi’u gosod i ddechrau.
Geiriau gan: Erin Davies
Llun gan: Lili Ray

