A-Y o slang Cymraeg

Gan Jacob Morris

Fel y dywed Dafydd Iwan un tro ÔÇÿMae’r wlad hon yn eiddo iti a mi’ o’r De i’r Gogledd ac o F├┤n i Fynwy mae Cymru’n frith o dafodieithoedd gwahanol. Ond ers dod i’r brifysgol mae’n si┼Ár bod yr amrywiaeth yng ngeirfa eich cyd-fyfyrwyr wedi peri penbleth i chi ar fwy nag un achlysur. Weithiau, pan fydd dwy dafodiaith yn cwrdd, gall sgwrs troi’n aneglur lle nad yw’r naill un na’r llall ohonoch yn deall eich gilydd yn iawn. O ganlyniad, byddwch yn chwerthin yn ysgafn er mwyn osgoi’r lletchwithdod rhyngoch. Felly, dyma gyngor i chi ar sut i ymgodymu a rhai o eiriau tafodieithol y byddwch yn si┼Ár o glywed tra yn fyfyriwr yn y brifysgol.

A ÔÇô┬á ÔÇÿAsiffeta!’ (Gogledd-orllewin):Defnyddir y gair hwn gan un o gymeriadau enwocaf o’r gyfres C’mon Midffild, Mr Picton. Yn gymeriad sy’n fyr iawn ei amynedd, yn aml fe glywn floedd o ÔÇÿAsiffeta!’ pan fydd rhywbeth o’i le ac wedi ei wylltio i’r byw. Gair i gall, peidiwch fentro ├ó dweud wrth Gog fod nad ydych yn gweld C’mon Midffild yn ddoniolÔǪma nhw bron yn addoli’r peth!

B- Bigitan (De-orllewin): Pan fydd awydd gennych i boenydio neu brofocio eich ffrind, brawd neu chwaer gan fod dim byd gwell i wneud, gan geisio eich gorau glas i fynd ar ei nerfau.

C ÔÇô Co*t (Caernarfon) :Na, nid rheg mo’r gair hwn. Yn hytrach, yn fodd gwresog o gyfarch cyfaill yn iaith y Cofi ac mae’n si┼Ár dyma’r unig le yn y byd lle mae’r gair hwn yn briodol yn y fath cyd-destun.

CH ÔÇô Chwil (Gogledd):Wedi i chi fwrw’r dre i brofi noson drom ar y ddiod feddwol, mi fyddwch chi yn ÔÇÿchwil’.

D ÔÇô┬áÔÇÿDwe’ (Sir Benfro):I bawb arall yng Nghymru defnyddiwn y gair ÔÇÿddoe’. Weithiau mae’n hawdd meddwl fod gan bobl Sir Benfro iaith ei hun a’r ffordd orau o gofio acen pobl y sir yw drwy’r dywediad ÔÇÿwedd hi’n wer yn y cwed dwe’ sy’n golygu mewn Cymraeg Safonnol ÔÇÿRoedd hi’n oer yn y coed ddoe’, sy’n cyfleu acen dra unigryw’r ardal hon.┬áDD ÔÇô Ddaru (Gogledd-ddwyrain):ÔÇÿFe wnaeth ef/hi/nhw’. Dyma dafodiaith ardal Conwy yn bennaf, ond weithiau fydd rhai yn gollwng yr ÔÇÿDd’, felly mae ÔÇÿAru’ cystal cyffredin.

E ÔÇô ÔÇÿEscob Dafydd’ (De):Gair i ddefnyddio pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, ac rydych wedi gwylltio a drysu.

F ÔÇô ÔÇÿyn Feddw gocls’ (De):Wedi meddwi’n dwll fel nifer o fyfyrwyr ar gr├┤ls y GymGym dros y flwyddyn. Dyma stad feddwol o fath gwahanol le na fydd person yn cofio fawr ddim o’r noson gynt ac mae’r cur pen a ddaw wedi’r noson drom yn ddigon i droi dyn yn t-total am weddill ei oes.

FF ÔÇô ÔÇÿFfili’ (De-Orllewin):Gair arall am ÔÇÿMethu’ yw hwn. Er enghraifft ÔÇÿDwi ffili aros i fynd i Clwb nos Sadwrn.’

G ÔÇô┬áÔÇÿGlei’ (De-orllewin):Gair sy’n dueddol o gael i’w leisio yng Ngorllewin Cymru, defnyddir yn aml gan y cantor ÔÇÿThe Welsh Whisperer’ fydd pob perfformiad ar lwyfan yn cynnwys bloedd o ÔÇÿOdw glei’.

NG ÔÇô ÔÇÿNgwash i’ (Gogledd):Dyma ddywediad fydd person h┼Àn yn defnyddio fel gair o gysur i berson yn iau na hwy ei hun, ac mae’n ddywediad a ystyrir yn annwyl iawn.

H ÔÇô ÔÇÿHambon’ (De-Orllewin)‘: Rhywun sy’n hanu o berfeddion cefn gwlad y Gorllewin ac sy’n amaethwr wrth reddf. Mae ei wrth ei fodd yn ei gynefin gyda chaeau gwastad, arogl tail yn ei ffroenau ac yn aelod gweithgar o gangen yr YFC lleol. Tra bydd dynoliaeth, fe fydd amaethuÔǪac hambons.

I ÔÇô ÔÇÿIesgyrn Dafydd’ (De-orllewin):Dyma air caiff i’w leisio fel rheg sy’n arwydd fod rhywbeth wedi gwylltio dyn yn llwyr. Defnyddir y gair hwn er mwyn osgoi defnyddio enw’r Arglwydd mewn ofer.

J ÔÇô ÔÇÿJosgyn'(Gogledd):Os mai hambon sydd yn y De-orllewin, josgyn yw’r brid Gogleddol. Mae’n amaethwr i’r carn ac yn hoff beintÔǪneu ddau wedi diwrnod o weithio’r tir.

L ÔÇô ÔÇÿLapan’ (De):Yn debyg iawn i glebran, dyma’r weithred o siarad yn ddi-ddiwedd o fore gwyn tan hwyr. Fydd person sy’n lapan yn dueddol o fod yn uchel ei gloch ac yn hoff glywed llais ei hun.

LL ÔÇô ÔÇÿLlyffanta’ (Ynys M├┤n):Cerdded o gwmpas heb wisgo’n ddigonol mewn oerni. Debyg ei fod yn arfer sydd wedi peidio ├ó bod y dyddiau hyn, er ar un adeg pan fyddai plant yn chwarae mewn llofft heb wres ynddi yn hytrach na swatio dan y dillad yn eu gwelyau, byddent yn cael gorchymyn i “beidio ├ó llyffanta”.

M ÔÇô┬á ÔÇÿMynaffarni’ (De):Gair arall o’r de sy’n arwydd o berson sydd wedi syrffedi’n llwyr.

N ÔÇô ÔÇÿNain’ (Gogledd):Bydd pobl yn y De yn dueddol o’i galw nhw’n ÔÇÿMamgu’. Maen nhw’n gogyddion o fri ac o bosib dyma bobl orau’r byd.

O ÔÇô ÔÇÿOgla'(Gogledd):Mewn Cymraeg Safonol dywedir ÔÇÿarogli’ ac yn y De, dywedir gwynto.

P ÔÇô ÔÇÿPwdredd’ (De):Person diog sy’n dda i ddim.

PH ÔÇô ÔÇÿa phecyn bwyd’:Nid yw’r gair ÔÇÿpecyn’ o reidrwydd yn air sy’n perthyn i un rhan o Gymru yn benodol, ond dyma frawddeg mae nifer o athrawon a phlant ar draws Cymru yn hoff o ynganu cyn mynd ar drip ysgol ‘Cofiwch got law a phecyn bwyd’.

R ÔÇô ÔÇÿRysgol (Gogledd):Golyga hyn ÔÇÿYr Ysgol’. Os ydych erioed wedi darllen un o nofelau clasuron y Gymraeg ÔÇÿUn nos Ola Leuad’ gan Caradog Pritchard, mi fyddai’r gair hwn yn gyfarwydd i chi.

Rh ÔÇô Rhewl (De-Orllewin):Heol, ffordd neu l├┤n ac mae yna lwyth ohonynt yng Nghaerdydd.

S ÔÇô Sopan (Gogledd):Gair am ferch gas iawn, ast.

T ÔÇô Tycli (De):Gair yn berthnasol i Gwmtawe sy’n golygu ÔÇÿi wisgo’.

TH ÔÇô┬á

U ÔÇô Uffach (Canolbarth):Pan fydd rhywbeth yn ofnadwy.

W ÔÇô┬á ÔÇÿWes’ (De-orllewin):I bawb arall golyga’r gair hwn ÔÇÿoes’. Dyma air sy’n rhan annatod o eirfa’r Gorllewin Gwyllt.

Y ÔÇô ÔÇÿYffach gols’ (De-orllewin):Ceir ymdeimlad fod gan y Cymry amryw o eiriau ar gyfer rhegi ac fe ddefnyddir ÔÇÿEscob Dafydd’ yn yr un modd.

 

Scroll to Top