Clebar

Taith o amgylch y De

Gan Rhodri Davies

Ni’n lwcus bois! Ni’n byw mewn uffern o ddinas sydd a hen ddigon i’w wneud. Anodd iawn yw diflasu a’r brifddinas arbennig yma. Er dyw hynny ddim yn golygu bod rhaid inni aros ‘ma 24/7. Os oes lot i wneud yng nghanol y ddinas, mae ‘na hyd yn oed mwy i’w wneud tu hwnt i’r ffiniau hynny. Dewch i fi gael rhannu rhai syniadau gyda chi am bethau i wneud ar eich penwythnosau rhydd.

Nawr peidiwch â phoeni, dyw cael car ddim yn angenrheidiol i fynd i ymweld â’r llefydd yma. Mae trafnidiaeth gyhoeddus eithaf da i gael, er bod ganddo weithiau enw gwael ganddo. Dyw prysiau tocynnau ddim yn ffôl chwaith.

Hollywood De Cymru? – Ynys Barry

OH, WHAT’S OCCURING! Mecca fans un o gomedïau mwyaf llwyddiannus Prydain erioed, Gavin and Stacey. Dyma le cafwyd llawer helaeth o’r golygfeydd eiconig eu ffilmio gyda’r Ynys (sydd actually ddim yn ‘ynys’ o gwbl) wedi datblygu i fod yn un o’r lleoliadau mwyaf enwog ym Mhrydain erbyn hyn. Yn aml, mae bws Dave’s Coaches wedi ei barcio ar lan y môr i’r dilynwyr teilwng cael mynnu selfie o’i flaen. Gallwch hefyd wario’ch benthyciad myfyriwr ar y slots yn yr union arcêd yr oedd yr anfarwol Nessa Shannessa Jenkins yn gweithio. Rhyw hanner awr o’r “ynys” i mewn i dref Y Barri ei hun, gallwch fentro lan un o strydoedd mwyaf serth Cymru (heb ei brofi’n wyddonol) sef Trinity Street. Yn rhif 47 cafodd yr omelettes amhrisiadwy eu coginio yn nhŷ neb llai na Stacey a Gwen eu hun.

Ar y ffordd nol ar y trên, er mwyn gwneud y diwrnod o “Gavin and Stacey Sightseeing” yn iawn, gallwch alw heibio yn Ninas Powys sydd ar lwybr y trên er mwyn ymweld â thŷ Pam a Mick.

I’r lleiafrif bach bach ohonoch chi sydd yn casáu’r rhaglen, neu hyd yn oed yn waeth, heb weld y rhaglen, mae yna ffair i gael yno i’ch diddanu. Mae ‘na Wetherspoons yno hefyd. Pawb yn hapus.

Bae llawn chwaraeon

I’r rhai sydd heb wastraffu eu bywyd prin o flaen y teledu, mae ‘na ddigon o gyfleodd chwaraeon ar gael. Ym Mae Caerdydd (sydd ddim cweit yng nghanol Caerdydd felly ma’ fe’n gal bod yn y rhestr), mae yna lu o weithgareddau gan gynnwys y Ganolfan Dwr Gwyn. Mae Dŵr Gwyn Rhyngwladol Cymru yn lle allwch feithrin eich sgiliau canŵ ar y dŵr cythrybled. Gallwch hefyd ddysgu sut mae syrffio a hefyd “hot-doggio”,(fi ddim cweit yn siŵr beth fa’ hwnna’n meddwl chwaith a fi ofn ‘Googleo’ fe!). Drws nesaf i’r ganolfan yma mae ‘na chanolfan arall sef “Canolfan Ia Cymru.” Darganfyddwch y Torvill and Dean sydd y tu fewn i chi a rhowch gynnig ar sglefrio ia mewn arena sy’n gartref i “Red Devils”.

Traethau’r Gwŷr

Anghofies i sôn wrth drafod y Barri am y traeth hollol syfrdanol sydd ganddynt yno. Mae De Cymru yn gartref i niferoedd o draethau deniadol. Cymrwch hyn wrtha i, ddim byd gwell i ladd “hangover” na phrynhawn braf yn gorwedd ar y traeth yn clywed y tonnau’n torri a’r haul yn tywynnu. Mae 3 o’r rhai gorau yng Nghymru dafliad carreg o Gaerdydd ar arfordir y Gwŷr.

1.Bae Rhosili – Tywod melyn man sydd yma. Yn ôl sawl sefydliad, dyma draeth gorau Prydain

2. Porth Einion – Hawlia’r traeth yma’r casgliad mwyaf o siopau gan gynnwys siopau gwisgoedd syrffio.

3.Bae Langland – Gallwch gerdded dros y clogwyni o’r traeth yma i ymweld â Bae Caswell.

Hen dai hynafol

Mae yna ddigon o ddewis i’r haneswyr yn ein plith. Yn amlwg, mae gan Gymru nifer helaeth o gestyll ac abatai. Ychydig i’r gogledd o Gaerdydd yn Nhongwynlais, mae Castell Coch sy’n gastell a gafodd ei godi yn 19eg ganrif. Castell eithaf modern i gymharu â llawer ohonyn nhw. Mae’r bensaernïaeth werth ei weld. Hefyd, rhyw 20 milltir lawr y ffordd fe welwn ni Abaty Tyndyrn sef un o’r golygfeydd gorau yng Nghymru pan oleuir hi fyny.

Os nad ydych chi am deithio yn bell rhwng pob adeilad hanesyddol, ewch am dro i Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan. Hefyd ma’ nhw wedi symud nifer o hen adeiladau arwyddocaol yng Nghymru i un man sydd ar gyrion Caerdydd. Yn ogystal â hyn mae ‘na stryd wedi ei ail-greu i edrych fel un o ddechrau’r ganrif ddiwethaf ac yn goron ar y cyfan, mae’r amgueddfa am ddim i bawb.

I’r pant a rhed y dŵr – Network rider

Yn amlwg, gallwn ni ddim mynd yn bell iawn heb arian. Er bod nifer helaeth ohonom bellach yn gaethweision i ffurf talu ddigyswllt, rydym yn dal i ddefnyddio arian parod weithiau. Yn y Royal Mint Experience yn Llantrisant, gallwch ymweld ar fannau lle’r cynllunnir a lle gwneir arian parod. Mae modd yno hefyd i wasgu ceiniog eich hunan. Am gyffrous. Gallwch hefyd ddysgu am hanes arian a hefyd gweld y casgliad o geiniogau arbennig oherwydd byddwch yn onest, ni gyd wedi trio dal gafael ar geiniogau’r Gemau Olympaidd. Diddorol iawn. Ceir gostyngiad i fyfyrwyr hefyd sy’n fendith felly £11.50 yw pris mynediad.

Wel, gobeithio bod gennych well syniad o bethau i wneud o amgylch Caerdydd ar fro yn y dyfodol. Cofiwch; does dim angen gwario er mwyn joio.

css.php