Gan Alexa Price
Dros y blynyddoedd, dwi wedi gosod adduned ar ├┤l adduned mewn gobaith o newid elfennau penodol fy mywyd, a dwi wastad (fel digonedd ohonom!) yn methu cadw atynt. Er fy mod i wastad yn teimlo fel bod y flwyddyn newydd yn gynfas gwag, ac yn amser i ddechrau’n ffres, dwi wedi dod i’r farn bod addunedau blwyddyn newydd yn wastraff amser i mi. Dwi’n si┼Ár eu bod nhw yn llesol i rai, a dwi’n gallu gweld yr ap├¬l yn fawr! Mae gosod addunedau yn rhoi rhywbeth i bobl edrych ymlaen at yn y dyfodol, ac yn gallu eich llenwi gydag shwd cymaint o gymhelliant nes eich bod chi yn barod i neud newidiadau drastig i’ch arferion! Mae addunedau’r flwyddyn newydd yn ein hatgoffa ni o beth rydym ni wir yn eisiau, o’r arferion gwael y dylen ni newid, ac yn hyd yn oed yn ein hatgoffa bod newid yn gallu bod yn beth da! Ond blwyddyn yma does dim siawns y bydden i yn dewis i osod hyd yn oed un adduned.
Er y buddion sydd yn gallu dod efo addunedau’r flwyddyn newydd, mae hi’n mynd heb ddweud bod nhw yn gallu achosi llawer o bryder a thrallod ymhlith unigolion. Mae yna bwysau mawr amser yma’r flwyddyn i ddangos eich bod chi wedi newid o ganlyniad dilyn eich addunedau, yn enwedig ar broffiliau gyfryngau cymdeithasol. Dwi o’r meddylfryd os rydych chi eisiau rhywbeth yn ddigon, pam y byddech chi yn aros tan y flwyddyn newydd? Mae yna wastad amser i newid! Does dim amser fel y presennol, dydyn ni ddim yn troi’n ifancach! Mae’n well gen i joio fy mywyd fel ydw i na newid er lles eraill. Yr unig berson sydd wir yn gwybod pe bai chi’n hapus neu ddim, yw ti! Os rydych chi am osod addunedau blwyddyn newydd, cofiwch i fod yn garedig i’ch iechyd meddwl ac i joio’r cyfnod o newid!

