Geiriau gan: Dafydd Orritt.
Llun gan: Vox Pictures.
Yn seiliedig ar stori wreiddiol gan Gwenno Hughes a sgriptiau wedi eu hysgrifennu gan Pip Broughton a Catrin Evans. MaeÔÇÖr gyfres Fflam yn cynnig ffordd newydd o wylio dram├óu drwyÔÇÖr Gymraeg gydaÔÇÖr holl gyfres ar gael fel bocs set iÔÇÖw wylio yn syth ar S4C Clic. Ffordd newydd, modern sydd yn galluogiÔÇÖr cyhoedd i wylioÔÇÖr gyfres gyfan bennod ar ├┤l pennod; rhywbeth mae llawer iawn ohonom wedi bod yn eu gwneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf!
MaeÔÇÖr ddrama FFLAM yn dilyn stori Noni syÔÇÖn cael ei chwarae gan Gwyneth Keyworth sydd wedi serennu yn y gyfres Game of Thrones a Black Mirror aÔÇÖi g┼Ár Denzi (Memet Ali Alabora) wrth iddyn nhw greu bywyd newydd gyda’i gilydd yng Nghaerdydd. Mae eu bywyd yn llawn gobaith wrth iddynt atgyweirio eu fferm fechan. Ond maeÔÇÖr gorffennol, galar, cariad, a chynnal t├ón ar hen aelwyd yn peryglu dyfodol Noni gyda Denzi.
Mae ffrind gorau Noni, sef Malan (Mali Ann Rees) aÔÇÖi gwraig Ekin (Pinar Ogun) ÔÇô chwaer Deniz hefyd yn edych ymlaen at y dyfodol wrth i Deniz gytuno i helpu gwireddu eu breuddwyd o gael plentyn trwy fod yn rhoddwr iddynt.
Er bod bywyd yn braf iÔÇÖr cymeriadau, gyda chaffi byrlymus a dyfodol disglair oÔÇÖu blaenau. Mae’r cyfan yn cael ei fygwth gan gymeriad Bedwyr (Richard Harrington) wrth iddo amharu ar fywyd Noni ac atgyfodi ysbryd ei g┼Ár, Tim a fu farw mewn t├ón erchyll.
Mae Noni yn cael ei amsugno i ysbryd Bedwyr wrth i alar y gorffennol effeithio ar ei ymddygiad aÔÇÖi pherthnasau yn y presennol. A fydd Denzi yn amau fod ei wraig yn ei dwyllo?
MaeÔÇÖr ddrama yn parhau am 6 pennod 30 munud o hyd, gyda phob pennod yn datblyguÔÇÖr plot rhwng Noni a Bedwyr, a Denzi aÔÇÖi chwaer.
Drama ddwyieithog ydyw, rhwng y Gymraeg a Thwrceg. MaeÔÇÖn braf gweld S4C yn cynnig llwyfan cenedlaethol i ieithoedd a diwylliannau eraill yn ogystal ag actorion syÔÇÖn dysguÔÇÖr iaith Gymraeg.
Dywed Gareth Smith (Wales Arts) bod Fflam yn arddangos dylanwad y sioeau hyn yn eu hadeiladwaith aÔÇÖu t├┤n ond mae hefyd yn cynnig rhywbeth gwahanol iÔÇÖr rhaglenni dwyieithog. MaeÔÇÖn cynnig sawl elfen gyfarwydd gyda blas unigryw ei hun medd, cyn ychwanegu fod cymeriad Noni yn un amheus ac anianol ÔÇô yn wahanol iÔÇÖr prif gymeriadau ystrydebol sy fel arfer yn poblogi straeon fel hyn.
Dywed Gwenllian Gravelle, comisiynydd cynnwys drama S4C fod Fflam yn gynhyrchiad cyffrous gyda stori wefreiddiol, actorion anhygoel a sgript afaelgar ÔÇô maeÔÇÖn wych gweld drama Gymraeg safonol yn cael ei greu unwaith eto.
Beth fydd tynged Noni felly?
Mae pennod olaf oÔÇÖr gyfres yn cael ei ddarlledu Nos Fawrth 16eg am 9yh ar S4C, neu mae modd gwylioÔÇÖr gyfres yn llawn ar S4C Clic neu Iplayer wan.