Mae Hansh yn ôl gyda chyfres newydd sbon…Bar Hansh! Dyma sioe sy’n teimlo’n gwbl ffres, gan gynnig rhywbeth hollol wahanol sy’n sicr yn apelio i gynulleidfa ifanc Cymraeg.
Yn syml, mae’n gystadleuaeth ymysg chwech o bobl ifanc a’r strip Zante. Y nod? Pwy all ddod a’r nifer mwyaf o bobl i’r bar Cymraeg. Y wobr? Pum mil o bunnoedd!
I ddechrau, mae’r cystadleuwyr yn ymddangos mewn bar crand a golygfa arbennig, mae’r egni’n uchel ac mae pawb yn cyflwyno ei hunain. Ychydig wedyn mae’r naws yn newid wrth i’r criw sylweddoli mai nad dyma’r bar y bydden nhw’n gweithio ynddi. Yn hytrach, mae’n rhaid iddynt adfywio bar blêr a diflas, gan ei gwneud hi’n wythnos llawer mwy heriol iddynt! Ar ben hynny, mae’r cyflwynydd, Ameer, yn rhoi’r sac rhywun ar ddiwedd bob pennod, gan ychwanegu tensiwn gan fod rhaid i’r criw bleidleisio, a dewis pwy sy’n gadael.
Credaf mai un o gryfderau mwyaf y rhaglen yw’r amrywiaeth o siaradwyr o ardaloedd gwahanol yng Nghymru. Mae pob un â gallu gwahanol yn y Gymraeg, gan roi llwyfan i amrywiaeth eang o siaradwyr Cymraeg. Teimla hyn fel cam ymlaen i deledu Cymraeg, gan herio’r stereoteipiau am bwy sy’n siarad yr iaith. Gall hyn annog ac ysbrydoli gwylwyr i siarad neu ddysgu’r Gymraeg.
Er hyn, mae’r defnydd o iaith gref a chymysgedd o ieithwedd drwy gydol y sioe yn gallu bod yn ormodol a’n gwneud i mi gwestiynu os yw’r rhaglen yn rhy anffurfiol, a’n rhoi darlun gwael o safonau’r Gymraeg. Ond, mae’r anffurfioldeb hwn yn rhan o swyn y rhaglen. Mae’n bosib bod y defnydd hwn o iaith yn adlewyrchiad gwell o sut mae llawer o bobl ifanc yn byw ac yn siarad bob dydd. Mae’n gymysg, gyda thafodiaith a lefelau hyder gwahanol, sydd felly yn gwneud y rhaglen yn fwy naturiol. Yr unig beth sy’n tanseilio naturioldeb yn rhaglen yw’r clipiau ‘confessional’ – sydd weithiau’n teimlo wedi’u sgriptio ac yn llai gonest na gweddill y sioe.
Mae’r elfen o adloniant ac egni’n wych! O’r bennod gyntaf mae hiwmor, gwrthdaro a drama, yn debyg iawn i raglenni Saesneg o’r fath. Er yr holl wrthdaro, gwelwn gyfeillgarwch yn blodeuo erbyn diwedd y gyfres; yn benodol rhwng Angharad a Nel.
Dwi wedi mwynhau gweld yw’r gynrychiolaeth o ddiwylliant Cymreig, sy’n cael ei amlygu yn y themâu a’r sialensiau. Yn aml gwelwn gyfeiriadau at ein traddodiadau a ffigyrau Cymreig fel Owain Glyndŵr a Santes Dwynwen. Er eu bod yn cael eu cyflwyno’n ysgafn a’n aml gyda hiwmor, maent yn atgof o gyfoeth ein hunaniaeth. Mae hyn yn codi’r rhaglen y tu hwnt i realiti drama arferol, mae’n gwneud Bar Hansh yn rhywbeth sy’n perthyn i Gymru, ac yn dangos bod modd i deledu Cymraeg fod yn gyfoes.
Ar y cyfan, mae Bar Hansh yn gyfres sy’n teimlo’n gyfoes i Gymry ifanc a’n sicr yn werth ei gwylio!
Geiriau gan: Beca Hughes
Llun o pennod 1, Bar Hansh, S4C

