YSGRIFENNWYD GAN: ALED HUW RUSSELL
Yn dilyn haf hir o weithio, mynd i gigs a sesho, maeÔÇÖr teimlad o fod n├┤l lawr yn y ddinas fawr i wneud union yr un peth, er ar ochr arall y wlad, yn un croesawgar. Gyda Clwb Ifor Bach yn cynnal pedwar gig Twrw dros yr un faint o wythnosau, does dim di yg cerddoriaeth i fwydo Cymry llwglyd Caerdydd. Nos Wener oedd tro Yr Oria, Y Cledrau ac Yr Eira iÔÇÖn swyno. Yr Oria oedd gyntaf, band weddol newydd o Flaenau Ffestiniog yn cynnwys Gerwyn Murray, basydd un o fandiau mwyaf y s├«n, S┼Ánami. Fel rhywun syÔÇÖn anghyfarwydd gydaÔÇÖu gwaith, clywais adleisiau o Yr Eira yn ogystal ├ó Calfari yn eu cerddoriaeth. Yn sicr, bydd rhaid i mi wrando arnynt ymhellach i ddatblygu barn cadarn arnynt a gobeithiaf y byddan nhwÔÇÖn cynnig rhywbeth gwahanol iÔÇÖr s├«n.
Y Cledrau, oÔÇÖr Bala, oedd yr ail fand ymlaen. Gan ystyried pa mor fuan yn y noson oedd eu set, roedd yna dorf trawiadol wedi ymgynnull iÔÇÖw gweld. Maen nhw wedi bod yn byrlymu o dan yr arwyneb am rhai blynyddoedd nawr, ac mae yna agwedd hynod adfywiol ac adloniannol am y band. Braf oedd cael clywed un o fy efrynnau, ÔÇÿAil-AiladroddÔÇÖ, yn ogystal ├ó chaneuon newydd oÔÇÖu albym sydd i ddod, Peiriant Ateb. GydaÔÇÖr band yn cynnwys dau fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Alun ac Ifan, dwiÔÇÖn edrych ymlaen yn fawr i Ifan ddod aÔÇÖi glust am gerddoriaeth aÔÇÖi ddawn am falu awyr iÔÇÖn sioe ar Xpress Radio wyddyn yma. Ucha wynt personol (yn ogystal ├ó gweld Alun yn gwisgo trwsus PJ tartan ar y llwyfan) oedd clywed ÔÇÿCam Wrth Ddi as GamÔÇÖ, un oÔÇÖr caneuon gorau ar 5, albwm cydweithredol I KA CHING.
Yn cauÔÇÖr noson oedd y pedwarawd o Fangor, Yr Eira. Ar ├┤l camu allan o gysgodion y s├«n i ddod yn un oÔÇÖi fandiau mwyaf, mae Yr Eira wedi cael blwyddyn anferthol. Yn dilyn fy nghyfweliad gydaÔÇÖr band prin wyth mis yn ├┤l yng Nghlwb Ifor Bach, maent wedi rhyddhau eu albwm cyntaf, Toddi, yn ogystal ├ó haf prysur o chwarae Gig y Pa liwn, Maes B a Llwyfan y Maes. Os dwiÔÇÖn co oÔÇÖn gywir – agorwyd gyda
ÔÇÿDros Y BontÔÇÖ neu ÔÇÿGadael Am Yr HafÔÇÖ (sori, dwiÔÇÖn beioÔÇÖr Red Stripe). Teimlais fy haf yn cael ei gladdu gan ganeuon megis ÔÇÿRings Around Your EyesÔÇÖ a ÔÇÿF niau AnweledigÔÇÖ oÔÇÖu halbwm newydd, trac sain fy haf i. Diddorol hefyd oedd gweld y basydd Trystan yn cyfnewid ei gitar fas hefo Ifan ar gyfer ÔÇÿGweld Y GwirÔÇÖ, fy honiad i ydy mai c├ón Trystan ydy hi, ac un dda ydy hi hefyd. Gyda dim ond ychydig o anogaeth gan y dorf, ehangodd prif leisydd Yr Eira, Lewys Wyn eu set gyda datganiad byrfyfyr o ÔÇÿElinÔÇÖ, clasur oÔÇÖu dyddiau cynnar syÔÇÖn sicr o yrruÔÇÖr dorf yn wyllt. Caewyd y noson gyda ÔÇÿSuddoÔÇÖ, gan osod y bar iÔÇÖr tair noson arall sydd iÔÇÖw dilyn dros y mis nesaf yn Clwb.