Mae Cymru wedi ei chyfoethogi ├ó chelfyddydau a diwylliant gyda’i chwedlau enwog yn fan ysbrydoliaeth i sawl un. Trafoda’r erthygl hwn rhai o hoff chwedlau Cymru gan dalu teyrnged i’r tiroedd bythwyrdd sy’n gartref iddyn nhw.
Dinas Emrys ÔÇô Chwedl y Ddraig Goch a’r Ddraig Wen
Geiriau gan Catrin Lewis
Dinas Emrys yw cartref symbol enwocaf Cymru – y ddraig goch. Mae’r lleoliad, sydd wedi ei leoli ger Beddgelert, yn adnabyddus o chwedl y ddraig goch a’r ddraig wen.
Yn ├┤l y chwedl, bu’r brenin Gwrtheyrn wrthi am dridiau yn ceisio codi cadarnle yno ond bob bore pan fu’n dychwelyd i’r safle doedd dim ond rwbel i’w weld. Argymhellodd un o’i gynghorwyr iddo ddod o hyd i fachgen heb dad a gwasgaru ei waed ar y creigiau. Daeth Gwrtheyrn o hyd i fachgen o’r enw Myrddin Emrys ond mynnodd y bachgen fod ganddo gyngor gwell i’r brenin. Dywedodd bod draig goch a draig wen yn byw yn y llyn o dan y graig ac yn achosi i’r t┼Ár ddisgyn. Ar ├┤l cloddio, cafodd Myrddin ei brofi’n gywir a deffrodd y ddwy ddraig o’u cwsg a chychwyn ymladd. Bu’r ddraig wen yn fuddugol tair gwaith ond yna, ymladdodd y ddraig goch nerth ei fywyd a dychrynodd y ddraig wen i ffwrdd. Roedd buddugoliaeth y ddraig goch yn symbol o oruchafiaeth y Cymry dros y Sacsoniaid, a gynrychiolir gan y ddraig wen.
Hyd heddiw, mae’r ddraig goch yn cael ei adnabod fel symbol o ddyfalbarhad y Cymry tra bod yr enw Dinas Emrys yn talu teyrnged i ddoethineb y mab ifanc. Mae Dinas Emrys yn safle poblogaidd gyda cherddwyr ac mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol daith arbennig sy’n galluogi i ymwelwyr ail-fyw’r chwedl eiconig. Mae hefyd safle archeolegol ar gopa Dinas Emrys ble arferai’r castell sefyll.
Beddgelert ÔÇô Chwedl Gelert a Llywelyn Fawr
Geiriau gan Angharad Roberts
Mae stori Gelert yn un o gyfeillgarwch, ffyddlondeb a thristwch. Ar ├┤l i’r tywysog Llywelyn cael ei babi cyntaf, pob nos roedd ei gi ffyddlon, Gelert yn cysgu yn ei herbyn i’w amddiffyn. Un noson mae blaidd brawychus yn cyrraedd y castell ac yn trio niweidio’r babi. Mae Gelert yn ei ymladd yn ffyrnig, hyd yn oed i’r pwynt mae crib y babi yn cael ei thynnu i’r llawr. O’r diwedd mae Gelert yn lladd y blaidd ac mae Llywelyn yn cyrraedd yr ystafell. I gyd mae o’n gweld yw Gelert yn llawn gwaed a dim babi. Yn meddwl gwnaeth Gelert lladd ei fab, mae’r tywysog yn cymryd ei gleddyf a’i ladd. Eiliadau wedyn mae’r babi ar y llawr yn dechrau crio, yn agos├íu at y crib mae Llywelyn o’r diwedd yn gweld corff y blaidd ac yn sylweddoli’r gwir. I anrhydeddu Gelert, y ci ffyddlon, cafodd ei gladdu yng Nghaernarfon o dan garreg enfawr. Mae Beddgelert dal yn gallu cael ei ymweld heddiw, mae’n sefyll fel symbol o hanes Cymraeg ac yn cofio stori’r ci dewr.
Nant Gwrtheyrn ÔÇô Chwedl Rhys a Meinir
Geiriau gan Alaw Williams
Mae chwedl Rhys a Meinir yn stori garu am gwpl yn priodi yn Nant Gwrtheyrn sef lle sydd wedi ei leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Pen Ll┼Àn yng Ngogledd Cymru. Roedd cynlluniau iddynt briodi yn Eglwys Clynnog ar ddydd Sadwrn arbennig. Roedd traddodiad arbennig a olygai bod yn rhaid i Meinir guddio ar fore’r briodas a methodd neb ddod o hyd iddi. Treuliodd Rhys fisoedd yn chwilio amdani ac ar noson stormus fe aeth i gysgodi o dan hoff dderwen y ddau ohonynt. Trawyd y goeden gan fellten ac yno yn y boncyff roedd sgerbwd Meinir yn y ffrog briodas. Cafodd Rhys drawiad ar y galon a marw wrth ei hochr. Erbyn heddiw mae modd i chi ymweld ├ó Nant Gwrtheyrn a’r goeden enwog. Yn 2015 cwblhawyd gwaith i uwchraddio ac ehangu’r caffi a fe’i galwyd yn Caffi Meinir ar ├┤l y chwedl. Mae llawer o briodasau yn cael eu cynnal yno heddiw ac yn 2016 fe agorwyd cyfleusterau newydd sbon gyda llety ychwanegol ar gyfer hyd at 38 o bobl. Un o’r prif ddigwyddiadau yn Nant Gwrtheyrn yw’r cyrsiau Cymraeg sydd yn cael eu cynnig yno.

