Blwyddyn newydd yn golygu pennaeth newydd iÔÇÖr Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Dyma Llion Carbis, y pennaeth newydd i esbonio pa gyfleoedd gallwch chi gael wrth ymuno aÔÇÖr CMCC.
Gan Llion Carbis
Mae symud iÔÇÖr brifysgol yn gallu bod yn fenter frawychus. Mae darganfod gr┼Áp cymdeithasol o bobl syÔÇÖn rhannu diddordebau tebyg a phobl syÔÇÖn medru herio safbwyntiau a rhag syniadau yn gallu bod yn heriol hefyd. Dyma un oÔÇÖr prif fuddion syÔÇÖn deillio o ymuno ├ó chyfryngau myfyrwyr Caerdydd, ac yn fwy penodol, CMCC.
Beth yw CMCC? Dyna gwestiwn bydd rhaid i mi ateb droeon yn ystod ffair y glas ym mis Medi. Mae Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd yn blatfform gan fyfyrwyr syÔÇÖn hyrwyddo a rhannu cynnwys cyfrwng Cymraeg gan bedwar cangen cyfryngau myfyrwyr Caerdydd. Yn ffodus, mae gan Gaerdydd papur newydd wythnosol (Gair Rhydd), orsaf Radio (Xpress), sianel teledu (CUTV), a chylchgrawn diwylliannol misol (Quench).
Bellach, mae adran Cymraeg ymhob cangen, gyda Taf-od yn Gair Rhydd, Xpress Cymraeg, CUTV Cymraeg a Clebar yn Quench. Fel pennaeth CMCC, fy swyddogaeth i yw goruchwylio bod y cynnwys Cymraeg yn cael eu cynhyrchu ac yna ei rhannu iÔÇÖr gymuned ehangach o siaradwyr Cymraeg yn y brifysgol.
Credaf yn gryf fod CMCC yn chwarae rôl allweddol at godi statws y Gymraeg o fewn y brifysgol. Fel y brifysgol gorau ym mhrifddinas Cymru, mae gan Gaerdydd ddyletswydd i sicrhau fod y Gymraeg yn bresennol ac yn cael ei ymfalchïo. Wrth glywed yr iaith ar donfeddi Xpress, neu weld y Gymraeg ar dudalen flaen Gair Rhydd, mae chwilfrydedd pobl ddi-gymraeg yn cael ei bigo, sydd yn codi ymwybyddiaeth am ein hiaith.
O safbwynt darpar gyfranwyr syÔÇÖn ymuno aÔÇÖr brifysgol ym mis Medi, mae cyfrannu at adrannau CMCC yn gyfle allgyrsiol arbennig. Wrth ymuno aÔÇÖr brifysgol, mae pob cwrs yn pwysleisioÔÇÖr angen i weithredu yn allgyrsiol ac i gyfrannau at ethos y brifysgol.
Mae sgwennu erthyglau neu gyflwyno ar y radio neu deledu yn eich arfogi gyda sgiliau ymarferol holl ddefnyddiol; maeÔÇÖn fodd o wella sgiliau academaidd tra hefyd yn helpu gwella hyder unigolion. Gall pobl hyd yn oed ymdrin ├óÔÇÖr cyfleoedd fel dihangfa, cyfle i fwynhau, er enghraifft, wrth redeg rhaglen radio sydd o ddiddordeb iddyn nhw ÔÇô roeddwn iÔÇÖn ddigon ffodus i gael rhaglen chwaraeon Cymraeg yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Nid yw diddordeb mewn newyddiaduraeth neu ei astudio fel gradd yn hanfod┬á i unrhyw un syÔÇÖn awyddus i ymuno ├ó CMCC, ond maeÔÇÖr cyfleodd newyddiadurol syÔÇÖn cael eu cynnig yn sicrhau fod gan y myfyrwyr hynny profiad ymarferol angenrheidiol. Cyfle ydyw i roiÔÇÖr theori ar waith, i ddefnyddio gwerthoedd newyddion mewn sefyllfaoedd aml-gyfryngol.
Yn fwy na dim, mae CMCC yn gyfle ardderchog i gwrdd ├ó phobl newydd a chyfrannu at gymuned o bobl syÔÇÖn rhannu angerdd dros sgwennu neu gyflwyno. MaeÔÇÖr misoedd agoriadol yn y Brifysgol yn gallu bod yn rhai lletchwith; gyda pherthnasau o ysgol yn dod at derfyn a mwyafrif o bobl yn ceisio ymgartrefu mewn rhywle hollol newydd. Yn amlwg, nid yw profiad pawb yn debyg, mae rhai yn cynefino yn y brifysgol yn sydyn iawn, ond mae CMCC yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno profiadau┬á a sgiliau academaidd gyda chymdeithasu a chyfle i fagu perthnasau a ffrindiau newydd.
Wrth baratoi at ddechrau fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol (nad wyf yn gallu credu fy mod wedi cyrraedd y flwyddyn olaf yn barod), a bellach fel pennaeth CMCC, rwyf yn sylweddoli pa mor ganolog mae cyfryngau myfyrwyr wedi bod at fy mwynhad yn y brifysgol. Rwyf yn dueddol o ddisgrifio cyfryngau myfyrwyr fel enigma o gymdeithas, ymhle mae gwaith newyddiadurol yn cael ei chyfuno a chymdeithasu.
Trwy fod yn aelod gweithredol o CMCC rwyf wedi derbyn llu o brofiadau arbennig, ac fel pennaeth CMCC, rwyÔÇÖn awyddus bod gymaint o bobl ag syÔÇÖn bosib yn ymwybodol oÔÇÖr cyfleodd sydd ar gael iddyn nhw. MaeÔÇÖr Gymraeg a CMCC yn agos iawn at fy nghalon, ac rwyÔÇÖn gyffrous i ddatblyguÔÇÖr platfform o nerth i nerth eleni.