Byw Bywyd yn Ddwyieithog

Mae cael y gallu i ysgrifennu, meddwl a siarad mewn mwy nag un iaith yn rhinwedd anhygoel iÔÇÖw gael sydd yn eiÔÇÖn galluogi i brofi bywyd drwy ddau lygad gwahanol (yn ddamcaniaethol!) Dyma restr fer o pam fod byw bywyd yn ddwyieithog yn dda iÔÇÖr ymennydd ac eich bywyd cymdeithasol!

  1. Mae bod gydaÔÇÖr gallu i siarad mwy nag un iaith yn cryfhau eich ymennydd!

Mae dysgu iaith arall yn ffordd effeithiol iawn o gadw eich ymennydd yn iach ac yn siarp, gan ei fod yn cael effaith bositif ar yr ymennydd. MaeÔÇÖn ffordd dda o ymarfer eich sgiliau o ddatrys problemau, ac yn yr un modd maeÔÇÖn eich golluogi i feddwl yn fwy creadigol a thu allan iÔÇÖr bocs! Yn ychwanegol i hynny, mae dysgu iaith arall yn gwellhau eich cof ÔÇô defnyddiol iawn ar gyfer cofio enwau pobl newydd!

2. Drwy siarad fwy nag un iaith, maeÔÇÖn rhoi mantais academaidd i blant a phobl ifanc.

Mae gwaith ymchwil yn arddangos bod disgyblion sydd yn siarad mwy nag un iaith yn llwyddo mwy yn yr ysgol neu yn y brifysgol, o gymharu â phlant neu bobl ifanc sydd dim ond yn siarad un iaith. Mae siarad mwy nag un iaith yn galluogi person i ddatblygu ei sgiliau academaidd, sgiliau cymdeithasol, llenyddol ac emosiynol.

3. Fwy o gyfle i gael swyddi!

Mae siarad fwy nag un iaith yn eich gwneud chi yn fwy agored i fwy o swyddi. Mae cyfathrebu yn y gweithle yn hanfodol mewn unrhyw swydd, ac o ganlyniad i hynny mae llawer o gwmn├»au, yn benodol cwmn├»au sydd ag swyddfeydd yn rhyngwladol yn edrych am gyflogwyr sydd aÔÇÖr gallu i siarad mwy nag un iaith.

4. Galluogi pobl i fod yn fwy agored i ddiwylliannau eraill.

Drwy siarad mwy nag un iaith mae hyn yn ffactor sydd yn galluogi pobl i fod yn fwy agored am yr hyn maent yn ei weld, e.e.. diwylliannau eraill. Mae bod yn ddwyieithog yn galluogi person i brofi diwylliannau eraill ac i brofi elfennau gwahanol o ddiwylliannau eraill. Er mae hiÔÇÖn bosib i chi brofi a gwerthfawrogi diwylliannau eraill heb siarad yr iaith ond mae siarad iaith arall yn eghanu eich profiad.

5. MaeÔÇÖn gwneud trafeilioÔÇÖr byd yn rhwyddach ac yn fwy hwylus.

MaeÔÇÖn rhinwedd wych iÔÇÖw gael os ydych am fentro allan iÔÇÖr byd i fwynhauÔÇÖr holl ryfeddodau sydd gan y byd iÔÇÖw gynnig. Drwy siarad ieithoedd gwahanol gallwch drafeilioÔÇÖr byd yn fwy hyderus, gan eich bod gydaÔÇÖr gallu i gyfathrebu gyda phobl y wlad yn fwy hyderus ÔÇô a dim defnyddio ÔÇÿgoogle translateÔÇÖ i archebu bwyd! Yn yr un modd a hynny, maeÔÇÖn eich galluogi chi i wneud fwy o ffrindiau o gwmpas y byd.

6. Hawdd i ddysgu trydydd iaith!

Ar ├┤l dysgu un iaith, maeÔÇÖn eich galluogi chi i fod yn fwy agored am yr hyn rydych chi yn barod iÔÇÖw ddysgu, ac maeÔÇÖn debygol y byddwch gydaÔÇÖr awydd i ddysgu fwy o ieithoedd! MaeÔÇÖr profiadau rydych chiÔÇÖn ei gael aÔÇÖr cyfleoedd sydd yng nghlwm a dysgu iaith yn atynnu pobl i ddysgu mwy.

7. Gwneud mwy o ffrindiau.

Mae dysgu ieithoedd gwahanol yn eich galluogi chi i fod yn fwy agored am yr hyn sydd gan y byd iÔÇÖw gynnig. Yn syml, y mwyaf o ieithoedd rydych chiÔÇÖn ei ddeall ynaÔÇÖr mwyaf o bobl y gallwch gyfathrebu gydag o gwmpas y byd i gyd.

8.Mae siarad mwy nag un iaith yn eich gwneud chiÔÇÖn fwy attractive… yn ├┤l y s├┤n!

Yn ├┤l astudiaeth, mae siarad mwy nag un iaith yn cryfhau eich hyder, yn benodol yn y byd dateio! Cafodd yr astudiaeth ei greu ar ddiwrnod San Ffolant gan Rocket Languages. MaeÔÇÖr astudiaeth yn datgan bod 70% o bobl yn credu bod person sydd aÔÇÖr gallu i siarad mwy nag un iaith yn fwy attractive o gymharu a person sydd aÔÇÖr gallu i siarad un iaith. Yn yr un modd, mae 77% o bobl yn credu bod pobl dwyieithog yn fwy galleuog ÔÇô er bod dim tystiolaeth gwyddonol, maeÔÇÖn ddarn defnyddiol o wybodaeth i unrhyw berson sengl syÔÇÖn medru mewn mwy nag un iaith!

Felly, dyna rhestr byr oÔÇÖr holl elfennau sydd yn gwneud bywyd dwy ieithog yn fywyd llawn profiadau, cyfeloedd a cwrdd pobl newydd. Cofiwch bod modd dysgu iaith newydd dros apiau fel ÔÇÿDuolingoÔÇÖ neu mewn byd llawn galwadau zoom, mentrwch am wersi dysgu iaith yn rithiol!

Am fwy o wybodaeth ewch i https://unuhi.com/10-benefits-of-being-bilingual/

Geiriau gan; Dafydd Orritt.

Llun gan; Madeline Howell.