Ar hyn o bryd, mae Aled Biston ac Alexa Price wrthi’n astudio ym mhrifysgol Caerdydd. Mae Alexa’n astudio Llenyddiaeth Saesneg tra bod Aled yn astudio’r cwrs MA Newyddiaduraeth Newyddion trwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, mae’r ddau yn siaradwyr Cymraeg rhugl ac eisiau parhau i ddefnyddio’r iaith tra yn y brifysgol. Dyma eu profiadau nhw o gadw eu Cymraeg yn fyw wrth astudio cyrsiau di-gymraeg.
Geiriau gan Aled Biston
Fel myfyriwr sydd wedi astudio nid yn unig addysg yn yr ysgol trwyÔÇÖr Gymraeg, ond hefyd fy BA Cymraeg a Hanes (rhan fwyaf oÔÇÖr cwrs hanes) trwyÔÇÖr Gymraeg, mae symud i astudio MA i gyd trwy gyfrwng y Saesneg wedi bod braidd yn her. MA Newyddiaduraeth Newyddion yw beth dwiÔÇÖn astudio, ac maeÔÇÖr cymysgedd o ddarlithoedd ymarferol o ysgrifennu straeon i rai ar y gyfraith a gweinyddiaeth gyhoeddus wedi bod yn anodd iawn i addasu iddynt. DwiÔÇÖn dod ar draws geirfa academaidd iawn sydd yn anodd imi ddeall gan fy mod ond yn eu hadnabod trwy fy mamiaith. MaeÔÇÖr profiad braidd yn heriol felly, ond dros y misoedd diwethaf dwi wedi dod iÔÇÖr arfer gydaÔÇÖr termau newydd ac o ganlyniad wedi gallu ehangu fy ngeirfa.
DwiÔÇÖn ddigon ffodus i fyw bywyd allgyrsiol trwyÔÇÖr Gymraeg, ar y cyfan. Rwyf yn byw gyda gr┼Áp o fechgyn lle ni gyd yn siarad Cymraeg gydaÔÇÖn gilydd, ac mae fy nghariad yn siaradwraig Gymraeg hefyd. Yr unig gyfnod lle nad ywÔÇÖr Gymraeg yn bresennol yw sgyrsiau gyda fy ffrindiau cwrs. Er bod tua chwech ohonom yn siarad Cymraeg, nid oeddwn yn gwybod eu bod yn medru tan iddynt ddweud wrthai, a hynny ar ├┤l tua chwech wythnos o astudio. Mae ein trafodaethau bellach yn y Saesneg, ac mae elfen drist iawn am hynny. Ond, dwi yn ceisio dysgu fy nghyd-fyfyrwyr geiriau Cymraeg defnyddiol iddynt. Fel myfyrwyr sydd hefyd yn newyddiadurwyr mewn hyfforddiant yng Nghymru, credaf ei fod yn bwysig eu bod nhwÔÇÖn dysgu’r geiriau cyfarwydd fel ÔÇÿbore daÔÇÖ, ÔÇÿdiolchÔÇÖ, ÔÇÿshwmaeÔÇÖ. A chwarae teg iddynt hefyd, maen nhwÔÇÖn dangos diddordeb yn yr iaith ac yn gofyn i fi cyfieithu dyfyniadau ar gyfer eu gwaith. Dwi hefyd yn mynnu bod unrhyw fideos rydym yn creu ar gyfer ein cyfrif Trydar, TikTok a mwy, gydag is-deitlau Cymraeg.
MaeÔÇÖr trawsnewidiad o fywyd prifysgol gwbl Cymraeg i un sydd yn cynnwys y Saesneg wedi bod yn her, ond yn un dwi wedi croesawu ac wedi ceisio integreiddioÔÇÖr Gymraeg gyda.
Geiriau gan Alexa Price
Fel myfyrwraig Llenyddiaeth Saesneg, mae cadw fy Nghymraeg i wedi profi i fod yn sialens yn ystod fy amser yn y Brifysgol. Er mai calon y wlad ydy Caerdydd, maeÔÇÖn siomi fi bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn brin iawn. Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, dwi wedi brwydro mewn sawl ffordd i sicrhau bod fy Nghymraeg i yn aros yn agos atai. Yn gyntaf, mae gen i diwtor personol sydd yn siaradwr y Gymraeg. Pan wnes i ddanfon cais i Brifysgol Caerdydd, roedd hon yn opsiwn i mi a nes i gymryd o ar unwaith. Er bod y cyfarfodydd ddim yn rhy aml, efallai dwywaith y tymor, dwiÔÇÖn gwybod bod y gefnogaeth wastad ar gael i mi pe bai dwiÔÇÖn dewis siarad yn Gymraeg neuÔÇÖn Saesneg. Yn ogystal ├ó hyn, mae gen i sawl ffrind sydd hefyd yn siaradwyr y Gymraeg. Yn y Brifysgol, rydych chiÔÇÖn ymglymu ├ó shwd cymaint o bobl ac felly mae hiÔÇÖn mor hawdd i droi i siarad yn y Saesneg heb feddwl. Mewn byd lle does dim digon o siaradwyr y Gymraeg, pam ni fyddech chiÔÇÖn troi i siarad o gyda nhw sydd efoÔÇÖr gallu? Heddiw mae gen i sawl ffrind agos o Brifysgol ac o fewn y gweithle sydd yn siaradwyr y Gymraeg, ac sydd yn ddigon hapus i siarad yr iaith gyda mi. Gallech chi gadw eich iaith trwyÔÇÖr pethau bach hefyd; lists siopa, gwylio rhaglenni, neu ddarllen llyfrau Cymraeg. Dydy o ddim mor galed ├ó beth yr oeddwn i yn meddwl ar ddechrau fy mlwyddyn gyntaf!