Caffis Annibynnol Caerdydd

Un o fy hoff bethau i wneud yng Nghaerdydd yw mynd allan am goffi. Mae yna nifer eang o gaffis ar gael yng Nghaerdydd; maeÔÇÖn bleser gweld bod yna cymaint o siopau annibynnol ar gael yn ein prif ddinas sydd yn cynnig coffi blasus mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar. Nid ywÔÇÖn bosib esbonio pam mae mynd mas am goffi mor bleserus, ond mae medru mynd allan am baned yn cynnig rhywfaith o normalrwydd, hyd yn oed ymysg yr adeg anghyffredin yma. Felly, dyma dri chaffi annibynnol yng Nghaerdydd sydd yn rhaid ymweld ag yng Nghaerdydd!

Yn gyntaf: Uncommon Ground Roastery.

Dyma gaffi sydd wediÔÇÖi leoli yng nghalon y brif ddinas ÔÇô yn y Royal Arcade. Fe fedrwch chi eistedd lawr am baned yn y caffi yma ar ├┤l diwrnod hir o siopa gan ei fod wedi ei leoli wrth y ganolfan siopau. Dyma fy hoff gaffi am nifer eang o resymau: maeÔÇÖr awyrgylch yn y siop yn groesawgar iawn ÔÇô byrddau mawr wediÔÇÖi ddylunio i rannu a chwsmeriaid arall*; prisoedd derbyniol (tua ┬ú3 am goffi); staff cyfeillgar iawn. Maent yn rhostio ffa coffi ei hunain mewn ffatri tu allan iÔÇÖr brif ddinas. Ond, yrheswm pennaf pam mae Uncommon Ground yn ffefryn i nifer o ymwelwyr y ddinas yw oherwydd bod y coffi yn flasus iawn.

* Yn amlwg nid ywÔÇÖn bosib nawr i fwynhauÔÇÖr elfen yma oÔÇÖr siop fel oeddwn ni yn flaenorol.

Yn ail: Blanche Bakery.

MaeÔÇÖn rhaid ymweld ├ó Blanche Bakery. Dydw i erioedwedi ymweld ├ó chaffi tebyg. MaeÔÇÖr siop yn edrych fel petai hi wedi dod yn syth allan o lun ar Instagram neu Pinterest; mae popeth yn binc, byrddau a phatrwm marmor, mae yna hyd yn oed wal o lwyni efo arwydd neon yn dweud ÔÇÿbut first coffeeÔÇÖ . Os ydych chi yn edrych am baned cyffredinol, dim Blanche Bakery ywÔÇÖr caffi i chi. MaeÔÇÖr coffi aÔÇÖr caffi mor unigryw. Nid yn unig ywÔÇÖr coffi yn werth ei drio, ond maent yn arbenigo mewn toesenni. Ymwelais ├ó Blanche Bakery ym mis Medi yn 2019 a ddarganfyddais ei bod nhw yn darparu ar gyfer feganiaid yn benodol. Er bod y mwyafrif o ddiodydd a phrydau o fwyd yn Blanche Bakery yn fegan, dydych chi ddim yn medru blasuÔÇÖr gwahaniaeth.Mae Blanche Bakery yn unigryw, blasus ac yn brofiad diddorol i unrhyw un sydd yn ddigon anturus i drio rhywbeth gwahanol!

Yn drydydd: The Plan.

WediÔÇÖi leoli yn y Morgan Arcade, maeÔÇÖr caffi wediÔÇÖi enwi gan The Independent fel un oÔÇÖr 50 gorau sio i ymweld ag ym Mhrydain. Ymwelais ├ó The Plan hwyr yn y prynhawn yn dychmygu ni fydden nhw mor brysur ar yr adeg hynny gan gymharu ag amser cinio, ond syndod oedd hi i ddarganfod roedd pob bwrdd wediÔÇÖi lenwi heblaw am un! Maent yn boblogaidd iawn pryd bynnag, sydd yn awgrymu ar unwaith bod gwasanaeth da a choffi gwych ar gael! Yn ychwanegol, maent yn cynnig prydau bwyd arbennig ÔÇô maeÔÇÖr gegin yn cael ei redeg gan Wayne Barnard, a wnaeth cyrraedd y rownd derfynol yn y Gystadleuaeth Cogyddion Cymraeg Cenedlaethol, ac fe wnaeth gydweithio efo nifer o gogyddion enwog gan gynnwys Marco Pierre White a Raymond Blanc OBE. Felly, maeÔÇÖn rhaid ymweld ├ó The Plan, sef caffi artisan sydd yn cynhyrchu prydau o fwyd a diodydd sydd wediÔÇÖi prisio yn rhesymol i safon ardderchog!

I gloi, dyma ddim ond tri opsiwn o siopau coffi annibynnol maeÔÇÖr brif ddinas yn cynnig. Maent yn darparu prydau o fwyd a diodydd i ansawdd syfrdanol am brisoedd rhesymol ac yn sicr yn werth ymweld ag am brofiad newydd a phaned da!