Rhywle mewn ystafell wisgo, o dan oleuadau gwael a bwriadau gwell, mae artist drag yn
gludo ei haeliau ac yn gweddïo ar nawddsant setting spray. Mae’n ddefod sy’n lledaenu; yn
weithred fach o drawsnewid sy’n cario canrifoedd o naws theatrig Gymreig.
Yng Nghymru, rydyn ni wastad wedi hoffi gwisgoedd. Dyma wlad oedd, ar un adeg, yn
gwisgo hetiau a siôl ar gyfer y diwrnod marchnad. Heddiw, rydyn ni’n dal i wisgo cennin a
chennin pedr ar gyfer y rygbi.
Mae colur drag – mynegiant rhagorol o glitter, contour a chymeriad – yn cymryd y cariad
cenedlaethol hwn am wisg ac yn ei beintio’n llachar.
Gwyneb Drag Cymru
Yn y 70au ar 80au, pan oedd bod yn queer yn aml yn golygu bod yn ofalus, roedd
perfformwyr lleol yn cerfio eu hetifeddiaeth mewn bariau bach a neuaddau cymunedol. Nid
oedd perfformwyr drag blaenllaw Caerdydd fel Amber Dextrous a Marmalade yn lip-syncio
am tips yn unig, ond yn hytrach yn perfformio adfywiad diwylliannol. Roedd pob wig, esgid a
cosmetig yn weithred o wrthryfel wedi’i orchuddio mewn sequins.
Heddiw, mae drag Cymru yn mwynhau ei adfywiad. Caiff ei yrru gan berfformwyr fel Catrin
Feelings, lle mae ei chymysgedd o hiwmor sych a sylwebaeth wleidyddol finiog yn gwneud
hi’n drysor cenedlaethol. Nid colur yn unig yw celfyddyd Catrin, ond colur fel maniffesto.
Mae ei hwyneb wedi’i baentio’n gynfas ar gyfer archwilio hunaniaeth, dosbarth a gwelededd
queer mewn gwlad fach sy’n dal i ddysgu sut mae dathlu ei sbectrwm llawn o
hunanfynegiant.
Yr Hanes
Mae Cymru wastad wedi cydnabod perfformiad fel pŵer. Er enghraifft, daeth barddoniaeth yr
Eisteddfod yn faes cystadleuol. Mae Drag, yn syml, yn cyfnewid y llwyfan am stôl bar, a’r
seremoniau am fersiwn lliwgar o Calon Lân.
Mewn sawl ffordd, mae colur drag yn benthyg o’r un traddodiadau gweledol a gwisgoedd
gwerin Gymreig; y gor-ddweud bwriadol ac adrodd straeon trwy ffabrig a ffurf. Nid ond ‘dillad
gorau Dydd Sul’ oedd siolau a hetiau’r 19eg ganrif. Roedden nhw’n symbol o falchder a lle,
yn debyg iawn i gorsets rhinestone a dillad pluog perfformwyr drag modern. Mae’r ddwy wisg
yn dweud, mewn ffordd eu hunain, “ni fyddwch yn fy anwybyddu”.
Pŵer Paentio a Gwleidyddiaeth
Ers erioed, mae peintio wyneb rhywun yng Nghymru wedi bod yn weithred wleidyddol. Er
enghraifft, huddygl glowyr, streipiau rygbi a phaent rhyfel Celtaidd – pob un yn ddatganiad o
berthyn. I gymunedau queer, mae’r wyneb drag fel mwgwd sy’n datgelu mwy na mae’n
cuddio.
Tu ôl i bob penderfyniad yw’r hawl i fod yn weladwy, a thu ôl i bob lliw mae rhyddid. Mewn
diwylliant sydd dal i benderfynu ei pherthynas a’r gymuned queer, mae artistiaid drag yn
gwasanaethu fel adloniant ac addysgwyr. Maen nhw’n dysgu hunan-dderbyniad i’r rhai sydd
dal i sibrwd.
Pan ymddangosodd Catrin Feelings ar RuPauls Drag Race UK, nid ond cynrychioli drag
Cymru oedd hi’n gwneud. Roedd hi’n cynnig blas o’n hunaniaeth – balch, cryf a gwleidyddol.
Rhoi Llais
Mae yna rywbeth hollol Gymreig am golur drag fel datganiad. Mae’n adlais artistig o genedl
sydd trwy’r amser wedi gorfod gweiddi’n uwch i gael ei chlywed. Pan fydd artist yn peintio ei
hwyneb yn Abertawe neu Fangor, maent yn perfformio rhywedd, ond hefyd fersiwn
ehangach o hunaniaeth Gymreig. Mae colur, yn yr ystyr hwn, yn troi’n etifeddiaeth. Mae’r
shimmer yn adlewyrchiad o lwch a balchder glowyr, a’r llygaid mawr yn cynrychioli baner
sy’n chwifio a hyder. Tydi drag ddim yn golygu edrych yn bert, mae’n golygu cael eich gweld
a’ch clywed.
Ond eto, tu hwnt i’r wleidyddiaeth a’r perfformiad theatrig, mae yna rywbeth ysgafn yn
perthyn i’r traddodiad. Mae llawer o artistiaid drag yn disgrifio’r weithred o wneud colur fel
rhywbeth ymlaciedig. Mae’n therapi creadigol gyda sbeis. Wrth i gymdeithas ehangach
danseilio gwerth llafur creadigol, mae drag yn mynnu bod harddwch yn waith, a bod
hunanfynegiant yn deilwng.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mewn oes lle mae sgyrsiau ynghylch rhywedd, hunaniaeth a chynrychiolaeth yn aml yn cael
eu lleihau i hashnod ar-lein, mae colur drag yn parhau i fod yn gorfforol ac ystyfnig. Mae’n
gyfuniad o liw, gwead, chwys a sgil. Celf sy’n gallu cael ei addasu tro ar ol tro. Mae gwylio
perfformiwr drag yn trawsnewid ei hun yn destament i grefftwaith dewr.
Mae estheteg drag wedi treiddio i brif ffrwd ddiwylliannol Cymru, gan ddylanwadu ffasiwn
leol, theatr ac ymgyrchoedd Pride. Mae prifysgolion a chynghorau bellach yn gwahodd
perfformwyr drag i siarad ar baneli a chynnal gweithdai. Mae’r colur sydd wedi’i arfer cael ei
ddisgrifio’n “ormod” yn dechrau cael ei gydnabod fel dull safonol o adrodd straeon
diwylliannol.
Y Lash Olaf
Mae gwisgoedd wedi bod yn draddodiad yng Nghymru ers peth amser. Mae drag, yn syml,
yn ein hatgoffa nad yw hunaniaeth yn sefydlog, mae’n rhywbeth rydyn ni’n ei beintio, ei wnïo
a’i gludo at ei gilydd.
Felly, tro nesaf ti’n gweld menyw drag yn cerdded lawr St Mary’s Street, paid meddwl
amdani fel ‘merch mewn gwisg’ ond fel merch sy’n cydnabod hanes Cymru o berfformio
gyda balchder.
Achos, mewn gwlad sydd gyda draig fel symbol cenedlaethol, pam mor rhyfedd ydy dathlu’r
rhai sy’n anadlu tân drwy golur, glitter a lliw?
Geiriau gan: Gabrielle Treharne-Hughes
e.g Featured image courtesy of Alexander Grey via Unsplash. No changes have been made to this image. Image licence found here

