Mae dewis eich dyfodol yn anodd yn enwedig wrth i chi gadael Prifysgol. Mae dau o ein cyfranwyr yn ddadl beth ywÔÇÖr opsiwn gorau, swydd neu gwrs ol-raddedig.
Pam ddewis swydd?
Gan Indigo Jones
ÔÇ£Beth ydych chiÔÇÖn wneud blwyddyn nesaf?ÔÇØ y cwestiwn sydd yn codi chills arna i. Gan fod fiÔÇÖn agos├íu diwedd fy amser yn brifysgol, dwiÔÇÖn clywed y cwestiwn yma cwpwl o weithiau’r wythnos. Ond yr ateb yw, nad ydw iÔÇÖn hollol sicr o feth i wneud ar ├┤l i mi raddio. DwiÔÇÖn gofyn fy hun ÔÇ£sut allai ddarganfod beth yn union ywÔÇÖr peth gorau i mi?ÔÇØ. I ambell berson profiadau ywÔÇÖr peth gorau, a beth ywÔÇÖr ffordd gorau i ennill profiad? Ymgeisio am amrywiaeth o swyddi! Efallai fel fi, rydych chiÔÇÖn edrych am y beth nesaf i wneud yn fywyd, ac yn ansicr ble i ddechrau.
Ti ÔÇÿdi bod yn astudio am ryw 18 flwyddyn ac yn barod i ddechrau eich bywyd tu allan o addysg. MaeÔÇÖr cysur a diogelwch o aros am radd ├┤l raddedig yn apelgar, ond y syniad o wneud flwyddyn arall yn addysg yn llafurus. Nid yn unig ydy oÔÇÖn flwyddyn arall o addysg, ond efallai’r flwyddyn fwyaf anodd yn eich amser yn addysg, felly bydd rhaid i chi wneud yn sicr fod chiÔÇÖn wneud y peth gorau i chi!
Wrth ddechrau swyddi rydych yn cael eich taflu mewn iÔÇÖr ochr ddwfn, mae rhaid i chi gael profiad ymarferol yn syth ac yn dysgu ar y swydd. Yn sicr i rai pobl mae hyn ywÔÇÖr pethau gorau oherwydd does dim ffordd well i ddysgu ÔÇÿna dysgu o eich camgymeriadau wrth weithio. MaeÔÇÖr profiad yma yn ddechrau da i’ch dyfodol yn waith wrth i chi casglu profiad yn amrywiaeth o swyddi a chasglu pethau i adio i’ch CV. Mae nifer fawr o gwmn├»au yn edrych am brofiad yn lle cyrsiau ├┤l-raddedig, felly tra bod chiÔÇÖn ennill arian chi hefyd yn ennill profiad gwerthfawr.
I ddweud y gwir y syniad o fod dyfnach mewn dyled yn ofni mwyafrif o fyfyrwyr, ac felly efallai nad ydy gradd ├┤l-raddedig yn y beth gorau iddyn nhw. I wneud y cwrs bydd rhaid i chi dalu nifer fawr, ac efallai na fydd eich benthyciad myfyriwr yn ddigon i dalu am y cwrs a chostau byw. MaeÔÇÖr syniad o fynd fewn i swydd a dechrau ennill arian yn barod i’ch dyfodol yn apelgar iawn, yn enwedig wrth i ni gasglu nifer fawr o ddyled yn y tair flwyddyn gyntaf o Brifysgol.
Mae dewis beth i wneud ar ├┤l Brifysgol yn anodd, a phaid becso oherwydd y mwyafrif ohonom ni yn yr un sefyllfa. Felly pob lwc i chi gydag eich dewisiadau a pob lwc gydag eich dyfodol!
Pam ddewis cwrs ├┤l-raddedig?
Gan Lowri Pitcher
Wrth i mi agos├íu at hanner ffordd trwy fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yn amlwg rydw i wrthiÔÇÖn pendroni cam nesaf fy mywyd. Ffeindio swydd, mynd i deithio, gwneud dim, astudio cwrs ├┤l-raddedig? Mae nifer fawr iawn o opsiynau oÔÇÖn blaenau ni fyfyrwyr. Serch hynny, yr hyn rwyÔÇÖn credu sydd orau, yn enwedig i mi, ydy astudio cwrs ├┤l-raddedig.
Un oÔÇÖr prif resymau rwyÔÇÖn credu taw hyn ywÔÇÖr penderfyniad cywir i mi ydyÔÇÖr ffaith bod gwneud meistr neu ddoethuriaeth yn caniat├íu i berson arbenigo mewn maes sydd yn wahanol i’w gradd a dysgu sgiliau gwahanol i’r rheiny syÔÇÖn cael eu magi yn ystod astudiaethau israddedig. Er enghraifft, gallech gymysgu radd israddedig ieithoedd modern gyda chymhwyster newyddiaduraeth neu gysylltiadau rhyngwladol; neu gymysgu gradd israddedig hanes gyda gradd ├┤l-raddedig yn y gyfraith.
Yn ogystal dylid nodi bod astudio meistr neu astudiaethau pellach yn caniat├íu i chi dderbyn achredidau neu arbenigo mewn rhyw faes oÔÇÖch gradd israddedig er mwyn cyrraedd safon arbenigol a chynydduÔÇÖr tebygolrwydd o dderbyn eich swydd ddelfrydol.
Mae astudio am flwyddyn neu ddau ychwanegol felly yn caniatáu i chi ddilyn gyrfa wahanol, arbenigo mewn maes penodol neu ganiatáu i chi ymgeisio am swyddi sydd rheng neu ddau uwchben rheini sydd heb y cymwysterau olradd.
Ymysg fy nghyd-fyfyrwyr yn aml iawn rwyÔÇÖn clywed bod nifer o bobl ifanc yn dyheu am fynd i deithio am flwyddyn cyn penderfynu ai astudiaethau pellach neu ffeindio swydd ydyÔÇÖr trywydd cywir i ddilyn. Er fy mod yn credu bod teithio yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, yn bersonol rwyÔÇÖn credu ei bod yn well gorffen astudio cyn teithio. RwyÔÇÖn nabod cynifer o bobl sydd wedi mynd i deithio ac ar ├┤l iddynt ddychwelyd nid oes ganddynt y cymhelliant i ddychwelyd i’r llyfrgell a threulio oriau maeth yn ysgrifennu traethodau. Yn ogystal, mae teithioÔÇÖn ddrud ac efallai ar ├┤l dychwelyd bydd angen ffeindio swydd felly gallai cyllido am astudiaethau pellach bod yn anodd.
Yn olaf, rydym yn aml yn clywed taw bod yn fyfyriwr ydy amser gorau ein bywyd ac felly pam nad ymestyn y profiad hwn un cam ymhellach trwy barhau i astudio? Er bod cyrsiau ├┤l-raddedig yn ddwys ac yn amlwg maeÔÇÖn rhaid ymdrechu llawer, mae hi dal yn gyfle i chi fyw ÔÇÿbywyd myfyriwrÔÇÖ. Mae hyn yn enwedig wir os oes gennych chi ffrindiau ar gyrsiau israddedig pedair blynedd ond rydych chiÔÇÖn astudio cwrs tair blynedd. Gallai flwyddyn ychwanegol cynnig profiadau gwych a chymwysterau gwerthfawr!