Llun gan Cynwal ap Myrddin

Cyngor gan Cynwal: sgwrs gydag Is-Lywydd y Gymraeg

Ar ddechrau blwyddyn newydd, pwy well i roi gair o gyngor na’r Is-lywydd ei hun, Cynwal ap Myrddin? Cawsom sgwrs gyda Cynwal am ei rôl, ei obeithion ar gyfer y flwyddyn, a’i gyngor i’r rhai sy’n dechrau ar eu taith prifysgol…

Pwy wyt ti a beth yw dy rôl eleni? 

Cynwal dw i, a fi ydi Is-lywydd y Gymraeg ar gyfer y flwyddyn academaidd yma. Dw i’n gyfrifol am Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (UMCC), sef corff sy’n rhan o’r undeb sy’n gyfrifol am faterion Cymraeg. 

Sut mae’r brifysgol yn cefnogi’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth? 

Ma’ UMCC yn cael ei redeg gen i a chriw o fyfyrwyr sydd wedi cael eu hethol fewn i’r swydd. Da ni’n gyfrifol am fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, ac yn gweithio’n agos gyda’r GymGym (y gymdeithas Gymraeg), Aelwyd y Waunddyfal ayyb.

Da ni gyda’n gilydd yn trio darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr ar wahanol agweddau – fel nosweithiau allan, clybiau darllen i frecwast, canu mewn corau ac ati. Yn rhan o’r GymGym mae gennych chi bethau fel timau pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd. Mae’r holl agweddau yma’n helpu i greu bywyd prifysgol lawn i’n myfyrwyr Cymraeg. 

Beth fyddai dy gyngor i fyfyriwr blwyddyn gyntaf? 

Mynd amdani, mwynhau pob eiliad a manteisio ar bob cyfle sy’n dod! Dw i’n edrych yn ôl rŵan fel rhywun sydd newydd raddio ac aeth y cyfnod mor sydyn. Mwynhewch, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwasgu pob diferyn posib o’ch tair blynedd, achos mae o’n hedfan mynd! 

Wrth edrych yn ôl ar dy brofiad yn y brifysgol, beth oedd yr uchafbwyntiau? 

Nes i fod yn ofnadwy o ffodus i fod yn llywydd y GymGym yn ystod fy ail flwyddyn. Ma’r flwyddyn yna’n sefyll allan i mi. Mi roedd rhaid i mi drefnu tripiau rhyngol, trefnu gwledd ‘dolig a threfnu crols wythnos y GymGym – oedd o’n lot fawr o hwyl, dipyn o waith, ond roedd y mwynhad o weld pawb yn joio’n rwbath arbennig iawn. 

Pa mor bwysig oedd y GymGym wrth siapio dy brofiad prifysgol? 

Y GymGym, yn bendant, oedd y prif beth i fi wrth edrych yn ôl ar fy mhrofiad. Dyna le nes i gwrdd â’m ffrindiau i gyd – ro’n i’n byw mewn tŷ o ddeuddeg yn yr ail flwyddyn, pob un ohonon ni’n aelodau o’r GymGym, yn chwarae pêl-droed neu rygbi. Dw i’n meddwl hefyd am dripiau Chwe Gwlad, penwythnosau gwyllt a gwirion, ond hefyd penwythnosau lle ti’n cwrdd â llwyth o fyfyrwyr ar draws Cymru. 

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i rywun sy’n teimlo’n nerfus am ymuno a’r GymGym neu fynychu digwyddiadau Cymraeg? 

Dw i’n gwybod fod rhai pobl weithiau’n teimlo fel bod nhw ddim yn perthyn i’r GymGym, ond erbyn hyn ma’ bron i 300 o aelodau yn rhan ohoni. Felly’n bendant mae ‘na bobl o wahanol gefndiroedd, hefo gwahanol ddiddordebau a ma’ yna groeso mawr i bawb. Ma’n bosib i bawb ffeindio’u criw yn y GymGym, felly ewch amdani! 

Pa ddigwyddiadau sy’n codi yn yr wythnosau nesaf?

Ma’ dechrau tymor wastad yn gyfnod cyffrous! Wythnos nesa’ ma’ hi’n Ddiwrnod Shwmae Su’mae, sy’n annog pawb i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Felly i ddathlu hynny, mae UMCC yn cynnal brecwast yn y Taf am 12 – mae ‘na groeso cynnes i bawb, a bysa fo’n braf gweld cyn gymaint â phosib yno. 

Hefyd, byddwn ni’n mynd i fyny i Aberystwyth ar gyfer y Ddawns Rhyngolegol – gyda Bwncath, Buddug a Maes Parcio yn perfformio. Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny. Bydd hi’n gyfle i weld hen ffrindiau o brifysgolion ledled Cymru. 

Beth sy’n dy gyffroi fwyaf am y flwyddyn sydd o dy flaen? 

Un peth dw i’n edrych ymlaen at yn arbennig yw ‘Steddfod Rhyngol sy’n dychwelyd i Gaerdydd am y tro cyntaf ers degawd. Mae’r ‘Steddfod yn digwydd dros ddeuddydd – gyda thwrnament chwaraeon ar y dydd Gwener, y ‘Steddfod draddodiadol ar y dydd Sadwrn, ac yna gig i gloi yng Nghlwb Ifor Bach. 

Bydd trefnu’r digwyddiad yn cymryd llawer o’m hamser – hel arian, trefnu amserlenni – ond dw i’n siŵr y bydd hi’n benwythnos i’w chofio. 

Geiriau gan: Lili Ray