Dwi wrth fy modd yn mynd am dro, neu am ‘wacen’ fel ni’n dweud yn y Gorllewin. Mae’n gyfle da i fynd ar ben fy hun am lonydd, neu fynd efo teulu a ffrindiau i gael ‘catch up’ bach. Wedi fy magi yng nghefn gwlad, mae bod yng nghanol byd natur yn teimlo’n gartrefol iawn i mi.
Yn ystod fy nghwrs israddedig, Daearyddiaeth Amgylcheddol, ges i’r cyfle i ymweld â nifer o lefydd tu hwnt i Gaerdydd, megis Ogmore Bay, Kenfig Hill ac Oxwich Bay. Er bod y teithiau yma wedi’u trefnu gan y brifysgol, mae’r llefydd yn ddigon agos i ymweld â nhw ar drên. Dwi’n eu hargymell yn fawr os da chi’n hoffi traethau a golygfeydd gwych!
Un wâc nes i wir fwynhau oedd cerdded i Gastell Coch ar hyd Llwybr Taf. Es i efo grŵp o ffrindiau, gan gerdded tua 16.1km cyn gorffen yn Ffynnon Taf i ddal y trên adre. Roedd hyn yn gost-effeithiol hefyd, gan mai tua £3 oedd trên nol. Stopion ni mewn caffi yng nghanol y goedwig am ‘pit stop’ cyn ymweld â’r castell, lle talon ni tua £7 yr un. Roedd o’n werth chweil i ddysgu am hanes y castell a’r ardal!
Mae mynd am dro yn ffordd wych o gadw’n iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’n gyfle i ddianc rhag brysurdeb y ddinas a bywyd prifysgol. Does dim rhaid teithio’n bell na gwario llawer o arian i wneud hynny!
Geiriau gan: Elen Evans
Er bod ein Prifysgol yng nghanol prifddinas fywiog Caerdydd, mae digonedd o fannau gwyrdd a llefydd tawel i ddianc rhag prysurdeb y ddinas a mwynhau tro bach yn yr awyr agored. Dyma ychydig o awgrymiadau am lefydd hyfryd i fynd am dro yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Parc Bute
Ychydig funudau yn unig o’r Brifysgol mae Parc Bute. Mae amrywiaeth o lwybrau cerdded drwy’r parc, gyda rhai
ohonynt yn ymestyn tuag at Gerddi Soffia, Llwybr Taf a Chaeau Pontcanna.
Yng nghanol y parc, gallwch hefyd gymryd saib haeddiannol yn un o’r caffis lleol, fel The Secret Garden neu Servini’s. Mae’r ddau yn llefydd gwych i fwynhau coffi a chacen, cael sgwrs gyda ffrindiau neu ymlacio cyn parhau â’ch taith gerdded.
Parc y Rhath
Ychydig ymhellach o Cathays mae Parc y Rhath, un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd.
Gyda llyn prydferth a goleudy yn ganolog i’r parc, mae’n lle delfrydol i fwynhau ychydig o heddwch a thawelwch.
Mae’r llwybr o amgylch Parc y Rhath a’r Rec tua 5km, sy’n ei wneud yn berffaith ar gyfer taith gerdded o ryw awr, boed ar eich pen eich hun neu yng nghwmni ffrindiau.
Mae digon o fywyd gwyllt i’w weld hefyd, gan gynnwys elyrch a hwyaid sy’n aml yn crwydro ar hyd ochr y llyn.
Penarth
Os hoffech fentro ychydig ymhellach, gallwch fynd am dro (neu ar y trên) i Benarth, tref ychydig tu allan i’r ddinas ei hun. Mae digon i’w wneud ym Mhenarth, o grwydro drwy’r strydoedd bach a’r siopau annibynnol i ymweld â’r caffis lleol. Wrth gwrs, does dim taith i Benarth yn gyflawn heb fynd am dro ar hyd y traeth ac ymweld â’r pier.
Os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol, gallwch gerdded yr holl ffordd o Gaerdydd i Benarth drwy groesi Morglawdd Bae Caerdydd. Mae hon yn ffordd wych o fwynhau golygfeydd y Bae ar y ffordd, a chyfle i grwydro’r ardal cyn parhau â’ch taith.
Felly, os ydych chi angen seibiant o’r astudio, awydd cael rhywfaint o awyr iach neu’n chwilio am ffordd o fwynhau lliwiau’r Hydref, mae digon o lefydd hyfryd i’w darganfod yng Nghaerdydd.
Geiriau gan: Myfanwy Grug
e.g Featured image courtesy of Alexander Grey via Unsplash. No changes have been made to this image. Image licence found here

