Gan Elen Lois Jones
Heb os nac oni bai, roedd dod iÔÇÖr brifysgol yn codi braw arnaf. Roeddwn iÔÇÖn pryderu am bopeth ac yn gwneud problem allan o ddim byd. Yn bennaf, y peth roeddwn iÔÇÖn colliÔÇÖr mwyaf o gwsg drosto oedd sut yn y byd oÔÇÖn iÔÇÖn mynd i neud ffrindiau? I rywun sydd prin yn yfed alcohol, yn dioddef o glawstroffobia ac yn hynod letchwith mewn unrhyw sefyllfa gymdeithasol – roedd y syniad o gyrraedd wythnos y glas, yn nabod neb, yn ddigon iÔÇÖn ngwneud iÔÇÖn s├ól ! Ond, wrth feddwl yn ├┤l, roeddwn iÔÇÖn bod yn wirion. Roeddwn iÔÇÖn dod i brifddinas Cymru, gyda channoedd o bobl ifanc arall mewn sefyllfa debyg, pob un ohonom niÔÇÖn ysu i wneud ffrind!
Dwi bellach yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, y flwyddyn ddiwethaf oÔÇÖn nghwrs israddedig, ac yn teimloÔÇÖn reit hapus o gydnabod mod i wedi gwneud tipyn o ffrindiau ar hyd y ffordd. Ond gallwn i fyth ddweud hyn heb yr help o fynychu grwpiau cymdeithasol o fewn y brifysgol, dros fy nghyfnod o fod yma.
Dyw hi ddim yn Ddydd Mercher heb i Gathays fod yn orlawn o grysau gwirion, amrywiaeth o wisgoedd ffansi a phob myfyriwr ar dop eu clychau, yn ysu i dyrru draw at Y Plas, yn yr Undeb tan oriau man y bore. Does dim dwy amdani, fyddant yn bresennol iÔÇÖr darlithoedd am 9 y bore wedyn aÔÇÖi hwynebau llawn glityr a blas y kebab yn dal i fodoli yn eu cegau fel tystiolaeth oÔÇÖr noson cynt.
Mae ymuno ├ó chymdeithas yn y brifysgol yn cynnig teimlad o berthyn i gymuned; mewn dinas fawr, maeÔÇÖn hawdd mynd ar goll. Ond mewn m├┤r o fyfyrwyr, diethyr, maeÔÇÖr gymdeithas yn rhoi teulu, cymorth ac yn fwy na dim, ffrindiau. Yn bersonol, mae ymuno ├ó chymdeithasau gwahanol yn y brifysgol wedi golygu mod i wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fyddwn i byth wedi breuddwydio gwneud pe na fyddwn i wedi cael fy rhoi yn y sefyllfa yna, diolch iÔÇÖr gymdeithas.
Gallaf gofio pryderu am fy nhr├┤l gyntaf gydaÔÇÖr Gymdeithas Gymraeg (Y Gym Gym) yn wythnos y glas, ÔÇÿCr├┤l TeuluÔÇÖ, ond wir, wedi tair blynedd o ddigwyddiadau tebyg, allaf ddweud ├ó llaw ar fy nghalon na fyddai fy mhrofiad ym Mhrifysgol Caerdydd, yr un peth, heb i mi ymuno ├óÔÇÖr Gym Gym. MaeÔÇÖr gymdeithas wedi cynnig tripiau lu, dros y tair blynedd ddiwethaf dwi wedi bod o Gaerdydd i Gaeredin, i Abertawe ac Aberystwyth ac eleni eto fyddwn ni gyd yn hwylio draw i Ddilyn i wylio CymruÔÇÖn chwarae oddi cartref. Ond anghofiaf i fyth fy nhrip gydaÔÇÖr Gym Gym i Lambedr Pont Steffan, o bob man! O fewn yr un gymdeithas hyn, mae amryw o gyfleoedd boed yn b├¬l-droed, p├¬l-rwyd, rygbi neu farddoni a chanu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn flynyddol.
Dydw i ddim yn berson sydd yn serenni wrth gystadlu mewn timau chwaraeon, ond does dim modd anwybydduÔÇÖr gemau wythnosol, yr ymarferion aÔÇÖr dathlu boed ennill neu golli, ac mae hyn i gyd diolch iÔÇÖr cymdeithasau o fewn y brifysgol. Er nad ydw iÔÇÖn rhan o d├«m dwiÔÇÖn nabod llu o bobl sydd wedi dod i nabod eu ffrindiau gorau yn eu carfannau chwaraeon.
Ond i mi, fy hoff gymdeithas yw Aelwyd y Waun Ddyfal. MaeÔÇÖn gyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ymgynnull ar nos Lun i ganu, llefaru ac yn fwy na dim cymdeithasu. MaeÔÇÖr chwerthin wythnosol yn donic drwy firiÔÇÖr Brifddinas.
DwiÔÇÖn sicr na fyddwn i wedi mwynhauÔÇÖr brifysgol hanner cymaint petawn i ddim wedi ymaelodi ├óÔÇÖr cymdeithasau amrywiol ar draws y blynyddoedd, ac yn bendant na fyddwn i wedi gwneud ffrindiau oes hebddynt !