Dydd Miwisg Cymru – Cyfweliad gyda Efan Williams

Ar ddydd Mawrth y 10fed o Chwefror roedd hi’n ddydd Miwsig Cymru. Diwrnod penodedig i
ni Gymry, i ddathlu a dangos ein cariad tuag at y sîn gerddorol unigryw sydd gennym ni yma
yng Nghymru.

Band Cymraeg, lleol sy’n brysur fynd o nerth i nerth yw Dadleoli, roeddwn i’n ddigon ffodus i
gael cyfweliad gyda’r prif-leisydd, Efan Williams. Mae Efan, 18, yn byw yng Nghaerdydd, yn
fyfyriwr blwyddyn olaf yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac yn astudio Cerdd, Drama a
Thechnoleg Cerddoriaeth.


Beth ydi’ch hanes chi fel band?

Daeth y band at ei gilydd nôl yn 2022 pan nathon ni gyd fynychu sesiwn cyfansoddi efo
Mei Gwynedd (sydd nawr yn fentor ac yn gynhyrchwr i ni). Fi oedd babi’r sesiwn go iawn gyda’r
gweddill o leia ddwy flynedd yn hyn na fi. Er hyn, nathon ni glicio’n syth “and the rest is history”
fel sa nhw’n deud.


Roedd hi’n Ddydd Miwsig Cymru ddydd Mawrth diwethaf, pam dy fod di’n meddwl fod y diwrnod yn bwysig yng Nghymru?

I fi, ma Dydd Miwsig Cymru mor bwysig er mwyn i ni ddathlu rhan hynod bwysig o’n
diwylliant ni. Falle bod ni’n cael ein hystyried fel gwlad sydd yn ffocysu ar ganu corawl neu
gerdd dant ac er bod rheiny’n grêt – ma’r ffaith bod ni’n medru sgwennu caneuon o bob arddull
drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth sy’n haeddu cael ei ddathlu.

Beth ydi dy hoff beth di am fod yn rhan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg?

Dwi’n teimlo’n eithriadol o lwcus fy mod i’n ran o’r sîn. Er mai rhan bach mewn pwll enfawr o
dalent ydyn ni fel band, mae’r talent o’n cwmpas ni yn ein ysbrydoli a’n gwthio ni i fod yn well
bob dydd.


Rydych chi am fod yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach yn dilyn yr Eisteddfod Rhyng-Gol.
Wyt ti’n edrych ymlaen?

Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i berfformio yng Nghlwh Ifor Bach ar ôl Steddfod Rhyngol
ddiwedd y mis. Er nad ydw i’n ddigon hen i fod yn ran o’r cystadlu, dwi’n edrych ymlaen i
glywed yr hanes a bod yn rhan ohono!


Pa brofiad sydd wedi aros yn y côf ers perfformio gyda’r band hyd yn hyn?

Dwi’n dweud hyn bob tro – ond na’i fyth anghofio’r tro cyntaf i ni sylweddoli bod aelodau’r
gynulleidfa’n gwbod y geiriau. Tafwyl 2023 ac ers hynny, mae’r gefnogaeth wedi parhau a
thyfu! Uchafbwynt y band siŵr o fod fyddai Tafwyl 2025 neu Maes B 2025, Wrecsam!


Beth ydi dy gynlluniau a dy obeithion ar gyfer y dyfodol?

O ran fy nghynlluniau i, dwi’n gobeithio parhau i allanoli fy nghreadigrwydd drwy’r Gymraeg.
Boed hynny drwy ysgrifennu mwy efo’r band, yn unigol neu i berfformio mewn sioeau cerdd
efallai (rhywbeth arall sydd yn fy ymddiddori). O ran y band, da ni’n gobeithio ysgrifennu mwy o gerddoriaeth eleni. Da ni wedi bod yn lwcus i godi fyny’r lineups yn flynyddol ond da ni’n gobeithio bydd un albym arall yn ein gwthio ni tuag at frig y lineups!

Geiriau gan: Ela Rhys

Scroll to Top