Gan Siân Jones
Mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod hudol, diwrnod i ddathlu cariad rhwng partneriaid, aelodau teulu a ffrindiau ehangach. MaeÔÇÖr diwrnod yn cael ei ddathlu ym myd-eang, a miliynau o bobl yn gymer bwys yn eu bywydau prysur er mwyn cryfhau eu perthnasoedd efoÔÇÖr rhai mwyaf pwysig yn eu calonnau. Ar gyfer Dydd San Ffolant eleni, rydw i wedi creu rhestr eang o lefydd yng Nghaerdydd aller pobl mynd er mwyn dathluÔÇÖr ┼Áyl. MaeÔÇÖr cyrchfannau yma yn amrywio o rad i ddrud er mwyn cynnig popeth sydd ar gael yng Nghaerdydd. Mae rhoddion hael oÔÇÖch amser ar ddiwrnod mor bwysig ├ó hyn yn werth y byd, ond does dim disgwyl i dorriÔÇÖr waled er mwyn mwynhau!
Y cyrchfannau cyntaf ywÔÇÖr rhai rhad ac am ddim. Ar gyfer myfyrwyr maeÔÇÖn anodd ceisio cael diwrnod allan yn y ddinas heb dalu llawer o arian, felly rydw i wedi creu rhestr o leoliadau rhad ac am ddim i ymweld ag ar Ddydd San Ffolant, ar gyfer y rhai ohonom sydd angen arbed arian. Gan fod mis Chwefror yn eithaf twym ac yn penodiÔÇÖr cychwyn oÔÇÖr gwanwyn, y syniad cyntaf sydd gen i ar gyfer Dydd San Ffolant yw picnic ym mharc Bute. Ar ├┤l eich picnic yn y parc, allwch chi fynd iÔÇÖr amgueddfa. Nid yn unig yw daith iÔÇÖr amgueddfa yn addysgiadol, ond maeÔÇÖn rhad ac am ddim, yn golygu eich bod chi yn medru estyn eich diwrnod allan ymhellach heb orfod talu unrhyw arian ychwanegol.
Nesaf ywÔÇÖr cyrchfannau rhad yng Nghaerdydd, lleoliadau eto sydd yn medru creu diwrnod diddorol heb ofyn ormod yn ariannol. Yn gyntaf, maeÔÇÖn bosib cael taith rownd Castell Caerdydd am ddim ond ┬ú3.35 yr un, sydd yn syniad hwylus ar gyfer unrhyw un a diddordeb yn hanes, ond yn ogystal ├ó hyn, mae yna gerddi prydferth ar ben to’r castell ar agor iÔÇÖr cyhoedd i ymweld a. Mae yna nifer o adolygiadau yn canmol y gerddi, maeÔÇÖn debyg ei bod nhw yn boblogaidd iawn, felly maeÔÇÖn synhwyrol i fwcio o flaen amser. Yn ail, maeÔÇÖn bosib teithio i Bae Caerdydd trwyÔÇÖr Aquabus am ┬ú4 yr un. Wrth wneud hyn, maeÔÇÖn ychwanegu elfen arall tuag at yr holl ddiwrnod ac yn rhoi pwyslais ar ba mor arbennig maeÔÇÖr profiad. Wedyn, ar ├┤l cyrraedd y Bae, mae nifer o leoliadau i fynd mas am fwyd/ddiodydd efoÔÇÖch partner. Os dydy bwyd yn y Bae ddim yn apelgar, mae canolfan y mileniwm yn y Bae yn cynnig nifer eang o berfformiadau, er enghraifft, ar Ddydd Sadwrn, 15fed o Chwefror, maeÔÇÖr Opera Cenedlaethol yn perfformio Les Vepres Siciliennes efo tocynnau o amryw bris yn dechrau am ┬ú14.
Syniad arall eithaf unigryw ar gyfer Dydd San Ffolant yw bwyty The Clink sef bwyty sydd yn cynnig hyfforddiant coginio i garcharorion er mwyn paratoi nhw i gyflwynoÔÇÖu hunain i gymdeithas unwaith eto. Dyma gynllun i geisio gwneud y carcharorion mwy cyflogadwy a rhoi cyfleoedd iddyn nhw wedi iddyn nhw gyflawni eu hamser. MaeÔÇÖr bwyty yn eithaf drud yn cymharu ├ó llefydd arall yng Nghaerdydd, ond credaf fod y profiad yn werth y pris. Pris pryd tair gwrs yn y bwyty yw ┬ú39.95 yr un, neu am ddau gwrs maeÔÇÖn ┬ú15.95 yr un. MaeÔÇÖn rhaid bwcio o flaen llaw, fedrwch wneud hyn trwyÔÇÖr linc yma: https://theclinkcharity.org/.
Lleoliad arall maeÔÇÖn bosib ymweld ag ar gyfer bwyd Dydd San Ffolant yma yw The Coconut Tree. MaeÔÇÖr bwyty yma yn arbenigo yn fwyd stryd o Sri Lanka ac mae ganddyn nhw fwydlen ar gyfer llysieuwyr a fegans. MaeÔÇÖr bwyty yn cynnig profiad gwahanol os dydych chi ddim yn medru dewis beth i fwyta; am ┬ú20 yr un, maen nhwÔÇÖn cynnig i ddewis amrywiaeth o fwydydd oÔÇÖr fwydlen ar eich cyfer yn ogystal ├ó ÔÇÿHopperÔÇÖ sef crempog mewn si├óp bowlen wedi llenwi a winwns, cnau coco a salsa. Maent yn cynnig coctels hefyd ac mae rhai ohonyn nhw yn 2 am ┬ú10. Bargen.
I orffen fy rhestr o syniadau ar gyfer Dydd San Ffolant yng Nghaerdydd ywÔÇÖr syniad mwyaf drud, ond y mwyaf hwylus, sef Escape Room. Er bod Escape Room ddim yn bloeddio rhamant, maeÔÇÖr profiad o wneud Escape Room werth gwneud, ac maeÔÇÖn gyfle arbennig i bartneriaid fondio. Mae yna lu o lefydd yng Nghaerdydd i wneud Escape Roomoherwydd maen nhw mor boblogaidd, ond eto, yn debyg i weddill y cyrchfannau dwi di restri uwchben, maeÔÇÖn rhaid bwcio o flaen llaw. MaeÔÇÖn costio tua ┬ú20 yr un ar gyfer awr tu fewn Escape Room ac mae yna amryw eang o wahanol ystafelloedd i geisio dianc o. DymaÔÇÖr linc i fwcio: https://www.escaperoomscardiff.co.uk/
I gloi, gobeithio mae rhai o fy syniadau ar gyfer Dydd San Ffolant wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn creu diwrnod a phrofiad unigryw ar eich cyfer chi aÔÇÖch partner. Dymuniadau gorau ar gyfer Dydd San Ffolant!