Arsylwad o gem Cymru yn erbyn yr Eidal, 14 o Fawrth 2025
Fis Mawrth eleni, roeddwn i’n lwcus iawn i allu gwylio gêm ryngwladol rygbi Cymru yn erbyn yr Eidal yn Stadiwm y Principality. Roedd hi’n Super Saturday ac roedd ton o gyffro i’w deimlo yn ymledu drwy strydoedd y brifddinas. Wrth gerdded tua’r stadiwm gellir clywed angerdd y bobl a oedd yn canu yn y tafarndai neu ar y stryd. Roedd ‘na deimlad hynod gynnes a chysurus i’r ffaith fod pawb yng Nghaerdydd am yr un rheswm.
Wrth i’r amser nesáu at y gic gyntaf, ar dorf yn dechrau gwneud ei ffordd i’r stadiwm fawr, roeddwn i’n teimlo rhyw gyffro anhygoel i fedru cefnogi Cymru adre yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ers 4 mlynedd!
Un o elfennau fwyaf trawiadol y gêm i mi oedd clywed y canu yn y stadiwm. Cyn i’r ddau dîm gwneud ei ffordd allan i’r cae, clywsom gôr lleol yn canu nifer o glasuron Cymraeg. Arbennig oedd gallu bod yn un o’r miloedd oedd yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Awyrgylch wnâi byth anghofio. Roedd egni’r stadiwm yn wefreiddiol.
Yn wir, wedi’r chwiban gyntaf fe barhaodd yr egni drwy gydol yr hanner cyntaf. Roedd y canu, cefnogaeth a hapusrwydd y dorf yn llenwi’r lle, ac ar ôl hanner cyntaf cyffrous edrychais ymlaen at fwy. Ond, cyn cyffro’r ail hanner pylodd y goleuadau a dechreuodd y sioe hanner amser. Mae’n draddodiad newydd; 4 mlynedd yn ôl, doedd dim sioeau hanner amser dim ond siaradwyr yn trafod perfformiad y tîm. Roedd gwrando ar Josh Navidi yn gwneud set DJ yn cadw sylw’r dorf ac yn sicrhau bod yr egni’r parhau ymysg y dorf. Dwi’n credu iddo ychwanegu at y profiad o wylio’r gêm yn fyw, gan ei fod yn cyfuno dau beth holl bwysig i Gymru – cerddoriaeth a rygbi.
Wrth i mi wylio ail hanner y gêm a Chymru yn parhau i chwarae’n dda, roedd rhyw wefr wedi’i danio ynof. Roeddwn yn falch o fod yng nghanol y Principality; mor bwysig ydi cael lle y gallwn ddod at ein gilydd fel gwlad. Heb os, mae’r profiad o wylio Cymru’n chwarae yn fwy na gwylio gem, mae’n brofiad unigryw lle gallwn ymfalchïo yn ein hunaniaeth a theimlo emosiwn a balchder o fod yn Gymry.
Geiriau gan: Ella Thomas
Llun gan: Erin Davies

