Does dim ffordd well o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi fel myfyriwr na phenwythnos llawn hwyl yn yr Eisteddfod Ryng-golegol, a dyna’n union gafodd Caerdydd eleni.
Daeth uchafbwynt y calendr blynyddol i holl fyfyrwyr Cymraeg Cymru dros y penwythnos, gyda’r Eisteddfod Ryng-golegol yn ei hôl. Am y tro cyntaf mewn degawd, daeth y digwyddiad yn ôl i Gaerdydd, gan ddenu dros 600 o fyfyrwyr Cymraeg o bob cwr o’r wlad i’r brifddinas.
O’r caeau chwaraeon i lwyfan yr Eisteddfod ac wedyn i’r llawr dawnsio, roedd hi’n benwythnos llawn egni, cystadlu a chymdeithasu.
Dydd Gwener – Y Twrnament Chwaraeon
Wedi bore cynnar i’r rhai oedd yn teithio i Gaerdydd, roedd y twrnament chwaraeon ar waith drwy’r dydd, Ddydd Gwener. Er gwaethaf y glaw, roedd Caeau Llanrhymni yn llawn o chwaraewyr a chefnogwyr; pawb yna i ddathlu, bloeddio ac wrth gwrs, yfed!
Enillodd Caerdydd y pêl-rhwyd, rygbi bechgyn, pêl-droed merched a’r pêl-droed bechgyn, ond yn anffodus, merched Abertawe gipiodd y cwpan Rygbi merched eleni. Serch hynny, roedd hi’n llwyddiant mawr i Gaerdydd, a’r brifddinas unwaith eto ar y brig gyda’r Cwpan Chwaraeon, rheswm perffaith i ddathlu!
Dyna oedd nesaf ar restr y dydd wrth i bawb ddechrau paratoi ar gyfer noson yn y ddinas. Brewhouse oedd yn gyntaf, cyn i bawb heidio i hoff glwb nôs y GymGym sef Retro’s i ddangos sut mae wir joio yng Nghaerdydd. Mae’n siŵr nad oedd Retro’s erioed wedi gweld gymaint o bobl trwy’r drysau o’r blaen. Roedd hi’n noson llawn sbort, dawnsio a chwerthin a’n gyfle gwych i gymdeithasu gyda ffrindiau o brifysgolion eraill sy’n gwneud y Rhyng-gol mor wych.
Dydd Sadwrn – Yr Eisteddfod
Roedd hi’n fore cynnar i’r myfyrwyr oedd yn barod i gystadlu, er nad oedd llawer wedi mentro i’r Eisteddfod ei hun cyn canol dydd. Er bod Caerdydd yn serennu ar y cyrtiau a chaeau chwaraeon, nid yr un oedd yr hanes ar lwyfan yr Eisteddfod.
Daeth Caerdydd yn drydydd yn ei heisteddfod gartref – tipyn o gamp o ystyried eu bod wedi dod yn olaf am nifer o flynyddoedd ynghynt, ac ond ychydig tu ôl i Fangor a ddaeth yn ail. Am y drydedd flwyddyn yn olynol, y coleg ger y lli gipiodd y darian unwaith eto, er nad oedd Bangor na Chaerdydd yn rhy bell ar eu hôl.
Er nad oedd Caerdydd wedi ennill yr Eisteddfod, does dim amheuaeth y byddent wedi ennill am y dathlu gorau, serch y canlyniad.
Er nad oedd Caerdydd wedi ennill yr Eisteddfod, does dim amheuaeth y byddent wedi ennill am y dathlu gorau, serch y canlyniad.
Nos Sadwrn –cyfle i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg yn y gig rhyng-golegol. Buddug a TewTewTenau oedd yn cau’r noson yng Nghlwb Ifor Bach eleni, gyda Yr Hunanol, Dadleoli a Dros Dro yn eu cefnogi. Roedd Clwb Ifor Bach yn llawn dop gyda thocynnau wedi hen werthu allan.
Diweddglo gwych i benwythnos llawn dathlu a dwlu, cyn i Fangor, Aberystwyth ac Abertawe ei throi hi am adref fore Sul, gan obeithio bydd yr Eisteddfod Rhyng-gol hanner cystal ym Mangor flwyddyn nesaf.
Geiriau gan: Myfanwy Lewis

