Mae mudiad yr Urdd yn un oÔÇÖr mudiadau mwyaf yng Nghymru ac yn agos iawn i galonnau plant, pobl ifanc ac oedolion y wlad. Ers cael ei sefydlu n├┤l yn 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards, maeÔÇÖr mudiad wedi cynnig ac yn parhau i gynnig ystod eang o brofiadau a chyfleoedd i dros 55,000 o aelodau ifanc. Yn cynnig dros 150 o glybiau chwaraeon wythnosol gyda dros 11,000 o blant yn cymryd rhan, a heb anghofio Eisteddfod yr Urdd, sydd yn cael ei gynnal yn flynyddol ac yn rhoi llwyfan anferth iÔÇÖn plant a phobl ifanc gael dangos eu doniau mewn amryw o gystadlaethau canu, actio, dawnsio a llenyddol. MaeÔÇÖr Urdd yn fudiad arbennig iawn i nifer ohonom yma yng Nghymru.
Yn sgil Covid-19, eleni bu rhaid iÔÇÖr Urdd gau dri gwersyll, yng Nglan Llyn, Llangrannog a Chaerdydd dros dro yn yr un modd a gohirio amryw o weithgareddau gan gynnwys yr Eisteddfod. O ganlyniad, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar y mudiad, drwy golli staff ac yn gwynebu heriau ariannol.
Dywed y mudiad iÔÇÖr BBC mai dyma ywÔÇÖr cyfnod fwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes, ac maent yn rhagweld y bydd gostyngiad incwm sylweddol o ┬ú14 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf a cholledion o dros ┬ú3.4 miliwn iÔÇÖr mudiad, yn ychwanegol dywed Sian Lewis, Prif Weithredwr y mudiad bod yr Urdd yn rhagweld cyfnod anodd oÔÇÖu blaenau.
O achos yr heriau canlynol, dywedodd Sian Lewis y byddai angen edrych ar bob ffynhonnell bosib i achub swyddi ac i addasu er mwyn diogelu parhad y mudiad yn hirdymor. Felly yng nghanol mis Tachwedd, roedd gwefannau cymdeithasol wedi eu llenwi gyda lluniau oÔÇÖr Cymry ynghyd a rhai o enwogion y wlad, i gyd yn eu coch, gwyn a gwyrdd!
ÔÇ£I droi Cymru yn goch, gwyn a gwyrdd y gaeaf hwnÔÇØ
Cyhoeddodd yr Urdd ymgyrch newydd oÔÇÖr enw ÔÇÿHet i HelpuÔÇÖ fel rhan oÔÇÖu hymgais i godi arian iÔÇÖr mudiad. Dywed yr Urdd mewn datganiad, mai bwriad yr ymgyrch oedd i droi Cymru yn goch, gwyn a gwyrdd y gaeaf hwn, a’i fod yn gyfle i bobl ddangos eu cefnogaeth iÔÇÖr mudiad.
MaeÔÇÖr ymgyrch yn cynnwys partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth B├¬l-droed Cymru. Gan gynnwys rhai o wynebau enwocaf y maes, sef Aaron Ramsey, Natasha Harding a Daniel James.
MaeÔÇÖr ymgyrch yn cynnwys fideo llawn cyfraniadau gan enwogion, yn diolch iÔÇÖr mudiad am yr holl brofiadau a chyfleoedd maent wedi eu cael gan yr Urdd dros y blynyddoedd.
Ers cyhoeddiÔÇÖr ymgyrch, maeÔÇÖr mudiad wedi gwerthu nifer sylweddol o hetiau sydd yn parhau i fod ar y farchnad am ┬ú15.
Ydych chi wedi prynu eich het i helpu eto?
┬áEwch draw i wefan yr Urdd i arddangos eich cefnogaeth i fudiad sydd wedi siapioÔÇÖr defnydd oÔÇÖr Gymraeg ymysg ein plant a phobl ifanc, Mae’n fudiad sydd wedi cynnig cyfleoedd bythgofiadwy, yng Nghymru a thu hwnt! Cefnogwch achos dda os gallwch chi!
www.urdd.cymru/cy/cefnogi/het-i-helpu/
Geiriau gan Dafydd Wyn Orritt.
Lluniau gan Urdd Gobaith Cymru.