IÔÇÖm a Celebrity… Gad imi Ddianc Rhag Gogledd Cymru!

Nid yw eleniÔÇÖn flwyddyn arferol, ac rydym ni wedi dod i arfer ├ó llawer o newidiadau. Newid arall sydd i ddod yw lleoliad y rhaglen adnabyddus ÔÇÿIÔÇÖm a Celebrity… Get Met Out of Here!ÔÇÖ ar sianel ITV, a fydd yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych, Abergele eleni.

Dyma fydd 20fed gyfres y rhaglen, ac mae gwylwyr ar bigauÔÇÖr drain eisiau gwybod sut fydd criw ITV yn penderfynu creuÔÇÖr rhaglen gydaÔÇÖr set newydd. Mi fydd y rhaglen yn symud oÔÇÖr jwngl adnabyddus yn Awstralia i Gastell Gwrych yng Ngogledd Cymru. MaeÔÇÖr symudiad yn newid mawr syÔÇÖn sicr o hollti barn. Fodd bynnag, rwyÔÇÖn bersonol yn edrych ymlaen at weld beth sydd gan y gyfres yma i gynnig!

Y Lleoliad

MaeÔÇÖr lleoliad newydd yn creu cyfle gwych i arddangos harddwch ardal Abergele. Mae Castell Gwrych yn gastell oÔÇÖr 19eg ganrif ac maeÔÇÖr set wedi ei gwasgaru dros 250 erw o dir a gerddi. Felly, gallwn ddisgwyl digon o amrywiaeth a saethiadau hardd ar ein sgriniau. Gyda lleoliad mor ddiddorol, falle na fydd yr enwogion eisiau gadael! Felly, tybed a fydden niÔÇÖn clywed yr ymadrodd ÔÇÿGet me out of here!ÔÇÖ gan enwogion y gyfres eleni ai peidio? 

MaeÔÇÖn debygol fydd pobl yn rhoi mwy o sylw i Gymru yn gyffredinol yn ogystal ag Abergele, yn dilyn y rhaglen. MaeÔÇÖr rhaglen hefyd wedi cael cadarnhad y bydd ffilmioÔÇÖn cael parhau, er y ffaith bod Sir Conwy ar hyn o bryd yn gorfod dilyn cyfyngiadau cyfnod clo lleol.

A Fydd yr Hiwmor i Bawb?

Mae rhai yn poeni y bydd gormod o ystrydebau am y Cymry a chwerthin am ein pennau. Ar gyfryngau cymdeithasol, mae trigolion Abergele wedi bod yn rhoi cyngor i gynhyrchwyr ITV gan nodi nad ydyn nhw eisiau gweld j├┤cs annoniol am ddefaid neu am ynganu enwau llefydd Cymraeg yn ymddangos ar y sioe.

Wedi dweud hynny, rwyÔÇÖn credu bod y j├┤c fawr sef 2020 wedi rhoi digon o ddefnydd iÔÇÖr cyflwynwyr, Ant and Dec, ar gyfer y gyfres eleni (o leiaf). Felly rwyÔÇÖn gobeithio bydd digon o hiwmor y gall bawb fwynhau yn y gyfres eleni, rhywbeth sydd angen arnom yn ystod y cyfnod hwn yn arbennig. Hefyd, pwy a ┼Áyr, falle fydd hyd yn oed cyfle i’r enwogion ddysgu ambell air Cymraeg neu ychydig am ein diwylliant fel Cymry!

MaeÔÇÖr cynhyrchwyr yn dal i gadw enwauÔÇÖr cystadleuwyr o dan eu het a does dim modd dyfalu pwy fydd yn cystadlu. Pe bawn i’n gallu dewis unrhyw un i gystadlu, buasai Louis Theroux yn bendant ar ben fy rhestr i. GydaÔÇÖi bersonoliaeth hoffus aÔÇÖi sgiliau newyddiadurol, maeÔÇÖn si┼Ár y bydd eÔÇÖn gallu cael gweddill yr enwogion i ddatgeluÔÇÖu cyfrinachau mwyaf. Yn ogystal, fuasaiÔÇÖn gwneud i ni chwerthin wrth wneud hynny!

Amser am Newid?

Gan fod cymaint oÔÇÖr rhaglen fel arfer yn seiliedig ar y jwngl, sef yr hen set, maeÔÇÖn anodd gwybod beth i ddisgwyl fel gwylwyr. Yn bersonol, rwyÔÇÖn credu bydd rhaid dechrau gwylioÔÇÖr gyfres gan gadw meddwl agored, bron fel pe baiÔÇÖn sioe hollol wahanol.

Er bod rhaglen ÔÇÿ IÔÇÖm a CelebÔÇÖ yn bendant yn ddifyrrus, maeÔÇÖr sioe wedi bod yn ddadleuol yn y gorffennol, yn enwedig oherwydd eu defnydd o anifeiliaid.  Er enghraifft yn 2009 derbyniodd ITV dirwy o ┬ú2000 ar ├┤l i’r cogydd Gino D’Acampo ac actor Hollyoaks, Stuart Manning, ladd llygoden fawr ar y rhaglen.

Ar ├┤l 19 cyfres, rwyÔÇÖn credu fod newid cyfeiriad yn syniad da. Yn enwedig wrth ystyried gall llawer oÔÇÖr ymddygiad yn y rhaglen fod hyd yn oed yn llai derbyniol yn gymdeithasol yn y dyfodol. Felly, maeÔÇÖr newid lleoliad yn rheswm da iawn i’r cynhyrchwyr ddechrau cymryd trywydd sydd ychydig yn wahanol.

Fydd rhaid i ni aros i weld a fydd y gyfres eleniÔÇÖn boblogaidd gyda gwylwyr eleni ai peidio? Ac yn bwysicach fyth, a fydd Keith yn ymddangos?… 

Geiriau gan: Rhiannon Jones.

Llun gan: Shafia Motaleb.