Cymru; gwlad y defaid, gwlad y gân, ond hefyd gwlad y llyfrau.
Mae llenyddiaeth yn rhan annatod oÔÇÖm cymdeithas ni yma yng Nghymru, ac mae hynny yn ddiolch iÔÇÖr rhestr hirfaith o awduron talentog sydd gennym ni yma. Awduron traddodiadol syÔÇÖn ymdrin ├ó them├óu crefyddol, teuluol a bywyd ar y fferm, hyd at awduron sydd yn gwthioÔÇÖr ffiniau o beth sydd yn real neu ddim, ac yn gwneud iÔÇÖr darllenydd gwestiynu hyn llall ag arall. MaeÔÇÖn deg dweud bod Cymru yn gartref i awduron arbennig.
MaeÔÇÖr diolch iÔÇÖr holl gyhoeddwyr llyfrau annibynnol sydd gennym yma, ac iÔÇÖr Eisteddfod Genedlaethol am gynnig platfform mawr i awduron gystadlu am y gadair neu y goron. Yn yr un modd ag Eisteddfod yr Urdd, sydd yn blatfform iÔÇÖn hawduron ifanc gael serennu a dangos iÔÇÖr awduron h┼Àn sut mae ysgrifennu stori yn y ganrif sydd ohoni! Heb anghofio am ÔÇÿLlenyddiaeth CymruÔÇÖ sydd yn hwb mawr i awduron hen a newydd, a hefyd sylfaenwyr gwobr ÔÇÿLlyfr y FlwyddynÔÇÖ a enillwyd gan yr awdur Alan Llwyd am ei nofel ffeithiol greadigol ÔÇÿByd Gwynn: Cofiant T. Gwynn JonesÔÇÖ. Caryl Bryn, yr awdures ifanc gymerodd y wobr am lyfr barddoniaeth y flwyddyn eleni am ei chyfrol ÔÇÿHwn ydyÔÇÖr llais, tybad?ÔÇÖ ÔÇô mynnwch gopi!
Amrywiaeth o lyfrau Cymraeg.
Mae bob math o lyfrau ar gael drwyÔÇÖr Gymraeg, rhai i ddysgwyr, rhai i blant a phobl ifanc, rhai iÔÇÖr rheiny syÔÇÖn hoffi sialens, ac iÔÇÖr rheiny syÔÇÖn hoffi stori├óu ysgafn. Un o fy hoff awduron i ers y chwechad ddosbarth yw Mihangel Morgan, er i mi gael fy mwydroÔÇÖn dwll am symboliaeth cymeriadau, ac ystyr enwau ei gymeriadau, mae llyfrau Mihangel Morgan yn sialens i’w darllen, ond mae Mihangel Morgan yn gwybod yn iawn sut i ysgrifennu nofel dda!
Un o fy hoff nofelau ganddo ydi ÔÇÿDirgel DdynÔÇÖ sef nofel cyntaf un yr awdur. Enillodd y nofel hon y Fedal Ryddiaith n├┤l yn 1993 yn Eisteddod Llanelwedd, tri argraffiad yn ddiweddarach a maeÔÇÖr nofel yma yn glasur. Yn ├┤l Gwales, nofel gelfydd, aml-haenog a thyn ei gwaed yw ÔÇÿDirgel DdynÔÇÖ sydd yn cadw sylw a diddordeb y darllenydd hyd y diwedd drwyÔÇÖr defnydd o gymeriadau sydd yn gwthioÔÇÖr ffiniau o beth sydd yn real neu ddim. Mynwch gopi i un o lyfrau fwyaf llwyddiannus Mihangel Morgan!
Un awdur sydd wedi gadael argraff arna i ywÔÇÖr awdur Llwyd Owen, yn enwedig efoÔÇÖi nofel ÔÇÿFfawd, cywilydd a chelwyddauÔÇÖ nofel sydd yn bendant angen caniatad rhiant cyn iÔÇÖw darllen! MaeÔÇÖr nofel yma yn un dra wahanol iÔÇÖr rhestr faith o nofelau Cymraeg cefn gwlad, crefyddol sydd gennym ni. Nid pawb fydd yn hapus iÔÇÖw darllen, ond maeÔÇÖn wir dweud bod y llyfr yma yn gwthio ffiniau yr hyn mae eiÔÇÖn Cymry wedi arfer ei ddarllen. Nofel sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd yw ÔÇÿFfawd, cywilydd a chelwyddauÔÇÖ ac yn dilyn stori hogyn ifanc sydd yn gweithio ym myd y cyfryngau. MaeÔÇÖr nofel yn ymdrin a themau dwys, ieithwedd gref a disgrifiadau manwl o gamdriniaeth alcohol, cyffuriau a rhyw.
Llyfr Glas Nebo.
Os ydych chi yn edrych am nofel sydd wedi dylanwadu ar y Cymry yn fawr iawn, y nofel honno ydi ÔÇÿLlyfr Glas NeboÔÇÖ gan yr awdures Manon Steffan Ros. Cipiodd y nofel ffuglen yma’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd 2018. Yn dilyn hynny, maeÔÇÖr nofel yma wedi dylanwadu yn sylweddol ar eiÔÇÖn ddarllenwyr ifanc a hen, ond hefyd ar y byd theatr. Ychydig ar ├┤l wythnos wedi ennill y Fedal Ryddiaith roedd y nofel ddylanwadol yma yn cael ei baratoi am ail argraffiad ac roedd ei chlawr ar hyd y gwefannau cymdeithasol i gyd!
Nofel sydd yn dilyn bachgen ifanc (Si├┤n) sydd wedi cael ei orfodi i dyfu fyny yn sydyn, ei fam Rowenna, aÔÇÖi chwaer fach Dwynwen. Mae hanes Si├┤n aÔÇÖi deulu i gyd yn cael ei gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth iddynt geisio goroesi ar ├┤l y Terfyn, digwyddiad erchyll a gafodd effaith sylweddol ar Si├┤n, ei deulu a thrigolion pentref Nebo a thu hwnt. Er ei fod yn nofel sydd yn hawdd iÔÇÖw ddarllen, maeÔÇÖr nofel yma yn sicr yn aros yn y cof am amser hir iawn, ac maeÔÇÖr berthynas rhwng y cymeriadau aÔÇÖr darllenydd yn berthynas rhyfedd iawn – yn bersonol dwi erioed wedi teimlo’r fath emosiwn tuag at gymeriadau ffuglen oÔÇÖr blaen ac yn sicr cyn cael fy nghroesawu i fyd Si├┤n, dydi llyfr erioed wedi fy ngwneud i grio.
Mynnwch gopi oÔÇÖr llyfrau yma, neu ewch draw i wefan Gwales i ddatgelu rhai o glasuron ein sin llenyddol gan rai o awduron gorau Cymru, megis Caryl Lewis, Dewi Prysor a llawer mwy!
Geiriau gan Dafydd Wyn Orritt / Llun gan Pixabay.