Gan Llion Carbis
“Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o friÔǪ” fel mae’r anthem yn datgan. Mae gan Gymru gwledd o unigolion creadigol i gynnig eu doniau i’r byd, yn enwedig yn y maes ffilm a theledu. Ategir hyn gan enwebiadau diweddar yr Oscars gyda Jonathan Pryce ac Anthony Hopkins yn cael eu enwebi am y ffilm The Two Popes. Serch hynny, nid yw Cymru yn arbennig o adnabyddus ledled y byd, yn enwedig yn nhermau ffilm a theledu. Bellach, mae mwyafrif o bobl yn ymgysylltu Cymru a chyraeddiadau chwaraeon, yn enwedig ers i Gareth Bale ymuno ├ó Real Madrid yn 2013. Ond pam nad yw’r un gydnabyddiaeth yn bodoli yngl┼Àn ├ó diwydiannau creadigol Cymru, yn benodol ffilmiau?
Nid oes angen edrych yn bell na ychwaith yn rhy hir i ddarganfod effeithiau pellgyrhaeddol ffilmiau. Pan gafodd Braveheart ei ryddhau yn 1995, ffilm ├ó enillodd pum gwobr yn yr Oscars (gan gynnwys ffilm gorau a chyfarwyddwr gorau) yn ogystal ag ennill $210.4 miliwn yn yr ÔÇÿbox office’; cafodd statws rhyngwladol a thwristiaeth yr Alban eu trawsnewid yn drawiadol.
Yn ddiweddar, gwyliais i Parasite, ffilm arall ├ó enillodd y ffilm a chyfarwyddwr gorau yn yr Oscars ac sydd wedi croesi $200 miliwn yn yr ÔÇÿbox office’. Mae’r ffilm yn wirioneddol anhygoel gan gynnig mewnwelediad a dadansoddiad craff a gwreiddiol o ddosbarthiadau cymdeithasol a dynoliaeth yn gyffredinol. Heb amheuaeth, mae’r ffilm yn cyfiawnhau ac yn haeddu’r cyffro sy’n bodoli ymysg adolygwyr a chynulleidfaoedd rhyngwladol.
Ond y gwahaniaeth allweddol rhwng y ddwy ffilm yw mai Parasite yw’r ffilm gyntaf erioed sydd ddim yn Saesneg i ennill y ffilm gorau yn yr Oscars. Mae’r ffilm Coreaidd ond yn cynnwys ychydig o eiriau yn y Saesneg, gyda gweddill y ffilm yn datblygu trwy mamiaith y cyfarwyddwr. Wrth ennill gwobrau helaeth, fe wnaeth Bong Joon-ho erfyn ar bobl i ehangu eu gorwelion sinematig trwy wylio ffilmiau mewn ieithoedd gwahanol. Wrth wylio campwaith Joon-ho, yr hyn wnaeth fy nharo i yw pam nad ydym yng Nghymru yn ceisio efelychu ei llwyddiant trwy greu ffilm yn y Gymraeg a’i thargedu i gynulleidfaoedd ledled y byd?
Yn 1993, Hedd Wyn oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei enwebi am Oscar yng nghategori’r ffilm tramor gorau. Yr unig dro arall i ffilm Gymraeg gael ei enwebi am Oscar oedd yn 1999 gyda’r ffilm Solomon a Gaenor yn yr un categori. Yn anffodus, dim ond $165,485 llwyddodd y ffilm i gymryd yn sinem├óu.
Mae defnyddio gwobrau’r Academi fel unig fesurydd ansawdd neu werth diwylliannol ffilm yn elitaidd ac yn gamarweiniol. Fodd bynnag, mae’r potensial am lwyddiant yn glir wedi i Parasite gosod cynsail hanesyddol yn dilyn ei llwyddiant masnachol a gwobrau helaeth. Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru yn ffynnu ar sail ei allbwn a phwysigrwydd i raglenni teledu, beth am i ni ddechrau uchafu potensial y sgrin fawr?
Mae Cymru, a diwydiannau creadigol yng Nghymru, wedi chware r├┤l allweddol i ddatblygiad sawl raglen teledu gyfoes. Mae rhaglen boblogaidd Netflix, Sex Education, yn cael ei ffilmio yng Nghymru ÔÇô ac mae cyfrifon cymdeithasol y rhaglen a’r sianel wedi hyrwyddo pwysigrwydd Cymru i’r rhaglen yn gyson ers iddo gael ei ryddhau yn Ionawr 2019.
Yn debyg, mae’r gyfres BBC a HBO, His Dark Materials, yn cael ei gynhyrchu gan y cwmni Cymreig Bad Wolf ac mae’r rhaglen yn cael ei ffilmio yng Nghymru gyda sawl lleoliad o’r brifddinas yn ymddangos. Mae’r rhaglen yma yn ogystal yn ymfalch├»o yn ei gwreiddiau Cymreig ac yn hyrwyddo’r ffaith bod y ffilmio yn digwydd yng Nghymru. Mae un o s├¬r y gyfres, Lin-Manuel Miranda, wedi s├┤n yn aml yn y cyfryngau am ei hoffter o Gymru gan gynnwys ‘rapio’ am y Gaerdydd i ddisgyblion o’r brifddinas wrth iddynt ymweld ├ó Central Park yn Efrog Newydd ym mis Hydref 2019.
Yn amlwg, nid yw’r rhaglenni hon yn y Gymraeg, ond maent yn dangos pa mor werthfawr mae allbwn creadigol Cymru i ganfyddiadau am, ac ymwybyddiaeth o Gymru. Mae rhaglenni megis Un Bore Mercher a’r Gwyll yn esiamplau diweddar o allu rhaglenni Cymraeg i apelio at gynulleidfaoedd di-gymraeg, ond beth am i ni fynd cam ymhellach?
Nid yw efelychu llwyddiant campwaith fel Parasite yn hawdd; mae gymaint o ffactorau amrywiol sy’n cyfrannu at greu ffilm ardderchog. Yn achos ffilm Bong Joon-ho, mae ansawdd y cyfarwyddo, gwreiddioldeb y stori, dyfnder y sylwebaeth gymdeithasol, gallu’r actorion a phrydferthwch y sinematograffi yn cyfuno i greu profiad sinematig hollol unigryw a chofiadwy. Ond, nid yw Cymru yn wlad sy’n amddifad o ddiwylliant, gallu creadigol, trafferthion neu chwedloniaeth.
Dychmygwch straeon anturus y Mabinogi yn cyrraedd sgriniau ledled y byd. Neu ffilm ddiwylliannol yn archwilio gwreiddiau’r iaith Gymraeg a’i allu i fodoli, esblygu a llewyrchu mewn gwyneb gorthrwm di-baid. Nid yw’r uchelgais yn un hawdd, ond hen bryd ydyw i ni yng Nghymru manteisio ar ein gallu i adrodd stori, i rannu ein diwylliant. Gall Straeon gwreiddiol – os yw’n cael eu hadrodd a’i addasu i’r sgrin fawr yn gywir – ysbrydoli cynulleidfaoedd rhyngwladol a rhoi Cymru ar fap creadigol y byd.

