Rhybudd; Mae’r erthygl yma yn trafod hunanladdiad a iechyd meddwl. Os ydych chi neu unrhyw un rydych chi’n adnabod yn dioddef, ffoniwch rhif 24 awr y Samariaid ar 116 123, neu am sgwrs drwy’r Gymraeg ffoniwch y rhif canlynol; 0808 164 0123.
MaeÔÇÖn anodd bod y person perffaith ‘na bob dydd dydy? Pawb yn barnu pawb, disgwyliadau uchel, y pwysa i gael y stwff diweddaraÔÇÖ ac i edrych ryw fath o ffordd arbennig. Dydi hyn ddim yn help i neb, yn enwedig yr unigolion ÔÇÿna sydd yn euÔÇÖn plith ni syÔÇÖn mynd trwy eu bywydau a ddim eisiau tarfu ar fywyd neb arall. Y pobl ÔÇÿna sydd yn dioddef ar ben eu hunain.
Rhan fwyaf oÔÇÖr amser, dynion sydd yn dioddef ar ben ei hunain. Hunanladdiad ydiÔÇÖr llofrudd unigol mwyaf i ddynion o dan 45 mlwydd oed.
Mae 1 o bob 4 yn dioddef o iechyd meddwl rhywbryd yn eu bywydau. I ddynion yn benodol, mae gofyn am gymorth, neu dod i gymod a dy deimladau yn anoddach fyth. Dim ond 36% o ddynion sydd yn dioddef a phroblemau iechyd meddwl sydd yn galw allan am gymorth proffesiynol, neu sydd yn agored am yr hyn maent yn eu teimlo. Mae hyn o achos y stigma anferth sydd yn ymwneud ac iechyd meddwl dynion, ac mae llawer iawn o ddynion yn parhau i gredu bod dioddef o iselder yn arwydd o wendid. Yn yr un modd, dydi dynion ddim yn adnabod problemau iechyd meddwl fel salwch, dim ond fel diffyg yn eu personoliaeth.
Mae dynion llawer fwy tebygol o beidio troi tuag at ffrind neu aelod o deulu er mwyn cael cymorth, yn hytrach maent yn fwy tebygol o droi tuag at orddefnydd o gyffuriau neu alcohol er mwyn trio dod i gymod aÔÇÖr hyn y maent yn eu teimlo, neu yn mynd drwyddo. Yn fwy byth, mae lefelau uwch o hunanladdiad ymysg grwpiau lleiafrifol o ddynion hoyw, dynion syÔÇÖn perthyn iÔÇÖr gymuned BAME a cyn filwyr y rhyfel. Yn yr un modd a dynion di-waith, neu sydd yn ennill cyflog llai.
MaeÔÇÖr dyn delfrydol mae cymdeithas wedi llunio yn lladd.
Mae dynion ers hyd a gwn iÔÇÖn cofio, yn cael ei bortreadu fel y person sydd fod i edrych ar ├┤l pawb arall, boed mewn rhaglen deledu, ffilm, neu nofel. Y dyn sydd fod i ennill y cyflog a darparu. Y dyn sydd fod i warchod pawb. Yn eiÔÇÖn cymdeithas draddodiadol ni y dyn sydd fod i edrych yn ddewr, cryf ac mewn rheolaeth. Ond dim hyn ywÔÇÖr gwirionedd. MaeÔÇÖr syniad yma o ddyn yn syniad sydd yn rhaid i ni fel cymdeithas ei drechu, gan fod y dyn modern llawer gwahanol iÔÇÖr dyn traddodiadol gwrywiadd mae cymdeithas wedi ei lunio. Mae dod i adnabod dy deimladau cyn gryfed ├óÔÇÖr hyn mae rhai o s├¬r Hollywood yn ei wneud ar y sgr├«n fawr.
MaeÔÇÖn amser i gymdeithas ladd y stigma niweidiol sydd yn amgylchynu iechyd meddwl.
Mae teimlo yn wahanol i bawb arall, neu crio yn gyffredin. MaeÔÇÖn rhywbeth cyffredin y dylai pawb deimlo yn gyfforddus iÔÇÖw wneud. Does gan emosiynau ddim rhyw. Mae rhaid i gymdeithas newid am y gorau. Mae arnom ni fwy o brif gymeriadau sydd yn teimloÔÇÖn wan, sydd yn wrthgyferbyniad llwyr o rhai oÔÇÖn harwyr mwyaf sydd yn perthyn i rai oÔÇÖr cyfresi fwyaf dylanwadol eiÔÇÖn hoes fel James Bond, neu hyd yn oed yr holl gymeriadau gwrywaidd mae Disney wedi ei greu, mae Disney hefyd yn euog am bortreadu dyn i fod yn or-wrywaidd. Mae arnom ni arwr sydd yn arddangos ei deimladau, sydd yn cael ei ofalu gan rywun arall. MaeÔÇÖr ffordd mae dynion wedi cael eu portreadu ac yn parhau iÔÇÖw cael eu portreadu yn ychwanegu yn fawr iawn tuag at y ffaith fod dynion ddim yn gyfforddus efo cydnabod eu teimladau a dod i arfer efo dangos ochr sydd yn fwy sensitif iÔÇÖr norm mae cymdeithas wedi ei lunio ers canrifoedd.
Ond, maeÔÇÖr gwaith mwyaf yn dod gennym ni, gan ein ffrindiau ni. MaeÔÇÖn haws dweud ÔÇÿna neud, ond mae siarad mor bwysig. Mae diwrnod cenedlaethol iechyd meddwl fory (Hydref y 10fed) cyfle i ddechrau sgwrs efoÔÇÖn ffrindiau neu aelodau gwrywaidd oÔÇÖm teulu. MaeÔÇÖr byd yn le rhyfedd iawn ar y funud, ond mae pob un ohonom efo dyletswydd i fod yn glen ac i fod yn ffrind neu yn glust i unrhyw un.
Mae cymorth drwyÔÇÖr iaith Gymraeg ar gael, mae hawl i bob un Cymro neu Gymraes gael cymorth drwy eu mamiaith. Ewch draw i wefan Meddwl.org am gymorth pellach, neu i ddarllen am brofiadau eraill am yr hyn maen nhw yn ac wedi bod trwyddo. Yn yr un modd, gallwch ffonio Samariaid Cymru ar 0808 164 0123.
ÔÇÿCofiwch, does dim un teimlad yn barhaol, a dydi hunanofal ddim yn hunanol, maeÔÇÖn hanfodolÔÇÖ
Geiriau gan; Dafydd Orritt.
Llun gan; Heledd Owen. @heleddowen.co.uk