Gan Rhiannon Jones
Bydd newidiadau i’r rheolau ynghylch pwy sy’n cael rhoi gwaed yn y DU yn golygu y gall mwy o ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed. Bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu erbyn haf eleni.
Mae’r gwaharddiad presennol yn golygu bod rhaid i ddynion ymgadw rhag rhyw gyda dyn arall am dair mis os ydynt am roi gwaed. Ar ├┤l y newidiadau, fydd y criteria newydd yn ystyried sefyllfa ac ymddygiad y person yn unigol, yn hytrach na gwaharddiad cyffredinol fel sydd gennym ar hyn o bryd.
Yn ├┤l y rheolau newydd, bydd unrhyw un sydd wedi bod gydag un partner rhywiol am dros dair mis yn cael rhoi gwaed a does dim gwahaniaeth beth yw eu cenedl, cenedl eu partner neu pa fath o ryw y maent wedi ei chael. Fodd bynnag, os yw rhywun wedi cael mwy nag un partner yn y tair mis diwethaf, maent yn cael rhoi gwaed os nad ydynt wedi cael rhyw refrol.
Blynyddoedd o ymgyrchu
Mae’r newidiadau’n dod ar ├┤l blynyddoedd o ymgyrchu. Cyn 2017, roedd rhaid i ddynion ymgadw rhag rhyw gyda dyn arall am flwyddyn cyn gallu rhoi gwaed.
Cafodd y pwnc mwy o sylw ar ├┤l deiseb gan Blood Equality Wales, a wnaeth dderbyn yn agos at 3,000 o lofnodion fis Awst y llynedd. Arweiniodd hyn at y newid yn y rheolau fydd mewn lle erbyn yr haf sy’n golygu y bydd pobl yn cael “asesiad unigol yn seiliedig ar risg” i benderfynu os ydynt yn cael rhoi gwaed, yn hytrach na’r cyfnod ymgadw cyffredinol.
Wrth gyhoeddi’r newidiadau, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething: “Bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl yn y gymuned LHDT+ wedi’u hwynebu.”
‘Cryn daith o’n blaenau‘
Mae┬áBlood┬áEquality┬áWales yn gr┼Áp ymgyrchu wedi’i leoli yn Ne Cymru, sydd wedi’u sefydlu gan Alex Bryant-Evans ac┬áArron┬áBevan-John. Mae’r gr┼Áp yn croesawu’r newidiadau ac yn credu bod “asesu pobl ar y risg yn hytrach na’u cyfeiriadedd rhywiol” yn bwysig.
Mewn sgwrs gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark┬áDrakeford; pwysleisiodd y p├ór bod y newidiadau yn fuddiol i bawb gan fydd mwy o roddion gwaed yn bosib “Mae hwn i bawb, nid jest y gymuned LHDT+.”┬á┬á
Fodd bynnag, maent yn credu bod dal mwy o waith i’w wneud. Dywedodd Alex Bryant-Evans, un o aelodau sefydlol Blood Equality Wales: “Mae hwn yn newyddion gwych i ddynion hoyw a deurywiol mewn perthynas ag un dyn, ond mae dal cryn daith o’n blaenau”

